Llwyddiant Ymgyrch Elusennol CPD Waunfawr

Diweddariad ar ymgyrch Clwb Pêl-droed Waunfawr i godi arian ar gyfer elusen Awyr Las.

gan Aled Pritchard

Os oes modd taro un nodyn cadarnhaol yng nghanol yr helyntion achoswyd gan ledaeniad Covid-19, yna mae’r ymdrechion niferus i godi arian ar gyfer cynorthwyo gweithwyr iechyd, a pharodrwydd y cyhoedd i gefnogi’r ymgyrchoedd hynny, yn siŵr o gael eu cofio.

Un esiampl leol o’r ymdrechion hyn oedd penderfyniad aelodau Clwb Pêl Droed Waunfawr i ymgymryd â’r her o redeg 2,000 o gilomedrau ym mis Mai, er mwyn codi arian tuag at Awyr Las.

Elusen yw Awyr Las, sydd yn cynorthwyo’r Gwasanaeth Iechyd yng Ngogledd Cymru, drwy ddarparu arian ar gyfer hyfforddi staff a sicrhau’r gofal gorau i gleifion, yn ogystal â bod yn gymorth mawr i wasanaethau yn ystod y cyfnod unigryw sydd ohoni.

Bellach mae’r Clwb wedi llwyddo i godi dros £500. Hoffai’r Clwb ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu hyd yn hyn, ac nid yw’n rhy hwyr i gefnogi’r achos trwy ddefnyddio’r linc hwn.

Bu’r Clwb, dan reolaeth Dafydd Parry, yn cystadlu yng Nghynghrair Bêl-droed Gwynedd eleni, ond yn sgil y sefyllfa bresennol, ac yn dilyn penderfyniad gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru, daethpwyd a therfyn cynnar i dymor addawol. Er y siom o fethu a chwblhau’r tymor, mae’r garfan yn awyddus i ail-gychwyn chwarae pan fydd hynny’n ddiogel.