‘Fydd cerdded mynyddoedd ddim yn bosib i chi o hyn ymlaen.’
Dyna eiriau’r meddyg pan gefais ddiagnosis o Hypertrophic Cardiomyopathy oddeutu deunaw mlynedd yn ôl.
Cyflwr ydyw sy’n effeithio ar fentrigl chwith y galon sef y brif siambr sy’n pwmpio. Mae waliau’r fentrigl chwith yn mynd yn drwchus ac yn anystwyth. Dros amser, ni all y galon gymryd na phwmpio digon o waed yn ystod pob curiad i gyflenwi anghenion y corff.
Gwynebu’r diagnosis
Roeddwn wedi sylwi fod rhywbeth o’i le pan oeddwn yn feichiog efo fy merch ieuengaf – mynd yn fyr o wynt, blinder, curiadau afreolaidd a thyndra yn fy mrest. Er fy mod yn ymwybodol fod aelodau o’r teulu eisoes wedi derbyn diagnosis o’r cyflwr, roedd yn sioc mawr i mi dderbyn y newyddion ei fod arnaf i.
Newidiodd fy mywyd dros nos. Roeddwn wedi mwynhau cerdded mynyddoedd yn gyson, hynny’n bennaf am fod Nain yn enedigol o Groesor, a ninnau yn cael mynd yno’n rheolaidd i gerdded Y Cnicht a’r mynyddoedd eraill sy’n gwarchod yr ardal.
Roedd yn rhaid i mi gymryd gryn dipyn o dabledi yn ddyddiol, a chefais fy nghyfeirio at Gardiolegydd Ymgynghorol yn Aberystwyth; Dr Donogh McKeogh. Gydag amser, a’r cyflwr yn creu pob math o broblemau i mi, penderfynodd Dr McKeogh gysylltu â meddyg yn Ysbyty St George’s, Llundain. Wedi sawl trip i’r ddinas fawr, a sgyrsiau dros y ffôn, penderfynwyd y byddwn yn cael llawdriniaeth i dynnu haen o gyhyr y galon. Digwyddodd hynny ym mis Awst 2011, a bûm yn y theatr am o dros 10 awr. Ond erbyn hyn, rwy’n falch o ddweud fod y driniaeth wedi bod yn un llwyddiannus, a bellach rwy’n rhydd o fyd y tabledi.
Mae gennyf ICD (implantable cardioverter defibrillator) o dan groen fy mrest sydd oddeutu maint darn 50c, a’r unig reswm y bu’n rhaid i mi gael hwnnw oedd am fod y galon wedi dechrau camfihafio ar ddiwedd y llawdriniaeth.
Yn dilyn y llawdriniaeth, penderfynais y byddwn yn profi i bawb fod cerdded mynyddoedd yn mynd i ddychwelyd i’m bywyd. Trefnais daith gerdded i fyny’r Wyddfa ddiwedd Medi 2012, a daeth teulu, ffrindiau, Dr McKeogh ac aelodau o’i dîm i ymuno yn yr her, gan gasglu arian tuag at elusen Cardiomyopathy.
Gwirfoddoli yn Eryri
Bellach rwy’n perthyn i gynllun gwirfoddoli o fewn Parc Cenedlaethol Eryri o’r enw ‘Caru Eryri’. Mae’n gynllun sy’n canolbwyntio ar gadw mynyddoedd Eryri a’u llwybrau yn glir o sbwriel. Yn ystod y Gaeaf neu’r Haf, glaw neu hindda, byddaf yn treulio bob penwythnos yn gwneud y gwaith yma ar y mynyddoedd. Byddwn yn annog unrhyw un i ymuno â’r criw. Ers bod yn rhan o ‘Caru Eryri’, rwyf bellach wedi gwneud amryw o ffrindiau newydd, ac yn teimlo’n ffodus iawn fod y mynyddoedd yn rhan ganolog o fy mywyd unwaith eto.
Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o gyfarfod pobl newydd, dysgu sgiliau newydd a helpu i warchod yr hyn sy’n gwneud Parc Cenedlaethol Eryri mor arbennig. Gawllch chi hefyd ymuno â mi, a thîm Caru Eryri’r haf hwn i helpu i gadw Eryri yn arbennig i bawb ei fwynhau: https://ow.ly/sBbB50S7a4J