Enwau Lleoedd Dyffryn Peris – Gair o Rybudd a Cae Hoeden

Y cyntaf o gyfres am enwau llefydd ym Mro’r Wyddfa diolch i Glenda Carr

Eco'r Wyddfa
gan Eco'r Wyddfa

A ydych chi wedi meddwl am y llu o enwau diddorol sydd ar dai a ffermydd ym mro Eco’r Wyddfa? Fy mwriad i fydd trafod ystyr rhai o’r enwau hyn ac efallai ychwanegu rhyw bwt o hanes am ambell un. Ond yn gyntaf mae’n rhaid rhoi gair o rybudd i unrhyw un sy’n mynd ati’n dalog i geisio esbonio enwau lleoedd. Dywedodd Syr John Morris-Jones  wrth Syr Ifor Williams mai dim ond ffyliaid fydd yn treio esbonio enwau lleoedd. ’Dwn i ddim beth mae hynny yn ei awgrymu am Syr Ifor a minnau!  Ond yr hyn roedd gan Syr John dan sylw oedd fod enwau lleoedd yn faes sy’n llawn o faglau i’n dal ni a’n twyllo. Gall ffurf bresennol ambell enw fod yn gwbl wahanol i’w ffurf wreiddiol. Gall treiglad amser neu ymyrryd bwriadol â ffurf yr enw newid ei ystyr yn llwyr neu ei wneud yn hollol anesboniadwy. Felly, cyngor taer Syr Ifor (a minnau) yw fod yn rhaid olrhain datblygiad yr enw gam wrth gam. Ambell dro, mae newid un llythyren yn ddigon i newid yr ystyr, fel y cawn weld.  Rwyf am drafod enghraifft o enw o fro Eco’r Wyddfa sydd yn dangos sut y gall hyn ddigwydd.

Yr enw dan sylw yw Cae Hoeden, sydd ar gyrion gorllewinol Ceunant, Dim ond un llythyren sydd wedi ei newid yn yr enw hwn, ond mae’r llythyren honno wedi newid holl ystyr yr enw. Ar yr olwg gyntaf gallech feddwl mai cae yn perthyn i ryw wraig wamal, haerllug oedd hwn, Ac ni fyddai hynny’n amhosibl. Coffeir merch eithaf tebyg yn enw Llety’r Goegen ym Mrithdir ger Dolgellau. Roedd ein hynafiaid yn gallu bod yn ddigon di-flewyn-ar-dafod weithiau wrth enwi tai. Ond ’does yna’r un hogan bowld yng Nghae Hoeden.

Rhaid symud yn ôl drwy amser yn awr i 1572. Ceir cyfeiriad o’r flwyddyn honno at Kae hoydyn. Enw ar ddyn oedd Hoydyn, er nad yw’n cael ei ddefnyddio bellach. Gwyddom fod yna ddyn o’r enw Madog ap Hoydyn o flaen y llys yng Nghaernarfon yn 1364, er nad wyf yn awgrymu fod gan dad Madog unrhyw gysylltiad â Cae Hoeden. Tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg dechreuwyd defnyddio’r gair cyfarwydd hoeden yn lle Hoydyn, a oedd wedi mynd yn enw dieithr. Trwy newid un llythyren trodd Hoydyn, dyn digon hoffus o bosib,  yn gyfeiriad at ryw hen hogan eithaf annymunol.

Glenda Carr