Y stori orau ar BroWyddfa360 yn 2020: dewis y bobol

Cyfle i bobol Dyffrynnoedd Peris a Gwyrfai bleidleisio am eich hoff stori leol

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mewn blwyddyn lle mae golygon cymaint ohonom wedi troi at ein milltir sgwâr, rydym wedi gweld cynnydd anhygoel yn y defnydd o’r gwefannau bro. Mae’r 7 gwasanaeth lleol-iawn wedi bod yn ffynhonnell amhrisiadwy o straeon, gwybodaeth a difyrrwch i gymaint o bobol eleni. Maent hefyd wedi bod yn gofnod o sut fu bywyd pobol a’n cymunedau yn ystod un o’r blynyddoedd mwyaf rhyfedd mewn cof.

Er gwaetha’r Covid – y canslo a’r diffyg dod ynghyd arferol – cyhoeddwyd dros 1230 o straeon bro yn 2020, ac erbyn hyn mae dros 430 o bobol leol wedi cyhoeddi stori ar eu platfform lleol.

I ddathlu hynny, bydd Bro360 yn cynnal seremoni wobrwyo ym mis Ionawr, lle byddwn yn cyhoeddi eich hoff straeon chi ar bob gwefan fro!

Rhestr fer BroWyddfa360

Dyma’r 6 stori fwyaf poblogaidd (yn ôl yr ystadegau) ar BroWyddfa360 eleni. Porwch trwyddynt, a phleidleisiwch trwy bwyso’r botwm ’diolch’ ar waelod eich hoff stori.

  • 6 mis o Covid a gofid – Elin Aaron

6 Mis o Covid a Gofid

Gallt y Glyn

Y profiad a’r heriau a wynebodd bwyty yn Llanberis yn ystod y cyfnod clo.

 

  • Cyfweliad â Dr Esyllt Llwyd – Gwernan Brooks

 

  • Cyffro ailddechrau band wedi i Covid dawelu Deiniolen – Nel Pennant Jones 
6a576330-a0ee-42fd-b009-5b608038266d

Cyffro ailddechrau band wedi i Cofid dawelu Deiniolen 

Nel Pennant Jones

Dafydd Twins sy’n trafod tristwch y cyfnod clo – a’i hapusrwydd wrth i seindorf gyfarfod unwaith eto

 

  • Chweched dosbarth Ysgol Brynrefail dan fygythiad – Mared Roberts/Eco’r Wyddfa

Chweched Dosbarth Ysgol Brynrefail dan fygythiad

Eco'r Wyddfa

Dyma erthygl o Eco’r Wyddfa, Rhifyn y Gaeaf sydd ar werth mewn siopau lleol ar 18 Rhagfyr.

 

  • Eisteddfod Ysgol Brynrefail yn cael ei ganslo – Nel Pennant Jones  
D1E2CC83-B9B9-4272-B541

Eisteddfod Ysgol Brynrefail yn cael ei ganslo

Nel Pennant Jones

Siom i ddisgyblion wrth i’r ysgol ganslo prif ddigwyddiad y flwyddyn

 

  • Enwau lleoedd: Caeathro a Cwm y Glo – Glenda Carr / Eco’r Wyddfa  

 

Felly, dyna’r 6 ddaeth i’r brig o ran yr ystadegau. Ond pa un sy’n dod i’r brig i chi?

Pleidleisiwch, trwy…

  1. mewngofnodi neu ymuno â’r wefan hon (creu cyfrif)
  2. mynd i’ch hoff stori
  3. pwyso’r botwm ’diolch’ ar waelod y stori honno

Bydd eich hoff stori ar BroWyddfa360 yn cael ei chyhoeddi mewn seremoni wobrwyo arbennig ddiwedd mis Ionawr.