Mae Menna Jones yn camu o’r neilltu fel Prif Weithredwr Antur Waunfawr ar ôl 27 mlynedd wrth y llyw.
Fel y gŵyr nifer ohonoch, sefydlwyd Antur Waunfawr yn 1984. Fe’i sefydlwyd gan R. Gwynn Davies, un o ymgyrchwyr hawliau anabledd mwyaf blaenllaw Cymru, ond mae’r Antur bellach yn agor pennod newydd yn ei hanes wrth i’n Prif Weithredwr gamu o’r neilltu ar ôl 27 mlynedd wrth y llyw.
Ymunodd Menna â’r Antur yn 1995. Cyn hynny bu’n gweithio fel ysgrifennydd personol i’r AS lleol Dafydd Wigley, fel Swyddog Datblygu Tai Eryri, yn ogystal â gweithio i ddatblygu clybiau ar ôl ysgol ar draws Gogledd Cymru.
Ond mae unrhyw un sydd ynghlwm â’r Antur yn gwybod bod y fenter wedi’i thrawsnewid o dan arweiniad Menna.
Pan ymunodd Menna â’r Antur, roeddem yn ddibynnol iawn ar grantiau, ac roedd gennym drosiant o £250,000 a 25 o bobl yn gweithio inni. Ymgymrodd â’r swydd gyda dycnwch a phenderfyniad i drawsnewid Antur Waunfawr yn fusnes cynaliadwy. Tyfodd o fod yn fudiad gwirfoddol i fod yn hunangynhaliol trwy gynhyrchu incwm masnachol ac ennill cytundebau.
Mae ffrwyth ei llafur yn amlwg.
Erbyn hyn, mae gennym drosiant o £3.2 miliwn, ac mae nifer y staff wedi cynyddu dros bedair gwaith.
Dan adain Menna, mae Antur Waunfawr wedi prynu a datblygu eiddo a safle, ac wedi arloesi yn y sector amgylcheddol, yn benodol mewn ailgylchu ac ailddefnyddio, yn ogystal ag mewn ynni gwyrdd. Goruchwyliodd Menna’r broses o ddatblygu tri busnes gwyrdd sy’n cynnig cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant amhrisiadwy i oedolion ag anableddau dysgu.
Mae Antur Waunfawr wastad yn edrych ymlaen at y dyfodol, ac mi ydan ni’n gyffrous i fod yn cychwyn ar bennod newydd yn ein hanes. Ond mae’n achlysur chwerwfelys. Mae Menna wedi arwain ar ddegawdau o ddatblygiad parhaus ac uchelgeisiol. Mae ganddi angerdd brwd dros arloesi o’r llawr gwlad, ac mae’n arddel gwerthoedd cyfiawnder cymdeithasol cryf iawn sy’n hanfodol i sefydliad fel Antur Waunfawr.
Mae ’na fwy i’w ddweud, ond am rŵan, digon ydi dweud…
Diolch Menna.