Stori wreiddiol gan Rhiannon Jenkins, S4C
Bwriad prosiect Stori’r Tir gan grŵp Ddyffryn Peris yw hybu perthynas cymuned gyda’r tir a’r iaith Gymraeg drwy ddysgu am hanes y dirwedd.
Yn ôl Lindsey Colbourne, sef arlunydd lleol sy’n gwirfoddoli i’r grŵp, mae atgyfodi enwau’r caeau yn un ffordd o wneud hynny.
“Mae enwau caeau yn darparu cyswllt rhwng y boblogaeth fodern a’i rhagflaenwyr; pont rhwng hanes a lle,” meddai Lindsey.
“Ond maen nhw’n cael eu colli’n gyflym iawn – ac yn colli cysylltiad rhwng lle ac iaith hefyd.”
Daw’r prosiect fel rhan o Gynllun Gweithredu Hinsawdd Dyffryn Peris, sy’n ceisio mynd i’r afael ag effeithiau newid hinsawdd yn yr ardal.
Y nod, yn y pendraw, yw amddiffyn y dirwedd er mwyn sicrhau amgylchedd iach ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
Cofio’r gorffennol i edrych i’r dyfodol
Daeth egin y syniad Stori’r Tir gan ddisgybl o’r ysgol leol.
Yn fuan wedyn, fe wnaeth Lindsey a’i chydweithwyr Angharad Owen ac Emily Meilleur lansio prosiect Stori’r Tir gyda’r nod o gasglu straeon trigolion am y dirwedd. Erbyn hyn mae ’na mwy na 15 prosiectau Stori’r Tir.
Fel rhan o’r prosiect Enwau Caeau, fe wnaeth Lindsey ddefnyddio mapiau o Archif Caernarfon i ddylunio map bras o enwau’r caeau yn Nant Peris.
Dywedodd bod enwau’r caeau yn awgrymu sut mae defnydd y tir wedi newid (Cae Hen Fuches; Gwaith Pladur), yn adrodd hanes ei greigiau a’i bridd (Cae’r Odyn; Cae Maen Gwyn) yn ogystal â’i anifeiliaid a’i blanhigion (Gweirglodd yr Onnen).
Maen nhw hefyd yn cyfeirio at adeiladau (Cae Siop, Cae Tyddyn Alice Griffiths) yn ogystal â chredoau a chwedlau (Ddôl y Wrach).
“Mae enwau caeau yn helpu ni i ddeall sut oedden ni’n byw gyda’r tir – nid mewn ffordd nostalgic, ond gyda’r bwriad i feddwl am y dyfodol hefyd,” meddai.
“Ac mae hynny’n anodd ei wneud, achos mae pawb eisiau siarad am y gorffennol; mae’n eitha’ anodd i feddwl am y dyfodol, achos mae ‘na gymaint o ansicrwydd yn y byd ar hyn o bryd.”
Ychwanegodd: “Felly mae’n rhaid i ni weithio allan sut ’da ni am wneud pethe sy’n helpu ni i feddwl gyda’n gilydd yn erbyn y gwahaniaethau yn y byd.”
A hithau’n arlunydd wedi gweithio yn y maes datrys gwrthdaro, mae Lindsey Colbourne yn credu’n gryf ym mhŵer celf i annog newid.
“Mae prosiectau creadigol yn gallu creu gofod gwahanol i bobl ddod at ei gilydd i feddwl am y cwestiynau mawr,” meddai.
“Dw i bellach yn mynd o amgylch Nant Peris gyda’r map er mwyn holi trigolion y pentref am y dirwedd.”
Er bod y gwaith ymchwil yn parhau, dywedodd Lindsey bod enwau’r caeau – a’r straeon sy’n gysylltiedig â nhw – yn datgelu sut mae pobl wedi colli cysylltiad gyda’r tir a hunangynhaliaeth.
“Roedd pob tŷ yn arfer bod â buwch neu fochyn, tan mor ddiweddar â’r 1950au. Byddai moch yn cael eu lladd fel gweithgaredd cymunedol, gyda phob tŷ yn cael eu tro i rannu’r cig,” meddai.
Gobaith Lindsey yw y bydd dysgu am hanes y tir yn arwain y gymuned at sicrhau amgylchedd iach ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
“Mae’n bwysig cael gwreiddiau yn y gorffennol achos mae’n ein helpu ni i deimlo’n fwy diogel yn y dyfodol,” meddai Lindsey.
‘Teimlad o berthyn’
Fel unigolyn oedd wedi symud i Nant Peris yn 2005, mae Lindsey yn tystio i’r ffaith bod dysgu am y dirwedd yn gallu cael effaith cadarnhaol.
“Pan ti’n symud i rywle newydd, ti dipyn bach ar wahân ac mae’n gallu bod yn anodd ffeindio dy ffordd i mewn i’r gymuned,” meddai.
“Ond mae bob dim dw i’n ei wneud fel arlunydd yn ymchwiliad ar y cyd – ffordd ‘na, mae ‘na gyfle i wneud cysylltiadau efo pobl eraill ac i ddysgu.”
Ychwanegodd: “Dw i’n teimlo’n rhan o’r lle erbyn hyn.”
Stori wreiddiol gan Rhiannon Jenkins, S4C