William Jones – T. Rowland Hughes (1944)
‘Da ni’n amal yn dathlu diwylliant neilltuol Cymreig y broydd llechi ac yn ymfalchïo yn y ffyrdd y llwyddodd pentrefi’r chwareli i feithrin ac ysbrydoli rhai o lenorion a beirdd amlycaf y cyfnod modern yng Nghymru. Un gŵr a oedd yn gynnyrch o’r diwylliant a ffynnai yn Nyffryn Peris oedd y bardd a’r nofelydd toreithiog, T. Rowland Hughes, fe’i ganed ef yn 20 Stryd Goodman, Llanberis ym 1903.
Er mai ffuglen ydy William Jones ceir ynddi bortread gonest o galedi bywyd yng nghysgod y tomenni llechi ar ddechrau’r ugeinfed ganrif wrth i’r prif gymeriad adael pentref chwarelyddol yng Ngwynedd i chwilio am waith ym mhyllau glo’r de. Dwi ddim yn rhy hoff o’r darlun dilornus o Leusa, gwraig William Jones, darlun sy’n glynu’n dynn – ac yn cyfrannu – at y naratif negyddol a ddatblygodd ynghylch merched a gwragedd pentrefi’r chwareli. Mae llawer yn gyfarwydd â’r gyfrol mae’n debyg am ei bod yn cynnwys y frawddeg led-enwog ‘Cadw dy blydi chips!’ y tro cyntaf i regi ymddangos mewn llenyddiaeth Gymraeg modern.
Mae ganddi le arbennig hefyd yn hanes y deillion yng Nghymru; ym 1963, Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru oedd y sefydliad cyntaf i recordio llyfrau llafar Cymraeg.
Disgrifiwyd yr achlysur fel y datblygiad mwyaf i’r deillion ers i Louis Braille ddyfeisio ei system ysgrifennu, a hynny gan y person a dderbyniodd y llyfr cyntaf. Y llyfrau cyntaf i gael eu recordio oedd William Jones ac O law i Law gan T. Rowland Hughes, a Cysgod y Cryman gan Islwyn Ffowc Ellis.
A Tour round North Wales – William Bingley (1800)
Mi ddatblygodd llyfrau teithio yn genre o bwys yn ystod y ddeunawfed ganrif a dwi wrth fy modd yn darllen y rheiny sy’n cyfeirio at deithiau yn Eryri ar wefan www.archive.org
Be’ sy’n ddifyr yng ngwaith y teithwyr ydy’r modd mae barn Seisnig am ein hardal wedi newid dros amser. Yn ysgrifennu tua’r flwyddyn 1701 disgrifiodd Ned Ward Cymru fel:
‘the fag-end of Creation; the very rubbish of Noah’s flood… So that there is not, in the whole World, a People that live so near to, and yet so very far from Heaven as the Welsh do.’
Mae’r disgrifiad ‘the very rubbish of Noah’s flood’ yn dangos dylanwad damcaniaeth a gyflwynwyd yng nghyfrol Thomas Burnet, The Sacred Theory of the Earth a gyfieithwyd i’r Saesneg ym 1684. Credai Burnet fod mynyddoedd yn weddillion o grwst y Ddaear ac yn gynrychiolaeth o ddicter Duw tuag at ddyn yn dilyn y Dilyw.
Yn ystod y ddeunawfed ganrif, yn dilyn ymdrechion gan ddamcaniaethwyr fel Edmund Burke (awdur Philosophical Enquiry into the Origin of our Ideas of the Sublime and Beautiful); artistiaid fel Richard Wilson a chynnwys llyfrau teithwyr swmpus gan awduron fel Bingley a Thomas Pennant, fe ddaeth tirlun mynyddig Eryri yn rywbeth hardd, yn rywbeth gwerth ei ddathlu.
Er i Bingley ddisgrifio ei daith o Gaernarfon i Lanberis fel taith ‘rugged and unpleasant… still dull and uninteresting,’ disgrifiodd Ddyffryn Peris ei hun fel ‘scene which presented itself… truly grand that I do not recollect one equal to it, even in the most romantic parts of Westmoreland or Cumberland.’
