Bydd yr ailddatblygiad yn rhoi bywyd newydd i’r amgueddfa boblogaidd ac yn ei thrawsnewid i fod yn atyniad o safon fyd-eang wrth galon Tirwedd Llechi gogledd-orllewin Cymru – safle Treftadaeth y Byd UNESCO.
Bydd yr adeiladau Gradd 1 nodedig yn cael eu cadw’n saff a’u hadnewyddu, a bydd profiad ymwelwyr yn cael ei wella gyda chanolfan addysg newydd, man chwarae, siop a chaffi. Bydd dehongli yn cael ei wella ar draws yr amgueddfa a gofodau’n cael eu huwchraddio er mwyn galluogi’r amgueddfa i rannu mwy o gasgliadau amrywiol Amgueddfa Cymru.
Bydd y project ailddatblygu yn rhoi bywyd newydd i’n Hamgueddfa boblogaidd a bydd yn gwarchod ein hadeiladau hanesyddol gwych a chasgliadau pwysig fel bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu profi a mwynhau hanes anhygoel llechi.
Dywedodd Jane Richardson, Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru:
“Bydd y prosiect yn diogelu ein hamgueddfa a’n casgliadau sydd a phwysigrwydd byd-eang fel y gall cenedlaethau a chymunedau’r dyfodol brofi a mwynhau stori anhygoel llechi. Bydd yr ailddatblygiad hwn yn trawsnewid sut rydym yn adrodd stori llechi, gan wneud profiad ein hymwelwyr hyd yn oed yn fwy cyffrous.”
“Byddwn yn cau’r Amgueddfa dros dro ym mis Tachwedd 2024 er mwyn gwneud yn siŵr bod yr holl waith cadwraeth ac adnewyddu yn gallu digwydd yn ddiogel. Hoffem ddiolch i’n partneriaid a’n cyllidwyr, Cyngor Gwynedd, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol – hebddynt hwy, a chefnogaeth y gymuned leol, ni fyddai’r gwaith hwn yn bosibl. Ni allwn aros i groesawu ymwelwyr yn ôl yn 2026!”
Gyda llai na mis i fynd tan i’r Amgueddfa gau dros dro, mae llawer i’w wneud! Mae gwaith curadurol i gofnodi casgliad cyfan yr Amgueddfa ar y gweill, cyn i dros 8,000 o eitemau gael eu symud i’w cartref newydd dros dro.
Mae’r Amgueddfa hefyd yn brysur yn trefnu wythnos o weithgareddau i nodi’r achlysur yn ystod hanner tymor mis Hydref i ffarwelio â’r gymuned leol ac ymwelwyr am y tro. Bydd yna lu o weithgareddau gan gynnwys teithiau tu ôl i’r llenni a gweithgareddau crefftau.
Er y bydd safle’r Amgueddfa ar gau, bydd stori a hanes y llechi yn parhau i gael ei adrodd, fel yr eglurodd Elen Roberts, Pennaeth Amgueddfa Lechi Cymru:
“Yn 2025, byddwn yn mynd â’r amgueddfa ar daith, ac yn gweithio gyda’n partneriaid mewn atyniadau a digwyddiadau cymunedol cyfagos. Rydyn ni’n gyffrous iawn am wneud pethau ychydig yn wahanol a chael mynd tu hwnt i furiau’r amgueddfa, gan ddysgu gan ymwelwyr a chymunedau lleol ac ymgysylltu â nhw wrth ail-ddweud stori llechi.”
Ychwanegodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:
“Mae’n gyffrous gweld cynlluniau’n datblygu i Amgueddfa Lechi Cymru fod wrth galon adrodd ei hanes a pharhau â’i hetifeddiaeth ddiwydiannol. Rydym yn falch o ddyfarnu’r cyllid hwn i alluogi’r cynlluniau hyn i gael eu datblygu ac edrychwn ymlaen at weld sut y gall y prosiect hwn drawsnewid yr amgueddfa ar gyfer ymwelwyr, sut y gall pobl gymryd rhan mewn llunio eu treftadaeth a sut y bydd cymunedau yng Ngogledd-Orllewin Cymru a thu hwnt yn elwa .”
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd:
“Rydym yn hapus i weld y gwaith i ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru yn symud i’r cam nesaf. Mae hwn yn ddatblygiad blaenllaw ar gyfer prosiect Llewyrch o’r Llechi sy’n cael ei arwain gan Gyngor Gwynedd a’i ariannu gan Lywodraeth y DU, a fydd yn sefydlu’r Amgueddfa fel y prif ganolbwynt ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru.
Bydd datblygu’r canolbwynt hwn yn rhoi’r profiad ymwelwyr o’r radd flaenaf i’r Dirwedd Lechi y mae’n ei haeddu – gan ddathlu ein treftadaeth gyfoethog, ein diwylliant, ein hiaith a’n cymunedau – yn ogystal ag adrodd hanes ein rôl yn toi’r byd, ymdrechion ac arloesedd ein gwlad a’n pobl a beth mae hyn wedi ei olygu i’n cymunedau a’n tirwedd.
Bydd y canolbwynt hefyd yn sicrhau bod y rhai sydd am ddysgu a gweld mwy o Safle Treftadaeth y Byd yn cael eu cyfeirio a’u cyfeirio at ardaloedd unigryw a chofiadwy eraill y dirwedd lechi fel y gallant fwynhau a gwerthfawrogi treftadaeth a diwylliant cyfoethog yr ardal. Mae Cyngor Gwynedd yn falch o fod yn bartner yn y prosiect hwn ac yn dymuno pob lwc i Amgueddfa Lechi Cymru a’i staff ar gyfer y gwaith ailddatblygu cyffrous.”
Bwriad yr amgueddfa yw ail-agor yn 2026.
Amcangyfrifir mai cyfanswm cost presennol yr ailddatblygiad yw £21 miliwn. Y mae swm sylweddol ohono wedi’i sicrhau drwy bartneriaethau ariannu gyda Chyngor Gwynedd (trwy Lywodraeth y DU) fel rhan o brosiect Llewyrch o’r Llechi, Llywodraeth Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a chyllidwyr eraill. Rydym yn hynod ddiolchgar am y cymorth ariannol a ddarparwyd hyd yma.
Am fwy o wybodaeth ewch i dudalen we y safle https://amgueddfa.cymru/llechi/ailddatblygu/