Mae’r gyfres deledu Gwesty Aduniad yn dod â phobl ynghyd sydd wedi colli cysylltiad, neu sydd isio cysylltu am y tro cyntaf.
Ond bydd un o aduniadau mwyaf anghyffredin y gwesty yn cael ei ddarlledu fory.
Daethpwyd o hyd i gadair Eisteddfod Bentref Waunfawr 1948 yn y Warws Werdd y prosiect ailgylchu ar Stad Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon. Adnewyddwyd y gadair gan yr artist lleol Cefyn Burgess. Cyn comisiynu Cefyn i ailwampio’r gadair, roedd wedi ei gorchuddio â lledr du.
Yn 2022 aed ati o ddifrif i geisio dod o hyd i hanes y gadair a’i henillydd. Darganfuwyd mai Emyr Jones, Tŷ’n Ceunant, Waunfawr oedd enillydd cadair yr Eisteddfod a gynhaliwyd yng Nghapel Bethel, Waunfawr (sef safle’r byngalo, cartref presennol y gadair, digwydd bod!)
Emyr oedd yr hynaf o blant Harri Jones a’i wraig. Yn dilyn cyfnod yn y fyddin aeth Emyr i Goleg Normal ym Mangor i hyfforddi i fod yn athro. Bu’n brifathro yn Ysgol Betws-yn-Rhos ger Abergele.
Gwnaed y gadair gan saer o’r enw Thomas Arthur Thomas, un o bartneriaid Thomas & Thomas, yng ngweithdy’r cwmni yng Nghroesywaun.
Fory (nos Fawrth) bydd y gadair yn ymddangos ar y gyfres boblogaidd Gwesty Aduniad ar S4C, pan fydd merch ac wyres bardd y gadair yn ei gweld yn ei ffurf bresennol.
Gwesty Aduniad, Pennod 2, Cyfres 3, Dydd Mawrth 13, 21:00.