Wrth gwrs adlewyrchiad o farn Seisnig sydd yn y llyfrau gan amlaf – nid barn frodorol Gymreig. Rhaid gofyn felly, a ddaeth y Cymry i werthfawrogi eu tirlun fwy fwy yn y cyfnod dan sylw? Mae’n debyg ein bod yn raddol iawn wedi dechrau gweld y gallai ein tir fod yn wrthrych balchder hefyd. Proses arafach oedd y newid yng Nghymru a byddai rhaid disgwyl nes 1856 i glywed yr adnabyddus Evan a James James yn moli ‘Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd.’
Chwedlau a Choelion Godre’r Wyddfa – Dafydd Whiteside Thomas
Mae ‘na hen ddihareb Wyddelig sy’n dathlu bod ‘chwedl yn fwy gwerthfawr na chyfoeth y byd’, ac mae cyfrol Dafydd Whiteside Thomas yn gasgliad ac yn gofnod pwysig o chwedlau a choelion Dyffryn Peris
O Dylwyth Teg, a chewri a chawresau, y cysylltiadau Arthuraidd i feini a cherrig anferth mae ‘na gyfeiriadau at bob math o chwedloniaeth a hen goelion yn y gyfrol yma. Trwy gyfres o ddisgrifiadau daearyddol manwl – a darluniau hardd – mae’r gyfrol yma yn ein galluogi i ymweld â rhai o hot-spots hudolus yr ardal. Fel ‘Gwlad y Tylwyth Teg’ yr ardal honno o Gwm Dwythwch dros lethrau Moel Eilio, ac i Fetws Garmon heibio llynnoedd Cwellyn a’r Gader a thrwy’r dyffryn draw tua Beddgelert. Neu’r Ffynnon Chwerthin ym mharthau uchaf plwyf Llanddeiniolen, nid ffynnon fendithiol nac iachaol oedd hon, ond ffynnon ffelltithio!
Yr hyn sy’n gwneud y gyfrol yma’n lyfr hanesyddol da ydi’r ffaith y ceir ynddo gipolwg ar yr hyn oedd yn sbarduno dychymyg hen drigolion ‘BroWyddfa’ ganrifoedd yn ôl.
‘Y Mae Y Lle Yn Iach’: Chwarel Dinorwig 1875-1900 – Elin Tomos (2020)
Mwya’ cywilydd dwi am gloi trwy gynnwys fy nghyfrol fy hun!
O fewn cyd-destun Cymreig mae haneswyr iechyd wedi tueddu i ganolbwyntio ar y berthynas glòs a fodolai rhwng safonau byw, iechyd cyhoeddus a thwf a chwymp diwydiant yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Yn anochel efallai, o achos y fath raddfeydd o ddiwydiannu a threfoli a welwyd yn ne Cymru mae nifer sylweddol o astudiaethau yn canolbwyntio ar y sefyllfa a ddatblygodd yn nhrefi newydd y deheudir a’r cymunedau hynny a dyfodd driphlith draphlith yn sgil diwydiant.
Bwriad fy nghyfrol yw dadlau bod natur arbennig cymunedau chwarelyddol y gogledd-orllewin yn sicrhau eu bod hwythau yn ardaloedd addas ar gyfer astudiaeth: o ddarpariaeth blaengar Ysbyty Chwarel Dinorwig i’r gofal a ddarparwyd ar yr aelwyd i driniaeth ddifrifol tlodion Dyffryn Peris yn Nhloty Caernarfon. Mae hanes merched yr ardal hefyd yn derbyn cryn dipyn o sylw gen i. Mae hanesion merched ardaloedd y chwareli, ar y cyfan, wedi cael eu hepgor o’r hanesyddiaeth yn llwyr. Rwy’n grediniol mai dim ond trwy chwilio a gwrando ar leisiau gwragedd, gweddwon, merched a chwiorydd y chwarelwyr y mae modd gwneud cyfiawnder o ddifrif â hanes y broydd llechi.
Daw’r dyfyniad a gynhwyswyd yn nheitl y gyfrol o lyfr y Parchedig G. Tecwyn Parry, Llanberis: Ei Hanes, Ei Phobl a’i Phethau (Caernarfon, 1908). Dwi’n ei ddefnyddio gyda dipyn o eironi gan bod trwch fy ymchwil yn profi nad oedd sylw’r hen weinidog yn hollol gywir; ond yn hytrach na chanolbwyntio ar safonau iechyd yn unig, yr hyn a ddenodd fy sylw yn bennaf oedd y ddarpariaeth amrywiol a fodolai yn yr ardal mewn ymgais i amddiffyn trigolion yn wyneb clefydau’r cyfnod a pheryglon diwydiant.