Tad, heddychwr, ac ymgyrchydd: dathlu bywyd Gwynn

102 mlynedd ers geni sylfaenydd yr Antur

Antur Waunfawr
gan Antur Waunfawr

Roedd R. Gwynn Davies yn un o ymgyrchwyr hawliau pobl anabl mwyaf blaenllaw Cymru, ac ef oedd sylfaenydd Antur Waunfawr, menter gymdeithasol flaenllaw.

 

Ag yntau wedi’i ysgogi gan amgylchiadau personol, llwyddodd Gwynn Davies i drawsnewid meddylfryd pobl ynglyn â rôl unigolion ag anableddau dysgu mewn cymdeithas.

 

Yn enedigol o Weun, mynychodd ysgol y pentref cyn symud ymlaen i Ysgol y Sir yng Nghaernarfon.

 

Ar ôl cwblhau ei addysg, cafodd yrfa lwyddiannus ym maes y gyfraith, yn gyntaf gydag Ellis Davies & Co yng Nghaernarfon ac yna gydag R. Gordon Roberts & Co, Llangefni. Symudodd i weithio ym maes Llywodraeth Leol, gan wasanaethu fel Cyfreithiwr Cynorthwyol ac Uwch Gyfreithiwr Cynorthwyol i Gyngor Sir Gaernarfon, cyn dod yn Glerc Cynorthwyol i’r Cyngor. Yn ddiweddarach daeth yn Glerc Ynadon Bangor, Conwy, Llandudno a Betws y Coed.

 

Tra’n hyfforddi i fod yn gyfreithiwr, cofrestrodd fel gwrthwynebydd cydwybodol yn yr Ail Ryfel Byd ac fe’i gorfodwyd i weithio’r tir ar fferm Garreg Fawr yn Weun.

Roedd yn hanu o deulu gwleidyddol, ac roedd ei daid yn gefnogwr brwd i Ellis Davies AS. Yn ogystal â hynny bu’n eistedd ar Gyngor Sir Gaernarfon yn enw’r Rhyddfrydwyr.

 

Etifeddodd Gwynn ei anian heddychlon gan ei Dad. Dychwelodd yntau o’r Rhyfel Byd Cyntaf â chanddo gas perffaith tuag at filwriaeth, ac roedd yn arddel athroniaeth wleidyddol o sosialaeth heddychlon. Bu yntau bron ag ennill sedd ar Gyngor Sir Gaernarfon yn enw’r Blaid Lafur, ond collodd o lond dwrn o bleidleisiau.

 

Cyfaddefodd Gwynn Davies ei hun fod yr Ymerodraeth Brydeinig yn “air budr” ar yr aelwyd.

 

Ond mae Robert Gwynn Davies yn fwyaf adnabyddus am ei waith arloesol ym maes hawliau pobol anabl. Ganwyd ei ail blentyn, Gwion ag anawsterau dysgu, rhywbeth a newidiodd drywydd bywyd ei dad.

 

Roedd ei brofiad personol gyda’i fab yn ysgogi ei waith diflino ar gyfer gwell darpariaeth i unigolion ag anawsterau dysgu.

 

Bu Gwynn hefyd yn rhan annatod o’r ymdrechion i sefydlu Ysgol Pendalar, ysgol i blant ag anghenion addysgol ychwanegol yng Nghaernarfon. Yn ogystal â hynny, bu’n gweithio gyda Gwasanaeth Eiriolaeth a Chyngor Gogledd Cymru a bu’n Gyfarwyddwr ar SCOVO (Anableddau Dysgu Cymru bellach).

 

Flwyddyn ar ôl ymddeol yn gynnar yn 1983 i weithio i’r Comisiwn Iechyd Meddwl, cofrestrwyd Antur Waunfawr yn swyddogol ar 22 Mehefin 1984. Mae’r Antur yn parhau i fod yn fenter gymdeithasol flaengar sy’n cynnig cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant, lles a gwirfoddoli i unigolion ag anawsterau dysgu.

 

Sefydlwyd y fenter ym Mryn Pistyll, hen siop y pentref, siop a oedd yn cael ei rhedeg gan deulu Gwynn Davies

Wrth ddathlu 102 o flynyddoedd ers geni R. Gwynn Davies, mae Menna Jones, Prif Weithredwr Antur Waunfawr, wedi talu teyrnged i’w weledigaeth “bellgyrhaeddol”:

 

“Mae gwaddol Gwyn yn anhygoel.

 

“Roedd yn un o’r unigolion hynny oedd yn torri drwy’r twrw ac yn gwneud. Gwneud nid dweud oedd ei athroniaeth, a bu’n rhoi’r athroniaeth honno ar waith trwy’i fywyd.

 

“Wedi ei ysgogi gan amgylchiadau personol, chwyldrôdd y ffordd rydym yn meddwl am rôl unigolion ag anableddau dysgu yn ein cymdeithas.

 

“Mae ei weledigaeth radical a phellgyrhaeddol yn parhau i gael effaith gadarnhaol ar fywydau’r ardal, bron i ddeugain mlynedd ers sefydlu Antur Waunfawr.”

 

Cawsai Gwynn ei adnabod fel cymeriad crwn, a byddai’n siŵr o neilltuo amser ar gyfer diddordebau fel gwneud gwin, golffio, adeiladu dodrefn, cadw ieir, peintio, a chynganeddu.

 

Mae Anabledd Dysgu Cymru wedi sôn am gyfraniad Gwynn ar ben-blwydd ei eni:

 

“Mae nodi penblwydd R. Gwynn Williams yn rhoi’r cyfle inni edrych yn ôl ar sefydlu Anabledd Dysgu Cymru (SCOVO gynt), a pha mor allweddol oedd R Gwynn Williams.

 

“Yn ogystal â bod yn rhan o’r grŵp llywio gwreiddiol, parhaodd yn aelod o’r bwrdd am flynyddoedd lawer.

 

“Mae ei gyfraniad wrth sicrhau bod pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru yn chwarae rhan hanfodol yn eu cymunedau wedi newid ffordd o feddwl y gymdeithas rydyn ni’n byw ynddi.”

 

Derbyniodd R. Gwynn Davies gydnabyddiaeth o’i waith yn ystod ei oes ac ordeiniwyd ef i’r wisg wen yn Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni yn 1990. Cynigwyd iddo hefyd O.B.E. yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 1989 – ond gwrthododd y cynnig.

 

Mae Mary Oliver o Mencap Conwy wedi talu teyrnged i “ddyn hyfryd a chlyfar.”

 

“Roedd Robert Gwynn Davies yn ddyn hyfryd a chlyfar. Roedd o’n ddyn diymhongar, a fynnai bod anableddau dysgu ar frig agenda pawb.

 

“Bu’n ddylanwadol wrth sicrhau Strategaeth Cymru Gyfan, gan ffurfio nid yn unig Antur Waunfawr ond Grŵp Eiriolaeth Clwyd a Gwynedd ym Mryn y Neuadd.

 

“Mae ei ddylanwad a’i etifeddiaeth yn parhau i gael ei deimlo yn y gwasanaethau Anabledd Dysgu ar draws Gogledd Cymru.”