Mae ffatri Siemens Healthineers yn Llanberis, a elwid gynt yn Euro-DPC, yn adnabyddus i drigolion lleol, a’r llynedd dathlodd y cwmni 30 mlynedd yn Llanberis.
Ar ddiwedd 2022 cyhoeddwyd y byddai’r cyfleusterau’n yn cael eu huwchraddio, ac y byddai buddsoddiad yn cael ei wneud i ddiogelu 400 o swyddi a chreu bron i 100 o swyddi newydd o ansawdd uchel.
Ond dechreuodd perthynas ardal Arfon â gwaith arloesol ym myd meddygaeth yn 1980, cyn agor y safle presennol yn Llanberis, ac roedd ffigurau ym Mhlaid Cymru yn allweddol yn y cyfnod cychwynnol.
Mae Siân Gwenllian, cynrychiolydd Arfon yn y Senedd, wedi sôn am hanes hir y cwmni yn ei hetholaeth:
“Cefais gyfle yn ddiweddar i ymweld â ffatri Siemens Healthineers Llanberis, ac i glywed yn benodol am y bwriad i ehangu.
“Mae un o fy rhagflaenwyr yn y Senedd, Dafydd Wigley, yn aml yn cyfeirio at sefydlu pencadlys Ewropeaidd cwmni mawr yn Llanberis fel un o’i lwyddiannau mwyaf fel AS dros yr ardal.
“Cafodd Alpha Dyffryn Cyfyngedig (ADC), cwmni offer meddygol electronig ei sefydlu ym 1980, dan arweiniad Cemegydd Clinigol Awdurdod Iechyd Gwynedd ar y pryd, Osborn Jones. Roedd gan Osborn weledigaeth bellgyrhaeddol o awtomeiddio’r broses o ddadansoddi gwaed.”
Yn ôl Osborn Jones:
“Dechreuwyd ar y gwaith yn y beudái yn fy nghartref yn Llandwrog, ond cafodd y broses ei phroffesiynoli’n gyflym ar ôl i lawer o bartneriaid lleol fuddsoddi yn y weledigaeth, a dyna sut y daeth ADC i fod.
“Yn y blynyddoedd cynnar denwyd grantiau, yn ogystal â buddsoddiad gan Awdurdod Datblygu Cymru, ac fe sefydlwyd ffatri yng nghanol tref Caernarfon.
“Yn fuan wedyn daeth y Dr. Andrew Moore, ymchwilydd biocemegol yn Rhydychen i glywed am y fenter tra’n ceisio dod o hyd i bencadlys DPC yn y DU.
“Yn y pen draw, cytunwyd y byddai ADC a DPC yn gweithio ar y cyd. Adleolwyd pencadlys ADC i’r Felinheli a chynyddodd y gweithlu i 40.”
Drwy gydol cyfnod ADC fel endid ar wahân, Dafydd Wigley oedd Cadeirydd y Cwmni yn ogystal â bod yn AS Plaid Cymru dros yr ardal. Dywedodd:
“Cyn gynted ag y daeth yn amlwg y byddai angen i DPC sefydlu ffatri ar gyfer eu Marchnad Ewropeaidd, es i draw i’r pencadlys yn Los Angeles, gan geisio dwyn perswâd ar y Bwrdd i ystyried safle Glynrhowy. Bûm yn llwyddiannus.
“Symudodd pethau yn eu blaen a dechreuodd ffatri Glynrhonwy gynhyrchu ym mis Gorffennaf 1992. O fewn 3 blynedd roedd 280 o bobl yn cael eu cyflogi ar y safle.
“Mae cyfraniad economaidd a chymdeithasol y ffatri i’r ardal ers ei sefydlu wedi bod yn anfesuradwy.
“Mae wedi datblygu’n aruthrol, ac wedi adeiladu ar weledigaeth Osborn Jones ar adeg sefydlu ADC. Mae’r swyddi yn rhai sgil uchel, ac mae’r cyflog cyfartalog yn sylweddol uwch na’r cyfartaledd lleol.
“Mi wn cymaint y mae Siemens yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth a gawsant gan Senedd Cymru a Chyngor Gwynedd a gall y berthynas hon helpu i sicrhau bod cynlluniau ehangu’r Cwmni yn llwyddiannus.”
Ychwanegodd Siân Gwenllian AS:
“Mae buddsoddiad o’r math hwn yn hollbwysig i weledigaeth ehangach Arfor, menter i hybu datblygiad economaidd yn Y Fro Gymraeg.
“Mae’n arbennig o berthnasol ein bod yn trafod twf economaidd yng nghyd-destun Llanberis, pentref fu’n ganolog i ddirywiad diwydiannol y ganrif ddiwethaf.
“Hoffwn longyfarch y gweithlu yn Siemens am y gwaith gwirioneddol arloesol y maent yn ei wneud, ac ar atgyfnerthu safle Llanberis fel canolfan arloesi meddygol byd-eang.”
Ychwanegodd Hywel Williams AS, cydweithiwr Siân Gwenllian yn San Steffan:
“Roedd yn bleser ymweld â Siemens Healthineers yn Llanberis a dysgu mwy am eu cynlluniau cyffrous i ehangu, cam arwyddocaol arall ymlaen i’r cwmni sy’n adeiladu ar flynyddoedd o fuddsoddiad yn yr economi leol drwy ddod â thua 100 o swyddi newydd, sgil-uchel i’r ardal.
“Dylai’r gweithlu yn Llanberis fod yn falch o’u cyfraniad at ddiagnosis a thriniaeth cleifion ar draws y byd trwy eu hadweithyddion IMMULITE unigryw sy’n cael eu defnyddio mewn dadansoddwyr gwaed.
“Mae’n glod i ansawdd eu gwaith bod cymaint o alw am eu cynnyrch, gan goncritio statws Llanberis fel canolfan o ragoriaeth ar gyfer ymchwil a datblygu. Edrychaf ymlaen at weld y cynlluniau ehangu yn dwyn ffrwyth.”