Croesawu Cynlluniau Canolfan Iechyd Weun

Mae’r cynlluniau ar gyfer y Ganolfan Gofal Cychwynnol yn Waunfawr wedi eu cymeradwyo

Osian Owen: Ar Goedd
gan Osian Owen: Ar Goedd

Mae cynghorwyr Gwynedd wedi cymeradwyo’r cynlluniau ar gyfer Canolfan Gofal Cychwynnol newydd ym mhentref Waunfawr.

Bydd syrjeri Waunfawr yn cael ei symud o’r feddygfa bresennol yn y pentref i ganolfan bwrpasol newydd ger Fferm Cross. Bydd y safle yn cynnwys 59 lle parcio.

Mae disgwyl y bydd adeiladu’r cyfleusterau newydd yn cynyddu gweithlu’r ganolfan hefyd.

Cynigiodd y Cynghorydd Dilwyn Lloyd y dylid cymeradwyo’r cynlluniau wrth annerch cyfarfod Pwyllgor Cynllunio Gwynedd ddydd Llun, gan ddweud bod y newidiadau’n rhai angenrheidiol.

Mae adroddiad y swyddogion yn cydnabod safbwyntiau trigolion lleol  a’r effaith ar gymeriad y pentref a’r amgylchedd lleol, ac fe ddaethant i’r canlyniad nad oedd “unrhyw effaith niweidiol sylweddol sydd yn groes i bolisïau cynllunio a chanllawiau cenedlaethol perthnasol.”

Mae Siân Gwenllian AS wedi croesawu’r cyhoeddiad, gan ddweud ei fod yn newyddion da “ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu.”

“Mae Meddygfa Waunfawr yn gwasanaethu ardal eang, ac mae’n bwysig bod gan y bobol leol gyfleusterau iechyd sy’n addas i’r 21ain ganrif.

“Rwyf wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella cyfleusterau iechyd ym mhentref Waunfawr ers cael fy ethol yn 2016.

“Ar fy ymweliadau â’r feddygfa rwyf wedi clywed straeon a thystiolaeth gan y gweithwyr sy’n dangos nad yw’r feddygfa bresennol bellach yn addas i wasanaethu ei chleifion.

“Mae’r cynlluniau newydd yn gyffrous, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y cynlluniau yn dwyn ffrwyth.”