Ar gyfer Tudalen yr Ifanc Eco’r Wyddfa aeth tair o’n gwirfoddolwyr ifanc 6ed Ysgol Brynrefail, Gwernan, Nel a Mared i gyfweld y bodledwraig Mari Elen Jones sy’n byw yng Nghwm y Glo am ei phod ‘Gwrachod Heddiw’
Dim ond rhan fach o’r cyfweliad oedd yn ffitio yn y papur, felly dyma’r cyfweliad yn llawn i chi gyd gael gwrando.
Eisiau gwrando ar y podlediad? Gallwch chi ddarganfod Gwrachod Heddiw yma.
Y Fantell Wen a Mari
Yn 2020 comisiynwyd Mari i ysgrifennu a pherfformio darnel rhan o ddigwyddiad Ceangal Dolen II sef ‘a gathering of Celtic Theatre Makers’. Wedi ei hysbrydoli gan straeon Gwrachod Heddiw aeth Mari ati i greu’r darn “Y Fantell Wen a Mari”. Dyma ddywedodd Mari am y darn cyn iddi fynd ati i’w greu:
“Mi oedd Mary Evans, neu Mari’r Fantell Wen yn ddynas oedd yn troedio’r tir rhwng 1735 – 1789. Roedd hi’n ddynad pwerus a adawodd ei gwr yn Sir Fon i fynd i fyw hefo Pregethwr ym Maentwrog oherwydd doedd ei gwr hi ddim yn derbyn ei chrefydd, sef ei bod hi wedi dyweddïo a Iesu. Daeth Crefydd Mari yn boblogaidd wrth iddi denu rhwng 60 – 70 o ddilynwyr, ac un diwrnod fe briododd hi Iesu mewn seremoni yn Llan Ffestiniog yn gwisgo Mantell Goch. Yn dilyn ei phriodas wedyn, pob dydd Sul, mi fasa Mari a’i dilynwyr yn cerdded fyny y Moelwyn er mwyn cymryd rhan mewn seremoni lle byddai dilynwyr Mari yn gweiddi “AmenAmenAmen” yn gyflym, neu “Pw-pw-hwi, Pw-pw-hwi, Pw-pw-hwi!”. Buodd farw Mari yn 1789, a cafodd ei chladdu yn Llanfihangel ger Harlech.
Fy mwriad i ydy creu darn o waith yn astudio cysylltiad Mari’r Fantell Wen a minnau oherwydd fy nghysylltiadau cry’ hefo Ffestiniog, Harlech, a bod y ddwy ohonom ni’n rhannu’r r’un enw. Rwyf yn dychmygu creu ffilm fer celfyddydol yn troedio y tir gerddodd Mari’r Fantell Wen arni, yn gwisgo mantell goch, ac yna troedio’r tir fel fy hun. Mi faswn i’n cysylltu y ddwy gymeriad trwy berfformio “spoken word” fel troslais dros y ffilm, yn mynd o un cymeriad i’r llall yn disgrifio’r tir a’r agweddau merchetaidd sydd yn ein cysylltu ni, ond wedyn hefyd yn amlygu beth sy’n ein gwneud ni’n wahanol.”