Gwrachod, Beyonce, ffeministiaeth, magu a mwy

Cyfweliad gwirfoddolwyr Tudalen yr Ifanc Eco’r Wyddfa gyda’r bodledwraig Mari Elen

Eco'r Wyddfa
gan Eco'r Wyddfa
Mari Elen

Mari Elen

Mari Elen

Mari Elen

Mari yn recordio podlediad

Mari yn recordio podlediad

Nain Mari oedd yn adrodd hanesion am ei pherthynas gwrachaidd

Nain Mari oedd yn adrodd hanesion am ei pherthynas gwrachaidd

Mari'n magu'r teulu yng Nghwm y Glo

Mari’n magu’r teulu yng Nghwm y Glo

Mari yn perfformio "Y Fantell Wen a Mari"

Mari yn perfformio “Y Fantell Wen a Mari”

Ar gyfer Tudalen yr Ifanc Eco’r Wyddfa aeth tair o’n gwirfoddolwyr ifanc 6ed Ysgol Brynrefail, Gwernan, Nel a Mared i gyfweld y bodledwraig Mari Elen Jones sy’n byw yng Nghwm y Glo am ei phod ‘Gwrachod Heddiw’

Dim ond rhan fach o’r cyfweliad oedd yn ffitio yn y papur, felly dyma’r cyfweliad yn llawn i chi gyd gael gwrando.

Eisiau gwrando ar y podlediad? Gallwch chi ddarganfod Gwrachod Heddiw yma.

Y Fantell Wen a Mari

Yn 2020 comisiynwyd Mari i ysgrifennu a pherfformio darnel rhan o ddigwyddiad Ceangal Dolen II sef ‘a gathering of Celtic Theatre Makers’. Wedi ei hysbrydoli gan straeon Gwrachod Heddiw aeth Mari ati i greu’r darn “Y Fantell Wen a Mari”. Dyma ddywedodd Mari am y darn cyn iddi fynd ati i’w greu:

“Mi oedd Mary Evans, neu Mari’r Fantell Wen yn ddynas oedd yn troedio’r tir rhwng  1735 – 1789. Roedd hi’n ddynad pwerus a adawodd ei gwr yn Sir Fon i fynd i fyw hefo  Pregethwr ym Maentwrog oherwydd doedd ei gwr hi ddim yn derbyn ei chrefydd, sef ei bod hi wedi dyweddïo a Iesu. Daeth Crefydd Mari yn boblogaidd wrth iddi denu rhwng  60 – 70 o ddilynwyr, ac un diwrnod fe briododd hi Iesu mewn seremoni yn Llan  Ffestiniog yn gwisgo Mantell Goch. Yn dilyn ei phriodas wedyn, pob dydd Sul, mi fasa  Mari a’i dilynwyr yn cerdded fyny y Moelwyn er mwyn  cymryd rhan mewn seremoni  lle byddai dilynwyr Mari yn gweiddi “AmenAmenAmen” yn gyflym, neu “Pw-pw-hwi,  Pw-pw-hwi, Pw-pw-hwi!”. Buodd farw Mari yn 1789, a cafodd ei chladdu yn  Llanfihangel ger Harlech.

Fy mwriad i ydy creu darn o waith yn astudio cysylltiad Mari’r Fantell Wen a minnau oherwydd fy nghysylltiadau cry’ hefo Ffestiniog, Harlech, a bod y ddwy ohonom ni’n rhannu’r r’un enw. Rwyf yn dychmygu creu ffilm fer celfyddydol yn troedio y tir gerddodd Mari’r Fantell Wen arni, yn gwisgo mantell goch, ac yna troedio’r tir fel fy hun. Mi faswn i’n cysylltu y ddwy gymeriad trwy berfformio “spoken word” fel troslais dros y ffilm, yn mynd o un cymeriad i’r llall yn disgrifio’r tir a’r agweddau merchetaidd sydd yn ein cysylltu ni, ond wedyn hefyd yn amlygu beth sy’n ein gwneud ni’n wahanol.”

Gallwch wylio “Y Fantell Wen a Mari” yma.