“Dwi’n licio gweithio yma!”
Dyna oedd gan Lee i’w ddweud wrth Ian Lang pan ddaeth ITV draw i weld y gwaith gwych sy’n mynd ymlaen yn Llarpio Antur.
Mae criw’r Antur yn giamstars ar sefyll o flaen camera erbyn hyn, a tydi Lee, brenin y belt yn Llarpio Antur ddim yn eithriad.
Fis diwethaf daeth Ian Lang, Gohebydd Gogledd Cymru ITV Wales News draw i weld y gwaith caled sy’n cadw Lee a gweddill yr hogia’n brysur.
Mewn eitem arbennig, daeth gwylwyr ITV Wales News i ddysgu mwy am y gwaith yn y ganolfan ailgylchu sy’n chwalu rhwystrau ar gyfer unigolion ag anableddau dysgu. A doedd Lee ddim yn swil.
Cafodd gyfle i drafod ag Ian yr holl waith sydd i’w wneud yn Llarpio Antur, o ddadlwytho’r fan i wagio cynnwys y bagiau i’r peiriant llarpio. Cafodd y newyddiadurwr gyfle arbennig i fentro tu ôl i’r llen i weld proses nad ydi pawb yn ddigon ffodus i’w gweld.
I wylio’r clip byr, dilynwch y ddolen hon.