Eisteddfod Ysgol Brynrefail yn cael ei ganslo

Siom i ddisgyblion wrth i’r ysgol ganslo prif ddigwyddiad y flwyddyn

Nel Pennant Jones
gan Nel Pennant Jones
D1E2CC83-B9B9-4272-B541

Aelodau’r chweched dosbarth yn dathlu eisteddfod 2019

Mae uchafbwynt y flwyddyn i lawer o ddisgyblion Ysgol Uwchradd Brynrefail wedi cael ei ganslo o ganlyniad i Cofid.

Gan fod yn rhaid cadw at swigod blwyddyn nid yw’n bosib cynnal eisteddfod ysgol arferol.

Mae’r eisteddfod yn ganolog i’r ysgol ac roedd llawer o wynebau siomedig i’w gweld wrth glywed y newyddion. Meddai Huw Owen disgybl yn yr ysgol: “O ni rili edrych ymlaen i neud o ond rŵan dwi’n rili gutted bod ni ddim yn cael. Blwyddyn yma o bob blwyddyn fysa ni wedi gallu neud efo’r hwyl, dwi yn gobeithio fydd yna steddfod blwyddyn nesa!”

Mae’r eisteddfod ysgol yn uchafbwynt y flwyddyn ym Mrynrefail ac yn cael ei ystyried yn gyfle gwych i ddisgyblion o flynyddoedd cymysg ddod at ei gilydd a chael hwyl. Yn yr eisteddfod mae amrywiaeth o gystadlaethau, o ganu offeryn yn unigol i sgetsh ddoniol. Disgyblion y chweched dosbarth sy’n dod at ei gilydd i drefnu’r digwyddiad ac yn ôl nifer mae’n ffordd iddynt ddysgu sgiliau trefnu ac arwain.

Dywedodd Mrs Lowri Roberts, pennaeth adran Gymraeg yr ysgol: “Yn sgil cyfyngiadau’r pandemig, ni allwn gynnal ein heisteddfod ysgol eleni. Y mae hyn yn destun siom i bob un o deulu Brynrefail sy’n gwybod gwerth y digwyddiad yn yr ysgol a’r gymuned ehangach.”

Yn ôl disgyblion hŷn maent yn creu cyfeillgarwch gyda disgyblion ifanc yr ysgol. Mae noson yr eisteddfod yn llawn hwyl a chwerthin ac fe ddaw teuluoedd a ffrindiau’r disgyblion i eistedd yn y gynulleidfa i wylio’r cystadlu.

Yn ychwanegol, mae’n gyfle gwych i wneud ffrindiau a theimlo eich bod yn perthyn i’r ysgol yn ôl Mared disgybl ym mlwyddyn 12. Dywedodd: “Nes i symud i’r ysgol ym mlwyddyn ac wrth gymryd rhan yn yr eisteddfod ges i gyfle gwych i greu ffrindiau a theimlo mod i’n ffitio fewn. Dwi yn rili trist bod yr eisteddfod ddim yn digwydd flwyddyn yma a finna’ yn y chweched dosbarth ac yn cael cymryd fwy o ran”. Nododd Mared fod yr eisteddfod wedi gwneud y symud o un ysgol i’r llall yn haws iddi.

Y gobaith ydy bydd yr amgylchiadau yn caniatau i’r eisteddfod gymryd lle yn Rhagfyr 2021.