Mae’r Aelod o Senedd Cymru dros etholaeth Arfon wedi ymweld â chynllun rhannu bwyd yng Nghwm-y-glo.
Mae’r cynllun yn cael ei redeg gan aelodau o Cyngor Cymuned Llanrug a Chwm-y-Glo a gwirfoddolwyr. Mae’n rhan o gynllun Fareshare, cynllun sy’n cymryd bwyd dros ben o ansawdd o’r diwydiant bwyd ac yn ei ddosbarthu i grwpiau cymunedol ac elusennau.
Mae’r cynllun Fareshare wedi derbyn grant gan Lywodraeth Cymru, ac mae’r cynllun ar waith yn Llanrug a Chwm-y-Glo ers Tachwedd 2020.
Mae Siân Gwenllian AS yn cynrychioli’r ardal yn y Senedd, a dywedodd ei bod “yn fraint cael ymweld â thîm mor weithgar a thosturiol”
Mae’r Cynghorydd Berwyn Parry Jones yn cynrychioli Cwm-y-glo ar Gyngor Gwynedd, ac yn rhan o’r cynllun rhannu bwyd. Dywedodd;
“Rydym yn ffodus o dderbyn 85kg o fwyd bob dydd Gwener, ac mae’r math o fwyd yn amrywio o wythnos i wythnos.
“Mae’r fan yn dod i Fangor, ac rydym yn mynd draw i gasglu’r bwyd.
“Yno hefyd mae cynllun bwyd Partneriaeth Ogwen a chynlluniau rhannu bwyd Bangor yn cael eu bwyd.
“Ar ôl cludo’r bwyd i ysgol Cwm-y-glo yn y bore mae gwirfoddolwyr lleol yn gosod y bwyd ar y byrddau, gan roi’r cigoedd yn yr oergell.
“Yn hwyrach ymlaen yn y prynhawn mae gwirfoddolwyr y Cyngor Cymuned yn ymgynnull i rannu’r bwyd i fagiau ar gyfer teuluoedd, cyplau, ac unigolion.
“Yna mae’r pecynnau’n cael eu dosbarthu i gartrefi lleol sydd wedi cael eu heffeithio gan Covid-19 o fewn ffiniau’r Cyngor Cymuned.”
Ychwanegodd Siân Gwenllian AS;
“Mae sawl cynllun wedi egino ar draws yr etholaeth dros y flwyddyn ddyrys a aeth heibio, ac mae’n arwydd o’r dyletswydd mae pobol leol yn ei deimlo at ei gilydd.
“Mewn blwyddyn a fu’n llawn newyddion drwg, mae gwaith y mentrau hyn yn codi calon.
“Dyma bobol sy’n gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau
“Hoffwn ddiolch i’r holl wirfoddolwyr hynny am eu gwaith anhunanol.”