Dyfodol Tŷ’r Ysgol, Llanrug

Dyma erthygl o rifyn mis Tachwedd Eco’r Wyddfa am ddyfodol safle Tŷ’r Ysgol, Llanrug

Eco'r Wyddfa
gan Eco'r Wyddfa
IMG_4908

Tir Tŷ’r Ysgol, Llanrug

cynllun-2-dy-2019BroWyddfa

Cynlluniau y ddau dŷ fforddiadwy ar safle Tŷ’r Ysgol, mae’r plots mor llydan a chwech o dai Glanffynnon. Ar y chwith yn y gwaelod mae’r tir y bydd Ysgol Llanrug yn ei dderbyn bellach.

Mae ’na lawer o siarad yn Llanrug ar hyn o bryd am ddarn o dir ar Ffordd Llanberis. Pan dorrwyd y coed ar dir Tŷ’r Ysgol fis Medi, mi ddechreuodd y sgwrsio ar y stryd ac ar-lein …

Mae’r tir yn ffinio gydag Ysgol Gynradd Llanrug. Mae’r Ysgol wedi ei chartrefu mewn adeilad o’r 1920au, ar safle concrit, gyda chae chwaraeon yr ochr draw i’r lôn ar Ffordd Glanffynnon. Gyda nifer y disgyblion wedi cynyddu o fwy nag un traean mewn ugain mlynedd wrth i Llanrug dyfu, tir Tŷ’r Ysgol yw’r unig gyfle i’r Ysgol ymestyn a chael gofod addas ar gyfer addysg yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae ’na dipyn o siarad a holi felly ymysg trigolion Llanrug.

Roedd llawer yn y pentref yn gwybod bod Cyngor Gwynedd wedi prynu’r tir, ac roedden nhw’n meddwl mai at ddiben yr Ysgol a’r pentref y gwnaed hynny.  Ac er bod hen geisiadau cynllunio amlinellol i godi dau dŷ ar y safle, daeth hi’n dipyn o sioc er hynny i weld cynlluniau newydd ar gyfer tai yng ngardd Tŷ’r Ysgol. Tai fforddiadwy helaeth gydag amod lleol fyddai’r rhain mewn pentref lle mae galw mawr am gartrefi fforddiadwy i’w deuluoedd.

Mae rhieni lleol a chymdogion Ysgol Llanrug yn bryderus iawn, fodd bynnag, ac wedi llunio deiseb yn galw ar Gyngor Gwynedd i ddatblygu’r tir i gyd at ddiben yr Ysgol ac isadeiledd y pentref – y cyfle olaf am byth i wneud hynny.  Mae Ysgol Llanrug hefyd yn awyddus iawn i dderbyn y tir er mwyn cael gofod dysgu tu allan gwyrdd, hwb dysgu a chymunedol yn yr hen dŷ a gofod parcio i liniaru’r problemau traffig dyrys a pheryglus o amgylch yr Ysgol.

Mae problemau draeniad difrifol yn yr ardal hefyd gyda rhai tai yn Stad Glanffynnon yn cael eu gorlifo mewn glaw trwm a’r Ysgol yn cael ei heffeithio hefyd. Mae pryder mawr mai gwaethygu wnaiff y broblem gyda mwy o dai a diffyg cynllunio.

Mae Llanrug ymysg yr ychydig gymunedau ar ôl yn y byd gyda dros 70% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg – prin 40 sydd ar ôl i gyd bellach. Mae 86% o drigolion Llanrug yn siarad Cymraeg, y pentref gyda’r ganran uchaf, ac mae 92.1% yn siarad Cymraeg ar Ffordd yr Orsaf – y stryd Gymreiciaf yn y bydysawd. Felly, mae Llanrug yn drysor sydd angen ei warchod i’r ddynoliaeth a’r ddaear! Ond sut mae gwneud hynny orau?

Sut mae datrys problem tir Tŷ’r Ysgol?

Cefndir

Mae Tŷ’r Ysgol Llanrug a’i ardd helaeth yn eiddo i Gyngor Gwynedd ers 2017. Fe brynwyd y tir gan y Cyngor “rhag ofn y byddai ei angen ar gyfer dibenion addysgol yn y dyfodol”. Flwyddyn cyn ei werthu, cyflwynodd y perchnogion blaenorol gais cynllunio amlinellol llwyddiannus i godi dau dŷ moethus yn yr ardd.  Doedd dim cynllun pendant nag arian ar gyfer unrhyw waith gan y Cyngor wrth brynu’r tir, ond dadleuodd y diweddar Gynghorydd Charles Wyn Jones yn llwyddiannus mai hwn fyddai’r cyfle olaf i ddatblygu Ysgol Gynradd Llanrug a chyfarch y problemau gydag isadeiledd y safle, oherwydd ei leoliad yng nghanol y pentref.

