Mae Gwobrau’r Rhwydwaith Ailddefnyddio 2022 (llond ceg, ynde!?) yn cael eu cynnal fis nesaf, a nod y gwobrau yw dathlu llwyddiannau’r sector ailddefnyddio mewn seremoni flynyddol.
Y cyhoedd sy’n pleidleisio i enwi Sefydliad Ailddefnyddio’r Flwyddyn, gwobr a fydd yn cael ei dyfarnu i elusen neu fenter gymdeithasol sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig i’r sector ailddefnyddio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Mi ydan ni yn Antur wedi datblygu’n aruthrol dros y 35 mlynedd diwethaf, ac rydan ni ymhlith yr enwebai ar gyfer y wobr leni!
Mae’r Antur wedi cael ei henwebu fel cydnabyddiaeth o’n gwaith o fewn ein tri busnes gwyrdd. Mae’r Warws Werdd yn casglu dodrefn a dillad o’r gymuned ac o safleoedd y Cyngor i’w huwchgylchu, eu hailddefnyddio, neu eu paratoi ar gyfer ailgylchu. Caergylchu, ein canolfan ailgylchu mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd, yw lleoliad Llarpio Antur, gwasanaeth casglu gwastraff papur cyfrinachol sy’n gweithio ar draws gogledd Cymru. Ac yn drydydd Beics Antur, busnes sy’n llogi, gwerthu a thrwsio beiciau, gan gynnwys fflyd o feics addasiedig ar gyfer unigolion ag ystod eang o anableddau.
Mae pawb yn yr Antur yn hynod falch bod ein hymrwymiad i gynaliadwyedd a lleihau ein hôl troed carbon wedi’i gydnabod.
A rŵan mae’r penderfyniad yn eich dwylo chi, y cyhoedd. Mae’r ffurflen bleidleisio ar-lein bellach ar agor, ac rydan ni’n annog y rhai sy’n gyfarwydd â’n gwaith i fwrw pleidlais dros Antur Waunfawr i fod yn Sefydliad Ailddefnyddio’r Flwyddyn.
Mae’r pleidleisio’n cau ddydd Iau 15 Medi a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn y Seremoni Wobrwyo ar ddydd Mawrth 11 Hydref.