Newyddion Pentref Deiniolen 

Gydag ymddiheuriadau bod newyddion mis Mai yn hwyr yn eich cyrraedd

Eco'r Wyddfa
gan Eco'r Wyddfa

Cymuned yn closio: Da oedd gweld cynllun diweddar ble roedd trigolion yn gadael bocs o flaen eu tai yn cynnwys amrywiol eitemau nad oeddynt ei angen er mwyn eu cynnig i rai eraill. Da iawn pawb, daliwch ati.

Mae’r ysgol a’r ysgol feithrin wedi creu fideos i ddiddanu’r plant a chadw cysylltiad yn ystod y cyfnod cau. Da oedd eu gweld a diolch am roi gwen ar wynebau nid yn unig y plant ond yr ardal gyfan. 

Braf iawn oedd gweld Deiniolen yn cael sylw yn ddiweddar ar raglen Heno ar S4C yn son am y dudalen facebook sydd wedi ei greu o dan yr enw Deiniolen ddoe a heddiw. Ynddo mae nifer o luniau difyr a hanesion lu am yr ardal a’i thrigolion gan ddenu ymateb gwych gan nifer o bell ac agos. Gobeithio i’r dyfodol y gellir cynnal arddangosfa yn y pentra i bawb gael cyfle i weld yr holl luniau. Diolch i bawb a drefnodd ac a gyfranodd. 

Da gweld fod trigolion y pentra wedi darganfod ffyrdd i ddiddanu eu gilydd yn ystod y cyfnod dyrus yma. Gwelwyd trigolion Stryd Marian, Caradog, Tai Gerddi a Stryd Newydd yn cynnal gweithgareddau megis bingo stryd yn ddiweddar lle bu pawb allan o’u tai yn chwarae bingo yn yr awyr agored tra’n dilyn y rheolau pellter wrth gwrs. Hyfryd hefyd oedd clywed cerddoriaeth byw yn cael ei chwarae gan aelodau’r band. 

Mae’n dda gweld siop y pentra wedi mynd i drafferth o greu enfys drawiadol ar ffenest blaen yr adeilad. Diolch i’r rhai a greodd yr enfys a diolch mawr i Olwen yn y siop am ei holl waith dros yr wythnosau diweddar. 


Profedigaeth:
Gwydion Llŷr Morris. Yn frawychus o annisgwyl a thrist iawn bu farw Gwyd ar Chwefror 26ain. Unig fab amhrisiadwy a rhosyn bywyd ei fam, Sandra; cannwyll llygaid a mêt gorau ei ‘yncl’ Gerallt a’i bartner Cheryl. 

Cydymdeimlo: Drwg iawn oedd gennym glywed am farwolaeth diweddar Mrs Heulwen Bryn Morris Fferm Cefn Coch Deiniolen, cydymdeimlir a’r holl deulu yn eu profedigaeth.

Yn yr un modd, estynwn ein cydymdeimlad at deulu’r Parchedig Ronald Wyn Roberts gynt o Ddeiniolen a fu farw ar Ebrill 18fed. 

Cofir at Dilwyn a Neville a Jane Thorman Jones wedi ergyd galed iddynt oll o golli gwraig a merch yng nghyfraith annwyl sef Shirley Jones, cydymdeimlir a chwi yn eich profedigaeth. 

DIOLCH: Yn dilyn marwolaeth trist Gwyd, dymuna Sandra, Gerallt a’i bartner Cheryl diolch yn fawr iawn i’w holl ffrindiau, cymdogion, y gymuned a chyd weithwyr am bob arwydd o garedigrwydd, haelioni a chydymdeimlad sydd wedi cael ei ddanfon yn ddiweddar ac yn dal i barhau. Mae’r cariad a chynhesrwydd gan bawb yn gysur a nerth i ni fel teulu bach a diolchwn yn fawr i chi. Cyhoeddwyd bod y rhoddion a dderbynir yn cael eu cyfrannu at yr elusen CALM a diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi bod mor barod a charedig i gyfrannu. 

Dymuniadau gorau i bawb o drigolion yr ardal yn ystod y cyfnod anodd presennol. Cofiwch fod cymorth ar gael trwy gysylltu gyda tudalen facebook grwp cymorth covid 19 ardal Deiniolen neu gellir ffonio 07729 394230.