Llanberis: Diwrnod ‘Awyr Agored’ Llwyddo’n Lleol 2050

Cyfle gwych i bobl ifanc rhwng 16 a 35 mlwydd oed, sy’n mwynhau gweithgareddau awyr agored!

gan Aled Pritchard
Poster-Diwrnod-Awyr-Agored

Ar y 23ain o Fehefin, bydd prosiect ARFOR – Llwyddo’n Lleol 2050 yn cynnal diwrnod wedi ei selio ar y thema ‘Awyr Agored’, yn Llanberis!

Bydd y diwrnod hwn yn gyfle unigryw i bobl ifanc rhwng 16 a 35 oed ddysgu am y cyfleoedd gyrfaol sydd ar gael yn y diwydiant awyr agored yn ardal ARFOR, yn ogystal â chyfle i glywed gan arbenigwyr yn y maes.

Bydd y diwrnod hefyd yn gyfle i gyfarfod â phobl ifanc sydd â diddordeb tebyg yn yr awyr agored ac i roi cynnig ar weithgaredd dŵr, wrth badl-fyrddio ar Llyn Padarn.

Beth yw’r cyfle?

  • Diwrnod o weithgareddau a sgyrsiau’n trafod y diwydiant awyr agored yn ARFOR.
  • Cyfle unigryw i glywed gan siaradwyr gwadd profiadol yn trafod amrywiaeth o destunau, gan gynnwys eu profiadau’n cynnal gweithgareddau awyr agored llwyddiannus, ac yn rhedeg busnesau ‘awyr agored’.
  • Cyfle i roi cynnig ar badl-fyrddio ar Llyn Padarn, yng ngofal arbenigwr.
  • Cyfle gwych i gyfarfod ag unigolion eraill sydd â diddordeb tebyg yn yr awyr agored!
  • Cyfle i rannu syniadau, ac i roi barn ar y pynciau sydd o bwys i ti!
  • Cinio a phryd gyda’r hwyr ym mwyty Gallt y Glyn, Llanberis – AM DDIM!

Manylion Allweddol:

  • Dyddiad: Dydd Sul, Mehefin 23ain, 2024.
  • Amser: 9:30 – 19:30.
  • Lleoliad: Llanberis, Gwynedd.
  • Cyfle ar agor i unigolion rhwng 16 a 35 mlwydd oed, o Wynedd neu Ynys Môn.

Mae mwy o wybodaeth ar y diwrnod ar gael yma, neu cysylltwch ag aled.pritchard@mentermon.com am fwy o wybodaeth!

Mae safleoedd yn brin, felly cofrestrwch heddiw er mwyn osgoi siom. Er mwyn cwblhau ffurflen gofrestru, cliciwch yma! Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru ydy’r 14eg o Fehefin, 2024.

Dweud eich dweud