Mae llawer iawn wedi digwydd yn y bum mlynedd a mwy ers 2017, gan gynnwys pandemig byd-eang a chyflwyno Cwricwlwm newydd i Gymru.  Yng nghyd-destun y darn yma o dir yng nghanol Llanrug, penderfynodd Cyngor Gwynedd yn 2019 nad oedd ei angen at ddibenion addysg gan nad oedd am ad-drefnu addysg yn lleol. Yn anffodus, wnaethon nhw ddim holi barn yr Ysgol am ei anghenion ac isadeiledd cyn penderfynu hyn – nac yn wir eu hysbysu o’r penderfyniad!

Yng Nghyfarfod Cabinet Cyngor Gwynedd ar 16 Chwefror 2021, yn y bwlch wedi marwolaeth Charles Jones a chyn ethol Beca Brown yn gynghorydd Llanrug ac ar gynffon ail don fawr Covid, trosglwyddwyd tri chwarter tir Tŷ’r Ysgol i Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd – roedd hyn yn cynnwys Tŷ’r Ysgol ei hun a’r ddau blot. Roedd y Cyngor wedi benthyg arian o’i reserfau corfforaethol i brynu’r tir, ac felly ad-dalwyd £150,000. 

Hefyd, yn sgil grant moderneiddio a enillodd y Cyngor, roedd Ysgol Llanrug am dderbyn rhan o ardd gefn Tŷ’r Ysgol (492.336m²) er mwyn “ymestyn y gofod chwarae cyfnod sylfaen” dan y cynllun hwn.

Nid bwriad y Cyngor oedd rhoi’r ddau blot tŷ ar y farchnad agored; yn hytrach daethant yn rhan o gynlluniau tai fforddiadwy i bobl leol. Trodd y tai moethus yn dai fforddiadwy – er bod y cynlluniau yn edrych yr un peth yn union!

Aeth y gwaith moderneiddio yn ei flaen yn Ysgol Llanrug yn haf 2022 gan greu gofod storio y tu hwnt i bileri yn y neuadd, creu ystafell athrawon newydd, mwy o gyfleusterau a choridor ychwanegol.

Dyma pryd y deallodd yr Ysgol mewn gwirionedd bod rhan fawr o dir Tŷ’r Ysgol bellach yn perthyn i Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd ac nid yr Adran Addysg.

Y Broblem

Erbyn yr hydref yma, wedi i’r coed oedd yn cuddio’r safle gael eu torri, mae’r Ysgol, rhieni a llawer yn y pentref yn pryderu fod y cyfle olaf i ddatblygu safle Ysgol Llanrug i gwrdd ag anghenion addysg yn cael ei golli. Hefyd, gan nad yw Cyngor Gwynedd wedi cynnal unrhyw ymchwil nac arolwg i anghenion yr Ysgol rŵan ac at y dyfodol, na chwaith wedi ystyried isadeiledd yr Ysgol a’r pentref yn ehangach cyn mynd ati i godi tai ar y safle, mae teimlad o anniddigrwydd.

Ar y llaw arall, mae’r ddau dŷ sydd wedi eu cynllunio ar y safle am fod yn dai fforddiadwy ac ar gyfer pobl leol. Mae galw mawr am dai yn lleol i deuluoedd o’r pentref a chynlluniau blaengar gan y Cyngor, fel Tai Teg, wedi eu creu i daclo’r broblem enbyd hon.

Mae arian yn brin mewn awdurdodau lleol bob amser ond mae’r cyfnod hwn a’r pryder am y cynni sydd i ddod yn ddifrifol iawn. Mae’r tir yn perthyn i’r Cyngor; ac felly, ar un olwg dyma ateb fforddiadwy sy’n cyflawni sawl nod.

Wrth gwrs, mae Cynllun Datblygu Lleol y Sir am gael ei adolygu’n fuan iawn. Mae Llanrug bron â chyrraedd capasiti tai y cynllun presennol, a gellid dadlau nad ydi caeau a thir yn brin ac y byddai modd codi tai fforddiadwy i bobol leol mewn sawl lle arall yn y pentref yn lle tir Tŷ’r Ysgol. 

