Fyddai rhywun ddim yn disgwyl i ddyn gynhyrfu cyn ymarfer band ac yntau’n aelod ers 63 mlynedd, ond cyn mynd i un diweddar fe gollodd Dafydd ‘Twins’ wythnos o gwsg.
Y rheswm dros y cynnwrf oedd mai dyma’r tro cyntaf i’r seindorf ddod at ei gilydd ers chwe mis oherwydd y cyfnod clo. Mae’r band yn ganolog i fywyd Dafydd ac roedd wedi gweld eisiau’r band yn arw dros y misoedd o fod yn gaeth i’r tŷ.
Teimlodd Dafydd wacter yn ei fywyd wrth i’r ymarferion wythnosol ddod i ben fis Mawrth. Roedd wedi mynychu ymarferion band Deiniolen yn rheolaidd ers yn 10 mlwydd oed, a dywedodd fod y cyfnod diweddar wedi bod yn un “torcalonnus” ac roedd wedi teimlo’n unig heb gwmnïaeth cymuned y band.
Mae Dafydd Evans – neu Dafydd Twins i bawb sydd yn ei adnabod – wedi byw yn Neiniolen ers iddo fod yn dair oed ac mae’n rhan ganolog o fywyd y pentref. Fo oedd yn rhedeg y dafarn leol a bu’n gwneud nifer o swyddi eraill cyn hynny, yn cynnwys dreifio bysiau yn Nulyn am bum mlynedd.
‘Band ydi mywyd’
Ond un peth sy’n sefydlog erioed ydi’r band.
“Band ydi mywyd i,” meddai. “Mae mywyd i wedi bod yn revolvio rownd y band. Dwi wedi cwrdd â lot o bobl ac wedi trafeilio hyd y wlad a dramor gyda’r band. Mae brogarwch yr aelodau yn anhygoel, mae nhw i gyd fatha ’sa nhw yn perthyn i’w gilydd fel un teulu.”
Mae hyn yn wir i rai aelodau, yn cynnwys Dafydd gan bod pedwar o’r wyrion yn y band. Daw pobl o wahanol ardaloedd hefyd i’r seindorf i gael chwarae ar safon uchel.
Cyn Cofid-19, byddai wythnos arferol Dafydd yn cynnwys dau ymarfer band, un ymarfer côr, peint yn ei dafarn leol, a chwrdd a’i deulu a’i ffrindiau – ond fe chwalodd y pandemig ei batrwm bywyd yn llwyr.
“Dwi heb di symud o’r tŷ ’ma yn ddiweddar rŵan ers tua wsos. Mae hi’n tywyllu yn fuan rwan a dwi’n tŷ drwy’r dydd.”
Methu teulu
Roedd hyn yn anodd iawn i rywun oedd wedi hen arfer bod yng nghwmnïaeth pobl ac wedi cadw’r dafarn leol am 18 mlynedd. Yn ŵr gweddw erbyn hyn, roedd bod yn y tŷ gydag ond ei gi bychan wedi bod yn brofiad hollol newydd. Wrth i Dafydd gael dechrau gweld ei deulu o bellter dywedodd ei bod yn anodd iawn peidio eu gwahodd i mewn i’r tŷ:
“Da ni yn deulu agos ofnadwy. Oedd y plant yn dŵad, a ddim yn cael dŵad i’r tŷ mond i’r ardd. Fy mhlant i a fy grandchildren i, a ddim yn cael cyffwrdd nhw, ddim yn cael agosatrwydd at y nhw.”
Ychwanegodd ei bod yn anodd iawn iddo weld ei deulu o ochr arall y ffens yn ei ardd er mwyn sicrhau pellter cymdeithasol.
Yn ogystal â methu’r band roedd Dafydd hefyd yn colli ymarferion Côr Meibion Dyffryn Peris. Ymunodd â’r côr ddwy flynedd yn ôl – ac mae’n difaru ei enaid na fyddai wedi ymuno blynyddoedd yn gynt.
Y dyfodol
Wrth i reolau’r cyfnod clo lacio mae’r band wedi gallu dechrau ymarfer tu allan ar iard yr ysgol gynradd. Maent yn llwyr ddibynnol ar y tywydd er mwyn gallu cynnal ymarfer ac mae’n rhaid i’r aelodau aros 3 metr ar wahân drwy’r amser.
Dywedodd Dafydd ei fod wrth ei fodd bod y band wedi ail ddechrau er bod yr amgylchiadau yn wahanol, a’i fod wedi edrych ymlaen cymaint i’r ymarfer cyntaf ei fod wedi cael trafferth cysgu am ddyddiau cyn y diwrnod mawr.
Bydd y band, gafodd ei sefydlu yn 1835, yn dathlu penblwydd arbennig ymhen 15 mlynedd.
Dywedodd Dafydd: “Yn 2035 mi fydd y band yn 200 oed a dyna ydi fy nymuniad – dathlu efo nhw. Faswn i wrth fy modd bod yn fyw i ddathlu hynny, baswn wir.”