Mae Allison Evans yn weithiwr cefnogol gydag Antur Waunfawr, menter gymdeithasol sy’n cynnig gwaith, hyfforddiant a gweithgareddau lles i oedolion ag anableddau dysgu.
Mewn galwad i eraill ymuno â’r maes gofal, mae Allison wedi sôn am ei chyfnod yn Antur Waunfawr, cyfnod sy’n ymestyn yn ôl i 1998.
Dechreuodd Allison weithio gydag oedolion ag anableddau dysgu yn 1996, bryd hynny fel rhan o wasanaeth Cyngor Gwynedd. Cyn hynny bu’n gweithio gyda phobl hŷn a phobl oedd yn dioddef o ddementia. Pan welodd bod swydd ar gael gydag Antur Waunfawr ym 1998, gwnaeth gais a bu’n llwyddiannus.
“Dwi’n cofio’r shifft gyntaf. Y noson gyntaf. Ym mis Ebrill 1998. Dyna pa mor glir ydi o yn fy meddwl.
“Nes i weithio am flwyddyn fel gweithiwr cefnogol ac o fewn blwyddyn ges i fy ngwneud yn is-reolwr, dros gyfnod mamolaeth.
“Ond fe nes i aros yn y rôl honno yn y pen draw, yn benodol fel rheolwr y gwasanaeth tai. Wedyn nes i sefydlu ein Gwasanaeth Aml-ofynion yn 2010. Mae’r adran honno’n cynnig gwasanaeth therapiwtig i unigolion ag amrywiaeth o anghenion.
“Ar ôl hynny nes i ddychwelyd i weithio gyda phobl hŷn, ond o’n i’n gweld isio Antur Waunfawr. O’n i’n gweld isio cydweithwyr, ac yn gweld eisiau’r unigolion, ac felly nes i ddod nôl yn 2015.
“Erbyn hynny do’n i ddim isio swydd reoli, felly ers 2015 dw i wedi bod yn weithiwr cefnogol.
“Taswn i heb adael am gyfnod, faswn i wedi bod yma ers 25 mlynedd.”
Beth yn union sy’n ysbrydoli Allison yn ei gwaith dydd i ddydd?
“Gweld yr unigolion yn datblygu ac yn dod yn annibynnol, yn trio pethau newydd, dod â hapusrwydd i’w bywydau, dyna sy’n bwysig i mi.
“Ac mae ’na lot o amrywiaeth yn y gwaith.
“Dwi wedi gweithio ar y lein blastig, yn Warws Werdd, yn y Gwasanaeth Aml-ofynion, y caffi, safle’r Antur yn Waunfawr, y siop, y tai… dwi’n licio cael yr amrywiaeth yna.
“Hefyd, dwi’n enghraifft o sut mae gan Antur Waunfawr lwybr gyrfa clir, sy’n helpu aelodau staff i fynd ymhellach yn eu gyrfa os ydyn nhw isio.
“Nes i gwblhau fy diplomas trwy Antur Waunfawr, felly mewn ffordd maen nhw wedi buddsoddi ynof i.”
Beth yw atgofion melysaf Allison o’i chyfnod yn Antur Waunfawr?
“Mae gen i lot o atgofion o fynd ar wyliau. Unwaith, efo dau unigolyn yn Disneyland, Florida. Oeddan ni’n isda ar y stryd yn ganol nos yn gwylio’r tân gwyllt. Dreams come true, a pawb yn crïo. Atgof na i fyth anghofio…”
Ar hyn o bryd, mae Antur Waunfawr yn ceisio dod o hyd i fwy o weithwyr cefnogol i ymuno â’r tîm.
Dylai’r sawl sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am y swydd gysylltu â swyddi@anturwaunfawr.cymru neu 01286 650721. Mae’r hysbyseb swydd ar gael yma, a’r Pecyn Recriwtio yma.