Tymor Newydd Y Bêl Gron

Tymor 2023-24 yn cychwyn penwythnos yma.

gan Elgan Rhys Jones

Mae’r tymor Pel-Droed newydd yn cychwyn y penwythnos yma. Yn anffodus  am yr ail dymor yn olynol dim ond 2 dim fydd yn cynrychioli y fro ar y cae Pel-Droed.

Llanrug a Llanberis fydd y ddau glwb  hwnnw. Fu rhaid disgwyl tymor arall I weld os bydd timau yn dychwelyd yn Waunfawr, Bethel a Deiniolen.

Bydd Llanrug a Llanberis yn gobeithio am dymor tebyg i llynedd. Llanberis yn gorffen yn 3ydd yn y Gynghrair a Llanrug yn y 5ed safle.

Cafodd y ddau glwb rhediadau da yn y Cwpannau hefyd. Llanberis yn cyrraedd 5ed Rownd Tlws Cymru cyn colli yn Ne Cymru i Baglan Dragons. Tra yn Cwpan Cymru oedd rhediad Llanrug wrth golli i Gresford o’r Cymru North.

Cwpan Cymru fydd gemau cyntaf y tymor newydd i’r ddau glwb gan gychwyn gyda’r Rownd Rhagbrofol Cyntaf, 3 Mis wedi’r Seintiau drechu Y Bala yn Ffeinal 2022-23 yn Nantporth.

Gem Oddi Cartref sydd gan Llanrug draw ar Ynys Môn wrth iddynt wynebu Amlwch.

Gorffenodd Amlwch yn 14eg yn y Gynghrair yn Uwch Adran Y Gorllewin Arfordir Gogledd Cymru. Curodd Llanrug y ddwy gem rhwng y clybiau yn y gynghrair y tymor diwethaf. Yn dilyn ei rhediad i’r ail rownd y llynedd byddent yn gobeithio am ganlyniad tebyg.

Lawr y ffordd gem gartref sydd gan Llanberis gyda gem leol yn erbyn Bontnewydd.

Yn dilyn tymor campus y llynedd bydd y Darans yn gobeithio osgoi sioc ar Ffordd Padarn. Mae Bontnewydd un Adran yn is na Llanberis ac yn chware yn Adran Gyntaf Y Gorllewin Arfordir Gogledd Cymru. Er hynny Bontnewydd oedd yn fuddugol 2 dymor yn ôl wrth i’r ddau wynebu ei gilydd yn Rownd Gyntaf Tlws Cymru.

Bydd Llanrug a Llanberis yn gobeithio cychwyn y tymor ar nodyn uchel ac am rhediad yn y Cwpan.

Mae’r gemau yn cael ei chware Dydd Sadwrn 29 Gorffennaf, Cic gyntaf am 2y.p

Llanberis v  Bontnewydd – Ffordd Padarn,
Amlwch v Llanrug – Lon Bach, Amlwch