Dyma yw’r her y mae Cynghorydd Llanrug, Beca Brown, yn ceisio ei datrys ar hyn o bryd – hoffwn i ddim bod yn ei sgidiau hi. Meddai Beca: “Ers dod i fyw i Lanrug ugain mlynedd yn ôl ac yn sicr ers dod yn gynghorydd ychydig dros ddwy flynedd yn ôl rydw i’n ymwybodol iawn bod problemau traffig a pharcio’r pentref wedi bod yn destun llosg. Rydan ni’n byw mewn pentref poblogaidd ac yn ffodus i fod â dwy ysgol a nifer o fusnesau llwyddiannus sydd yn denu – ond mae hyn, wrth gwrs, yn creu prysurdeb. Rydw i mewn trafodaethau cyson efo’r Cyngor ac yn pwyso arnynt i wneud y Sgwâr yn fwy diogel ac i ddatblygu llwybrau teithio llesol a llwybrau diogel i’r ysgol er mwyn cefnogi pobol i ddefnyddio llai ar eu ceir. Byddai’r gallu i gerdded i’r ysgol yn ddiogel yn hybu iechyd a llesiant plant yn ogystal â gwneud cyfraniad pwysig dros yr amgylchedd, yn lleol a thu hwnt. Rydw i wrth fy modd bod yr ysgol gynradd yn cael darn o dir ychwanegol rwan er mwyn datblygu gofod dysgu tu allan, ond yn cydymdeimlo’n fawr gyda’u rhwystredigaeth nad ydi Tŷ’r Ysgol bellach wedi ei glustnodi i ddibenion addysg. Byddaf yn gweithio gyda’r ysgol a’r gymuned i greu cynllun ar gyfer y tŷ er mwyn ei gyflwyno i’r Cyngor.”

Mae sawl ffactor arall sy’n hollbwysig yn y drafodaeth hon i gymhlethu’r ddadl ymhellach – sef draeniad, capasiti’r Ysgol a thraffig …

Dŵr

Os cerddwch chi heibio i safle Tŷ’r Ysgol, mi welwch bod y tir ar y pigyn ble mae’r tai i fod i gael eu codi yn dipyn o gors ar hyn o bryd.

Mae problemau draeniad difrifol yn y rhan yma o’r pentref ers blynyddoedd; mae’r Ysgol yn cael trafferthion gyda llifogydd, a gwaeth na hynny broblemau carthffosiaeth. Mae problemau llawer gwaeth yng ngwaelod Stad Glanffynnon, gyda dŵr yn dod i mewn i rai o’r tai pan mae hi’n bwrw’n ddrwg.  Mae’r bobl sy’n byw yn y tai yma’n poeni trwy’r flwyddyn am law trwm.

Dyma ddywedodd Kayleigh Jones o Stad Glanffynnon: “Rydw i wedi byw yn Stad Glanffynnon ar hyd fy oes; mi brynodd fy ngŵr a minnau ein cartref gan fy rhieni. Yn ystod y naw mlynedd rydan ni wedi bod berchen ein cartref, rydan ni wedi rhyfeddu gan faint y llifogydd ar y stryd. Mae’r llifogydd yn digwydd yn ystod yr haf a’r gaeaf, rydan ni ar bigau’r drain o hyd gan y gallai ddigwydd unrhyw amser. Mae mater llifogydd wedi gwaethygu yn ofnadwy ar ôl i’r tai newydd ar safle Modurdy’r Hafod gael eu hadeiladu. Rydan ni’n hynod o bryderus y bydd adeiladu ar safle Tŷ’r Ysgol ond yn gwaethygu’r broblem.

“Mae’r tir yn hynod o gorslyd, a gyda’r holl drafferth mae Glanffynnon yn ei gael gyda llifogydd rydan ni’n poeni’n arw am yr effaith y bydd gwaith adeiladu pellach yn ei gael.”

Ysgol Gynradd Llanrug

Mae Ysgol Gynradd Llanrug wedi bod ar y safle presennol yng nghanol y pentref ers 1921. Mae hi’n ysgol hapus a llwyddiannus iawn sydd wedi ymestyn ac addasu sawl gwaith dros y blynyddoedd i gwrdd ag anghenion newydd ond mae hyn wedi crebachu’r gofod tu allan yn sylweddol.

Hi yw chweched ysgol gynradd fwyaf Gwynedd ers pum mlynedd a mwy. Yn gyffredinol, mae’r niferoedd yn dal i godi, a hynny wrth gwrs yn groes i batrwm llawer o ysgolion eraill dros y degawdau diwethaf.

