Yn ddiweddar mae tafarn Penbont yn Llanrug wedi dod yn ganolbwynt i gigs Cymraeg cymunedol. Ni fyddai nosweithiau Penbont wedi cael eu cynnal oni bai am Donna Taylor o Lanrug sydd wedi trefnu’r gigs a sicrhau bod yr elw’n mynd i elusennau lleol.
Cwestiwn ag Ateb gyda Donna!
1. Be wnaeth neud i chdi ddechrau trefnu’r gigs lleol?
Neshi fynd ar bwyllgor hel pres at steddfod, wedyn oedd Llanrug wedi cael targed o 5 mil o bunnoedd i godi. Wedyn nath y ni lwyddo i gasglu’r 5 mil na yn eithaf sydyn wrth neud pethau gwahanol yn hytrach na gigs fel sêl ddillad a bora coffi. Wedyn oedd a ni wedi trefnu gig efo Dafydd Iwan ac oedda’ ni reit awyddus i roi y pres yna i’r gymuned yn hytrach na’r eisteddfod oherwydd bod ni wedi mynd dros y targed.
2. I ba elusennau lleol mae’r elw’n cael ei roi?
Pethau yn pentra Llanrug rili, felly mae Band Llanrug wedi elwa, Clwb ar ôl ysgol, Clwb brecwast yn Ysgol Gynradd Llanrug, Ysgol Brynrefail, Capel y Rhos, Elusen pecynnau bwyd sy’n mynd o gwmpas y pentra, Clwb Ieuenctid a Chlwb Pel-droed Llanrug.
3. Beth ydi dy hoff beth am y gigs?
Cael pawb at ei gilydd a gweld y gymuned efo’i gilydd. Dwi’n meddwl bod gweld o ar y diwadd a phawb yn cael hwyl yn werthfawr ofnadwy. Hefyd helpu y pub lleol wrth gwrs, mae ’na shifft di bod dros y blynyddoedd efo llai o bobl yn mynd allan oherwydd gwahanol resymau, ac felly mae’n braf bod ’na pub yn y gymuned yn elwa o’r gigs. Mae’r digwyddiadau yn helpu nhw hefyd sydd yn braf i weld.
4. Faint o waith ydi trefnu’r gig?
Mae’n dibynnu ar ba mor fawr ydi o. Os dio tu allan mae ’na fwy o waith yn amlwg, ma’ isho trefnu’r lori, y bwyd ag trefnu bod y maes parcio’n iawn. Dwi reit lwcus bod merch fi’n sortio’r posteri, felly dwi’n rhoid y wybodaeth iddi hi ac mae hi’n creu’r posteri. Yna mae angen hysbysebu, dwi’n cysylltu efo Heno, BBC, printio posteri allan ac yn hyrwyddo ar gyfryngau cymdeithasol fel Facebook ag Instragram ag ati. Wrth gwrs mae isho cysylltu efo’r artist ond dwi reit lwcus gan bod fi efo amball contact efo pobl o gwmpas lle felly di gweithio allan reit handi.
5. Be ydi’r lineup delfrydol i chdi?
Gorfod bod yn Bwncath, Buddug a Branwen Lewis – the three B’s!
6. Unrhyw gigs i edrych ymlaen at i’r dyfodol?
Oes, mae Rhys Meirion yn dod i godi arian i sefydliad coffa 18fed o Hydref. Hefyd da ni reit awyddus i gael Côr Dyffryn Peris o gwmpas ’Dolig ond dyda ni ddim yn siŵr os ydi hynny’n bosib ar hyn o’r bryd. Ond bydda elw nhw’n mynd i ferch ifanc a syndrom Down sy’n perthyn i deulu Penbont.