Yn dilyn wyth mlynedd fel cyflwynydd plant ar raglenni Cyw, mae Huw Owen y brodor ifanc o Lanberis yn dychwelyd adref i’w fro ac yn cychwyn pennod newydd.
Y mae bellach wedi perfformio ei sioe olaf gyda’i gyd-gyflwynwyr a hynny ar lwyfan Venue Cymru. Darlledwyd Sioe Nadolig Cyw a’r Gerddorfa yn fyw ar y wê ar y cyntaf o Ragfyr gyda chymeriadau cyfarwydd megis Sali Mali, Deian a Loli, Tref y ci a Sion Corn ei hun yn gwmni i Huw ar y llwyfan.
Dywed Huw; ‘Mae gen i lawer o uchafbwyntiau o fy nghyfnod fel cyflwynydd Cyw. Mae sioe ‘Cyw a’r Gerddorfa’ o Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, a ‘Sioe Nadolig Cyw a’r Gerddorfa’ sef fy sioe olaf rwan cyn ffarwelio yn brofiadau fydd yn aros yn y cof. ‘Dwi hefyd wedi mwynhau y sioeau Nadolig teithiol, a chael diddanu plant Cymru gyfan yn ogystal âg ymweld âg ysgolion Cymraeg Llundain.
Wrth holi pam ei fod wedi gwneud y penderfyniad i ffarwelio â byd Cyw, ymateb Huw oedd ‘…gan fy mod eisiau dod adra. Dydw i ddim wedi cau y drws yn gyfan gwbl ar fyd y teledu a’r cyfryngau, a braf ydy gwybod fod gen i gyfresi amrywiol ar y gweill yn y dyfodol agos, ond roeddwn i eisiau dod yn ôl…’
Ymhelaetha Huw ymhellach trwy ddweud ‘Ers y cyfnod clo cyntaf, dwi wedi cychwyn magu diddordeb mewn beicio, ac er fy mod wedi cael blynyddoedd gwych yng Nghaerdydd, adra mae’r mynyddoedd a’r tirwedd i feicio, ac yn bennaf oll, yma mae fy nheulu. Mae gen i nai bach bellach, sef Macsen, ac mae’n bwysig i mi fod yn gallu treulio amser gydag o a gweddill y teulu….heb anghofio Moi fy nghi bach!’
Ers yn blentyn y mae Huw wedi ymddiddori mewn adloni a pherfformio gan dreulio blynyddoedd fel aelod o fandiau pres Llanrug a Deiniolen, cymryd rhannau blaenllaw yn sioeau Ysgol Brynrefail ac mae’n un sy’n gallu troi ei law at y gitar, gitar bâs, drymiau, y piano a’r corn. Serch hyn, y mae ar fîn camu i fyd cwbl wahanol.
Wrth sôn am ei gamau nesaf, dywedodd Huw ei fod yn cychwyn prentisiaeth fel trydanwr a hynny gyda’i dad, Dafydd, a’i frawd, Tomos. Gyda’i dafod yn ei foch, meddai Huw…‘Yr uchelgais nesaf ydy cymwyso fel trydanwr, ond gawn ni weld sut beth fydd gweithio hefo dad a Tomos!’
Braf yw cael croesawu brodor ifanc yn ôl i’w ardal enedigol, a dymunwn y gorau iti Huw.