Mae Ysgol Gynradd Llanrug yn awyddus iawn i Gyngor Gwynedd adolygu a mynd i’r afael â sawl mater a allai effeithio ar addysg, diogelwch a llesiant y disgyblion cyn penderfynu’n derfynol ar beth sy’n digwydd i dir Tŷ’r Ysgol.

Gofynnwyd i Gyngor Gwynedd fesur capasiti Ysgol Llanrug nifer fawr o weithiau yn ôl y canllawiau diweddaraf ac yn dilyn gwaith diweddar yn yr Ysgol sydd wedi lleihau maint sawl dosbarth, ond mae’r Cyngor yn dweud dro ar ôl tro nad oes modd gwneud hynny …

Er bod yr Ysgol yn amau’n gryf nad yw’r gofod dysgu’n ddigon mawr ar gyfer nifer y disgyblion, heb wybod yn sicr, mae’n anodd iawn gwneud achos, yn anffodus.

Mae mwyafrif ysgolion mawr eraill Gwynedd wedi derbyn buddsoddiad o filiynau o bunnoedd i’w stadau yn y blynyddoedd diwethaf. Llwyddodd tair ysgol gynradd sydd mewn ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol – ble mae dros 70% yn siarad Cymraeg – i ddenu buddsoddiad mawr i gyfarch cynnydd mewn capasiti ar sail yr iaith Gymraeg.

Os nad yw Cyngor Gwynedd yn fodlon mesur capasiti Ysgol Llanrug, sydd mewn pentref o arwyddocâd ieithyddol unigryw, sut mae’r Ysgol yn gallu gwneud cais am fuddsoddiad tebyg i ddatblygu’r safle 100 oed er lles ei disgyblion a’r dyfodol?

Parcio

Mae’r Ysgol ar restr problemau parcio difrifol Cyngor Gwynedd. Chwe gofod parcio sydd i rieni gyda dros 250 o blant yn yr Ysgol. Mae ceir yn cael eu gadael ar hyd y lonydd a’r stadau tai gerllaw yn y bore, ac yn aml mae rhieni’n parcio ar draws pafin hyd yn oed.

Er bod Ysgol Llanrug yn ysgol bentref, gan nad oes ysgolion yng Nghwm-y-glo, Brynrefail a Ceunant mae hi hefyd yn ysgol ardal i raddau.

Mae’r Ysgol yn ceisio annog teuluoedd y pentref i gerdded i’r ysgol, ond gan nad oes pafin mewn rhai rhannau canolog o’r pentref a gyda cheir wedi eu parcio ym mhobman, mae rhieni’n poeni am ddiogelwch, a mwy a mwy yn gyrru gan waethygu’r sefyllfa ymhellach.

Deiseb

Mae’r ddeiseb sydd wedi ei chyhoeddi ganol fis Hydref yn dangos rhwystredigaeth rhieni a thrigolion Llanrug wrth weld yr unig lwybr i wneud safle ysgol gynradd y pentref yn addas i’w ddiben yn 2023 yn cael ei rwystro gan fwy o dai.

Meddai Gemma Jones, trefnydd y ddeiseb: “Os caiff y cynllun adeiladu yma ei gymeradwyo, ni fydd cyfle BYTH eto i ehangu ar dir yr Ysgol a chynnig cyfleoedd i blant y pentref i gael budd o ardal y tu allan i waliau’r dosbarth i fwynhau a dysgu yn yr awyr agored. Rydym felly yn galw ar rieni a thrigolion pentref Llanrug i gefnogi ein deiseb i rwystro’r cynllun adeiladu tai rhag mynd yn ei flaen.” 

Mae awdurdodau lleol yn wynebu gwasgfa ariannol ddifrifol a thrist wrth gwrs, ac mae’n bosib nad yw swyddogion yn gweld sut mae modd cyflawni eu holl flaenoriaethau ac ateb pryderon Ysgol Gynradd a phentref Llanrug.

Wedi dweud hynny, os yw Llywodraeth Cymru wir am gefnogi cymunedau Cymraeg a gwireddu eu targedau o filiwn o siaradwyr, mae’n rhaid buddsoddi yn y cymunedau hynny i’w gwneud yn llefydd ymarferol i fyw ynddyn nhw ac yn bentrefi y bydd pobol yn dymuno byw ynddyn nhw.

 Mared Roberts

Rwy’n un o lywodraethwyr Ysgol Llanrug ond yn mynegi fy marn fy hun yn yr erthygl hon.