Erioed wedi’i chael hi’n anodd ffeindio mynedfa adeilad mawr? Neu’n chwilio am fwthyn yn y berfeddwlad yng nghanol ardal cod post anferthol? Dyma mae ‘What 3 Words’ yn ceisio ei ddatrys. Mae’r cwmni wedi creu system sy’n dynodi label 3 gair ar gyfer pob 3 metr sgwâr yn y byd i gyd. Y gobaith yw bod y system yn ei gwneud yn haws i ddarganfod lleoliadau pendant.
Ers mis Ebrill 2020, mae’r labeli hyn hefyd ar gael yn Gymraeg! Dyma’r labeli ar gyfer rhai o adeiladau neu fannau eiconig yr ardal. Fel y gallwch weld, maen nhw reit ‘random’!
Mynedfa Castell Dolbadarn – newidiaf.fforwm.slabiau
Mynedfa Eglwys Llanddeiniolen – parlwr.gwasgariad.dilynwn
Copa’r Wyddfa – elusennol.cwpwrdd.oedolion
Canol platfform gorsaf Waunfawr – bydol.marchogaeth.disodli
Prif fynedfa Ysgol Brynrefail – digonol.amrywiol.mewndirol
Pen y Llyn – caledwch.gwasgodd.gellygen
Pont Charlie Bethel – llyncwch.agorwyr.tecach
Y Gleddyf, Llanberis – siampw.simsanu.sefydliadau
Beth am ddarganfod labeli eraill diddorol yr ardal ar what3words.com. I newid yr iaith i’r Gymraeg, ewch i’r ddewislen 3 llinell, mynd i ‘3 word address language’ a dewis ‘Cymraeg’.
Ydych chi’n fusnes yn y fro? Gadewch i ni wybod beth yw eich label ‘What3Words’ chi yn y blwch isod!