Llinos yn enghraifft o lwyddiant Ysgol Feddygol

Mae’r fyfyrwraig o Ddeinolen yn dangos bod yr ysgol eisoes yn gwneud gwahaniaeth

Siân Gwenllian
gan Siân Gwenllian
Untitled-design-14

Llinos Haf Roberts a Siân Gwenllian AS

Ers cael ei hethol i’r Senedd yn 2016, mae Siân Gwenllian wedi ymgyrchu am Ysgol Feddygol i hyfforddi meddygon yn ei hetholaeth yn Arfon. Yn ôl yr AS, mae stori un fyfywraig o Ddeiniolen yn dangos fod yr ysgol ym Mangor eisoes yn gwneud gwahaniaeth.

Yn ôl Siân Gwenllian

“Mewn taflen a ddosbarthwyd yn fy enw yn 2016 nes i ymrwymo i ymgyrchu dros hyfforddi meddygon a gweithwyr iechyd ym Mangor. Yr union eiriau oedd: ‘Fe fyddwn i’n ymladd i gael Ysgol Feddygol yn yr ardal i hyfforddi pobl ifanc lleol i weithio fel doctoriaid a gweithwyr iechyd eraill yn ein hysbytai lleol a’n cymunedau.’

“Dwi’n eithriadol o falch bod yr addewid hwnnw wedi’i gyflawni a bod Ysgol Feddygol Gogledd Cymru wedi agor yn swyddogol yr wythnos ddiwethaf.

“Rydan ni eisoes yn gweld manteision yr ysgol honno, a dwi wedi cwrdd â llawer o etholwyr a ddechreuodd eu hastudiaethau yng Nghaerdydd ond sy’n dod adra i gwblhau eu hyfforddiant ym Mangor.

“Yn eu plith mae Llinos Haf Roberts o Ddeiniolen.

“Mae Llinos yn enghraifft berffaith o’r dadleuon ro’n i’n eu gwneud dros yr Ysgol Feddygol yr holl flynyddoedd yna’n ôl; y gallen ni, drwy sefydlu Ysgol Feddygol ym Mangor, hyfforddi meddygon a fyddai’n aros yn y gwasanaeth iechyd lleol, gan wella mynediad i bobl leol.

“Hefyd, trwy gynnig addysg feddygol ym Mangor, mae’n golygu ein bod ni’n colli llai o’n pobl ifanc i brifysgolion a dinasoedd eraill fel Caerdydd.”

Daw Llinos Haf Roberts o Ddeiniolen, ac ar hyn o bryd mae ar leoliad yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Yn ôl Llinos:

“Nes i ddechrau astudio’r cwrs Meddygaeth yng Nghaerdydd, ond mae mor braf dod yn ôl i ogledd Cymru i gwblhau fy astudiaethau.

“Mae’n bwysig bod gan fyfyrwyr yr opsiwn i astudio’n lleol – dydi pawb ddim isio symud i ffwrdd.

“Hefyd, y gobaith yw y bydd hyfforddi meddygon ym Mangor yn gwella gwasanaethau yn y gogledd orllewin. Mae’r ardal yn gymysgedd o gymunedau gwledig a threfol, ac mae ganddi anghenion penodol iawn. Mae’r elfen ieithyddol hefyd, wrth gwrs.

“Trwy hyfforddi meddygon yn Arfon fe allwn ni greu gweithlu sy’n deall anghenion yr ardal yn iawn.”

Dweud eich dweud