Dathlu carreg filltir amgueddfa o bwys rhyngwladol

Mae Amgueddfa Lechi Llanbêr yn 50 oed eleni

Siân Gwenllian
gan Siân Gwenllian
Untitled-design-78

Gydag Elen Roberts, rheolwr Amgueddfa Lechi Cymru

Fel yr Aelod lleol o Senedd Cymru, cefais gyfle yn ddiweddar i ymweld ag un o amgueddfeydd cenedlaethol Cymru ar achlysur eu pen-blwydd yn 50 oed.

Agorwyd Amgueddfa Lechi Cymru yn chwarel Dinorwig ym 1972, ac mae’n dogfennu hanes cyfoethog diwydiant llechi Cymru. Peidiodd y chwarel â chynhyrchu llechi ym 1969 ac fe ail-agorwyd y safle fel atyniad addysgol ar 25 Mai 1972.

Mae dathliadau’r garreg filltir arbennig hon yn cael eu cynnal flwyddyn ar ôl i ardaloedd llechi Gwynedd gael eu dynodi’n Safle Treftadaeth y Byd.

Fel rhywun a gafodd fy ngeni a’m magu yn yr ardal arbennig hon, mae’n rhaid i mi, fel llawer o bobl leol eraill, atgoffa fy hun yn aml o bwysigrwydd aruthrol yr hanes sy’n fy amgylchynu. Yr ardal hon oedd canolbwynt diwydiannol y byd, ac mae llawer o bobl Arfon yn ddisgynyddion i weithwyr a roddodd doeau ar dai’r byd. Roedd gen i fy hun hen daid a oedd yn gweithio mewn chwarel yn Arfon, a chefais fy magu mewn pentref morwrol oedd yn cludo llechi ar draws y byd.

Mi wn fod pobol leol yn falch o’r hanes hwnnw, ac yn falch o’r ffordd y mae’r hanes wedi’i ddogfennu yn Amgueddfa Lechi Cymru. Mae pobol Arfon wedi byw yng nghysgod y chwareli llechi hyn yn llythrennol ac ar lefel cymdeithas ac economaidd. Mae effeithiau colli’r diwydiant hwn i’w teimlo o hyd, ac mae ’na lot o dlodi yn yr ardal.

Ond mae yna lawer o bethau i fod yn gyffrous yn eu cylch, ac mae’n rhaid i unrhyw ddatblygiadau sy’n dod yn sgil dynodi’r ardal yn Safle Treftadaeth y Byd ddod â newidiadau go iawn i fywydau pobol leol. Mae’r Amgueddfa Lechi Genedlaethol yn ein hatgoffa o gyfraniad yr ardal hon i’r byd, a rŵan mae’n bwysig ein bod yn edrych ymlaen at y dyfodol ac yn meddwl yn greadigol am sut i greu cyflogaeth gynaliadwy i bobl leol.