Byddai’n hawdd iawn meddwl mai dim ond ym Mharis yr oedd posib dod o hyd i bencampwyr yn y byd chwaraeon yn ystod Haf 2024, ond wyddoch chi fod BroWyddfa bellach yn gartref i ddau bencampwr newydd sbon?
Mae Gareth McGuinness, o Lanrug, bellach yn BENCAMPWR BYD, a mae Sam Woodward, o Waunfawr, yn BENCAMPWR CYMRU, wedi i’r ddau ddod i’r brig mewn cystadlaethau beicio’n ddiweddar.
Pencampwr Byd
Enillodd Gareth McGuinness yn yr UCI Gran Fondo yn Denmarc, gan drechu 250 o gystadleuwyr eraill – gan gynnwys wynebau cyfarwydd megis y gwibiwr byd enwog o’r Eidal, Mario Cipollini – i ddod yn Bencampwr Byd!
Dim ond 40 cystadleuydd oedd yn weddill pan lwyddodd Gareth ac un cystadleuydd arall i greu bwlch rhyngddynt hwythau â gweddill y peloton, ac wedi ymdrech fawr a chryn gydweithio rhwng y ddau, llwyddodd Gareth i ennill y carlam i ddod yn gyntaf.
Wrth ymateb i’w fuddugoliaeth, dywedodd Gareth: “Fedrai ddim credu fy mod yn Bencampwr Byd – dim yn ddrwg i hen foi o Lanrug”.
Pencampwr Cymru
Bu Sam Woodward yn fuddugol mewn ras ffordd a gynhaliwyd yn Llandrindod, gan sicrhau teitl Pencampwr Cymru.
Wrth nesau at derfyn cystadleuaeth ffyrnig, llwyddodd Sam i arwain carlam o dros 500 metr er mwyn croesi’r llinell derfyn yn gyntaf.
Yn ogystal â bod yn aelod o Glwb Beicio Egni Eryri, mae Sam hefyd yn seiclo gyda’r tïm, TEAM BP Performance. Yn dilyn ei fuddugoliaeth, bydd yn cael gwisgo’r crys Pencampwr Cymru am y flwyddyn nesaf.
Llongyfarchiadau mawr i Gareth, Sam a Clwb Beicio Egni Eryri ar eu llwyddiant, a phob hwyl i holl aelodau’r clwb am weddill y tymor! Tybed a welwn rai o aelodau’r clwb yn serennu yng ngemau Los Angeles ymhen pedair blynedd? Amser a ddengys…
Oes gen ti stori? Hoffet ti weld dy waith wedi ei gyhoeddi ar BroWyddfa360? Cer amdani! Mae creu erthygl newydd yn hawdd iawn – defnyddia’r botwm ‘Creu’ i ddysgu mwy, neu cysyllta ag aledpritch@gmail.com am fwy o wybodaeth!