Yn 2021 derbyniodd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru statws Treftadaeth Byd. Cafodd lluniau o harddwch rhyfeddol yr ardal eu gweld ar hyd a lled y byd – delweddau trawiadol o’r chwareli o’r awyr, mynyddoedd o lechi a grëwyd gan chwarelwyr, a harddwch yr hen farics a pheirianwaith.
Ond nawr mae cystadleuaeth yn cael ei chynnal i dynnu sylw at elfennau llai cyfarwydd o ardal y llechi, a bydd y lluniau hyn i’w gweld mewn arddangosfa yn nes ymlaen eleni.
Mae Llechi Cymru ac Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis yn apelio ar ffotograffwyr o bob oed i gyflwyno lluniau o’r tirwedd llechi, yn benodol delweddau gwahanol i’r arfer o’r cymunedau, eu pobl a’u llefydd.
Dywedodd Lucy Thomas, swyddog project Llechi Cymru:
“Rydyn ni’n chwilio am ffotograffau sy’n adrodd hanes ardaloedd y llechi o safbwynt unigryw neu anarferol. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn lluniau sy’n dangos y straeon llai cyfarwydd, ac rydyn ni am i bobl fod mor greadigol â phosibl yn rhannu eu profiadau gyda delweddau bythgofiadwy.”
Mae tair thema i ddewis ohonynt:
- Aruthrol – lluniau sy’n portreadu natur syfrdanol a rhyfeddol tirwedd y chwareli;
- Arloesi – lluniau sy’n dangos sut y gwnaeth y diwydiant dorri tir newydd;
- Cymuned – lluniau o’r bobl a’r llefydd sy’n gwneud cymunedau’r llechi yn arbennig.
Mae dau gategori oed – o dan 18 ac 18+.
Bydd y lluniau buddugol yn cael eu harddangos yn Amgueddfa Lechi Cymru o fis Mai 2023, a bydd yr enillydd cyffredinol o’r ddau gategori oed yn ennill sesiwn ffotograffiaeth bersonol gyda’r ffotograffydd adnabyddus o Eryri, Geraint Thomas.
Dywedodd Elen Roberts, Pennaeth Amgueddfa Lechi Cymru:
“Mae Tirwedd Llechi gogledd-orllewin Cymru yn cynnwys chwe ardal benodol, pob un ohonynt yn wahanol iawn i’w gilydd, a phob un â’i stori. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y gystadleuaeth yn ysbrydoli pobl o bob oed i archwilio ardaloedd y chwareli yn ddiogel, ac y bydd digon o luniau creadigol i ddewis ohonynt at gyfer ein harddangosfa.”
Dyddiad cau’r gystadleuaeth yw 16 Ebrill 2023.
Am fwy o wybodaeth ac i weld y telerau ac amodau ewch i https://www.llechi.cymru/cy/ffotograffiaeth neu e-bostiwch llechi@gwynedd.llyw.cymru
Nodiadau ychwanegol
Caiff y gystadleuaeth ei threfnu gan Llechi Cymru ac Amgueddfa Lechi Cymru / Amgueddfa Cymru.
Caiff pob ymgais ei beirniadu yn ddienw gan banel a benodir gan Llechi Cymru ac Amgueddfa Lechi Cymru
Byddwch yn ddiogel. Cyn mynd allan i archwilio, ewch ar adventuresmart.uk i ddysgu sut i fwynhau yn ddiogel. Mae Tirwedd Llechi’r gogledd-orllewin yn lle gwych i grwydro, ond mae’n gallu bod yn beryglus, yn heriol ac yn anial. Mae rhannau helaeth ohono yn dir preifat, a rhywfaint o hwn yn dir heb fynediad cyhoeddus. Ni fyddwn yn ystyried lluniau sydd wedi’u tynnu mewn safleoedd sydd ddim ar agor i’r cyhoedd. Ewch i www.llechi.cymru i ddarganfod pa safleoedd sydd ar agor i’r cyhoedd.