Heb gyfraniad yr ardal hon, mi fuasai diwylliant cerddorol Cymru wedi bod yn wahanol iawn. Mae Alffa a’u 6 miliwn o ffrydiadau ar Spotify, Derwyddon Dr Gonzo a’u perfformiadau egnïol sydd bellach yn chwedlau modern ac Y Bandana a’u hawch i drefnu ac i chwarae mewn gigs a theithiau o amgylch y wlad wedi bod yn rhan greiddiol o stori’r diwylliant a’r diwydiant dros y pymtheng mlynedd diwethaf.
Cyn y cyfnod hwnnw, gyda cherddoriaeth bop acwstig yn mynd drwy rhyw fath o adfywiad, roedd Brigyn a’u dylanwadau gwerinol a cherddoriaeth fachog Vanta yn ddau enw canolog mewn gigs ar hyd a lled Cymru.
Roedd y band Gogz, a newidiodd eu henw i The Heights yn ddiweddarach, yn enw addawol a oedd yn troi clustiau ambell i berson dros y ffin a thu hwnt. Aeth Owain Ginsberg o’r band ymlaen i ffurfio Masters in France a We Are Animal, gan dderbyn llwyddiant yn benodol gyda’r Masters wrth iddyn nhw ymddangos ar hysbyseb IKEA yn 2012.
Yn fwy diweddar, mae artistiaid ifanc fel Magi Tudur a Dienw wedi dechrau gwneud marc gwirioneddol yn gerddorol gan ddod yn rai o enwau mwyaf addawol y blynyddoedd sydd i ddod.
Sin Dyffryn Peris?
Fodd bynnag, er yr allbwn sylweddol hwn, dydi’r ardal ddim yn derbyn yr un math o sylw ac ambell ardal arall yng Nghymru am ei chyfraniad i’r byd cerddorol. Y tu draw i fynydd Elidir Fawr, mae pentref Bethesda’n aml yn cael ei defnyddio fel model o sîn leol oedd ar adegau gwahanol yn yr wythdegau a’r nawdegau, yn grochan o fandiau, gigs, gwyliau a strwythurau diwydiannol fel labeli a chylchgronau. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym ni wedi gweld ardaloedd fel Dyffryn Conwy a threfi fel Caerfyrddin yn denu’r un math o sylw, ac wrth gwrs, faint o weithiau ydym ni wedi clywed trafodaethau am artistiaid a lleoliadau cerddorol Caerdydd?
Rydym ni’n aml iawn yn trafod y berthynas rhwng cerddoriaeth a lleoliad ar flog a phodlediad Sôn am Sîn. Mae cymeriad a nodweddion lleoliad penodol yn gallu ymddangos mewn nifer o ffyrdd yn gerddorol, boed hynny’n fwriad gan yr artist neu beidio. Fodd bynnag, efallai bod y cwestiwn yn un fwy cymhleth wrth drafod sain Dyffryn Peris. Oes ‘na un yn bodoli? Mi fuasai rhai yn honni bod y berthynas â’r mynyddoedd yn esgor ar sain seicadelig, trwm ar adegau, ac efallai bod hynny’n wir am gerddoriaeth CaStLeS a Worldcub, ond mae’r theori honno’n teimlo fel un braidd yn ddiog.
Rhaid ystyried efallai nad oes yna ddiwylliant cadarn, parhaol, o drefnu gigs wedi bod yn yr ardal ers blynyddoedd. Gan eithrio ambell gig cofiadwy yn y Bedol ym Methel, ac ymdrechion mwy diweddar i’w cynnal mewn lleoliadau yn Llanberis, mae’r rhan fwyaf o artistiaid yr ardal yn gorfod teithio i dref Caernarfon i fagu eu crefft ar lwyfan.
Coda hynny gwestiwn arall. Ble mae ffiniau Dyffryn Peris? Does yna ddim yr un awydd yma i drin yr ardal fel un endyd â rhywle fel Dyffryn Nantlle neu Ddyffryn Ogwen. Pwy fyddai’n dweud eu bod nhw’n dod o Ddyffryn Peris, neu fro Gwyrfai, wrth egluro i rhywun? Ar un adeg, roedd Chwarel Dinorwig yn ganolbwynt i’r ardal wrth i weithwyr o’r pentrefi cyfagos gyfarfod yno. Mae treigl amser ers cau’r chwarel yn golygu bod ei dylanwad fel canolfan yn prysur ddiflannu, ac efallai mai’r unig beth sydd gennym ni erbyn hyn sydd yn cyflawni’r swyddogaeth hwn yw Ysgol Brynrefail. Yn wir, pe byddai plant Bethel a Waunfawr yn dal i deithio i lawr i’r dre’ i Ysgol Syr Hugh bob dydd, a fyddai’r pentrefi hynny’n cael eu hystyried i fod yn rhan o’r ardal o gwbl ?
Fodd bynnag, mae’n bryd cydnabod pwysigrwydd cerddorol y fro. Ar Ddydd Miwsig Cymru eleni, cawn ddathlu’r bandiau hynny sydd wedi dod i lawr o lethrau’r Wyddfa a’i chriw, yn drosiadol wrth gwrs, i gyfoethogi’r wlad yn ddiwylliannol. Roedd Hogia’r Wyddfa yn uchel eu cloch gyda chanmoliaeth i’r ardal, gan ddod a hanesion hen bentra’ bach Llanber i glustiau’r genedl. Efallai bod yn rhaid i ni wneud yr un peth a datgan bod Dyffryn Peris, bro Gwyrfai, bro’r Eco, bro’r Wyddfa, neu beth bynnag ydych chi am ei alw, yn un o gonglfeini cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg y genhedlaeth hon.
Os ydych chi’n hoff o’r math yma o beth, mae llawer mwy i’w gael ar flog sonamsin.cymru!
Mae ’na restr chwarae arbennig wedi ei greu yn dathlu cerddoriaeth rhai o artistiaid amlwg yr ardal. Gwrandwch yma!