Cwpan Cymru 2024-2025

Cwpan Cymru i Llanrug a Llanberis

gan Elgan Rhys Jones

Mae’r tymor Pel-Droed newydd yn cychwyn y penwythnos yma.

3 Mis wedi i Cei Connah ennill o 2-1 yn erbyn TNS i gipio Cwpan Cymru am yr ail dro yn ei hanes. Mae’r daith i ffeinal 2025 yn cychwyn penwythnos yma

Mae Llanrug a Llanberis yn cychwyn yn y Rownd Rhagbrofol Gyntaf ar ddau Glwb a gemau cartref.

Wedi Cei Connah gipio’r tlws y tymor diwethaf a chynrhichioli Cymru yn Ewrop. Tim arall o’r dref fydd Llanrug yn ei wynebu yn y Rownd Rhagbrofol Gyntaf sef CPD Tref Cei Connah. Mi fydd hon yn dipyn o dasg i’r cochion gyda Tref Cei Connah newydd ennill dyrchafiad i drydedd haen y pyramid i Gynghrair Ardal Gogledd Gorllewin. Wedi iddynt orffen yn Ail yn Brif Adran Dwyrain Gogledd Cymru y tymor diwethaf.

Bydd Llanrug yn gobeithio am sioc ar Eithin Duon yn erbyn y tim o’r drydedd haen sydd a chyn ennillydd y cwpan a un sydd wedi sgorio yn y rownd derfynol gyda Bangor Jamie Reed yn rhan o’i carfan. .

Bydd Llanberis yn gobeithio am rhediadau da yn y Cwpannau fel y llynnedd wedi iddynt gyrraedd Rownd Gyntaf Cwpan Cymru ac ennill tlws Cwpan y Gynghrair fis Mai.
Sychdyn United o Ardal Y’r Wyddgrug fydd y Darans yn ei wynebu yn y Rownd Rhagbrofol Gyntaf. Bydd Llanberis yn ffefrynnau i’r gêm gyda Sychdyn yn chware 1 safon yn is na Llanberis yn 5ed haen Pyramid Cymru yn Gynghrair Pencampwriaeth Dwyrain Gogledd Cymru.

Mae Sychdyn wedi cychwyn ei tymor yn barod canol wythnos gan golli 3-1 gartref yn erbyn Rhydymwyn.

Bydd Llanrug a Llanberis yn gobeithio cychwyn y tymor ar nodyn uchel ac am rhediad da yn y Gwpan.

Mae’r gemau yn cael ei chware Dydd Sadwrn 27 Gorffennaf, Cic gyntaf am 2y.p

Llanberis v Sychdyn United – Ffordd Padarn,
Llanrug v Tref Cein Connah – Eithin Duon