Penwythnos yma mae Ail Rownd Tlws Cymru, gyda dau dim o’r Fro yn ymuno gyda’r gystadleuaeth. Gem gartref sydd yn disgwyl Llanrug a Llanberis yn yr Ail Rownd.
Bethesda Rovers fydd gwrthwynebwyr Llanberis ar Ffordd Padarn. Bydd y Darans yn gobeithio am rediad tebyg i dymor diwethaf wedi iddynt gyrraedd y 5ed Rownd cyn colli yn Ne Cymru i Baglan Dragons.
Bydd Llanberis yn gobeithio osgoi sioc ac am ganlyniad tebyg i’r gem yn Nghwpan Cymru yn erbyn Bontnewydd sydd yn chware yn yr un adran a’r tim o Fethesda yn Adran Gyntaf Y Gorllewin Arfordir Gogledd Cymru.
Bydd Llanberis yn gobeithio dilyn eu buddugoliaeth Sadwrn diwethaf yn y gynghrair yn erbyn Amlwch, gyda’i ail buddugoliaeth yn olynol. Wrth wynebu y y tim o Adran Gyntaf Y Gorllewin Gynghrair Arfordir Gogledd Cymru.
Tra ar Eithin Duon bydd Pencampwyr y Tlws yn 2014 Llanrug yn gwynebu Aberffraw.
Wedi iddynt golli yn y Rownd Rhagbrofol gyntaf Cwpan Cymru i Amlwch, bydd Llanrug yn gobeithio am rhediad gwell yn y Tlws.
Ers y golled honno, ond dwywaith mae Llanrug wedi colli ac un o rheiny y Sadwrn diwethaf yn Nefyn. Mae’r cochion yn eistedd yn 4ydd yn y Gynghrair. Gyda’u gwrthwynebwyr Aberffraw yn rhan arall y tabl.
Mae Beffro yn eistedd ar waelod y tabl gyda phwynt yn unig i’w henw. Mae’r clwb o Ynys Môn wedi chware yn y Fro yn barod mis yma wedi iddynt golli yn y gynghrair i Lanberis.
2il Rownd Tlws Cymru
Dydd Sadwrn 30 Medi. Cic Gyntaf 2y.p
Llanberis v Bethesda Rovers – Ffordd Padarn
Llanrug United v Aberffraw – Eithin Duon