Cofnodi 150 mlynedd ers sefydlu Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru

Darlith a taith gerdded i gofnodi Undeb arbennig

gan Julie Williams

Ar ddydd Sadwrn, Ebrill 27, 2024, bydd yr Amgueddfa Lechi Cymru, yr Archifdy yn Gaernarfon, Chyngor Gwynedd a Llechi Cymru yn nodi a dathlu 150 mlynedd ers sefydlu Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru gyda gweithgareddau arbennig.

Am 1.30pm bydd yr Athro R. Merfyn Jones yn traddodi darlith ‘Undeb y Chwarelwyr: 1874-2024’ yn yr Amgueddfa. Bydd cyfle hefyd i weld dogfennau gwreiddiol yr Undeb sydd fel arfer ar gadw yn Archifdy Caernarfon.

Am 3pm bydd cyfle i ymuno mewn taith gerdded ar hyd y llyn o’r amgueddfa i Graig yr Undeb, gyda baner arbennig i ddathlu hanes yr undeb, wedi ei chreu gan fyfyrwyr a disgyblion o’r ardal, a chyfranogwyr mewn gweithdai cymunedol yn Llanberis a Bethesda.

Mae cyfle i ymuno â gweithdai creu baneri yn yr ardaloedd hefyd.                  Mae 2 leoliad gallwch gymeryd rhan:

  • 19 Ebrill: Canolfan Cefnfaes, Bethesda 1pm – 3pm neu 7pm – 9pm
  • 23 Ebrill: Y Festri, Llanberis 1pm -3pm neu 7pm – 9pm

Dewch i gymryd rhan. Agored i bawb! Am Ddim!

Ar gyfer y ddarlith gofynnwn i chi drefnu lle ymlaen llaw drwy ffonio (01286) 679095 neu ebostio  archifau@gwynedd.llyw.cymru.

I ymuno a’r gweithdai creu baneri cysylltwch â Chloe Ward: chloe.ward@amgueddfacymru.ac.uk

Mae’r digwyddiadau hyn ar y cyd rhwng Amgueddfa Cymru a Chyngor Gwynedd / LlechiCymru

https://amgueddfa.cymru/llechi/digwyddiadau/12230/Cofnodi-150-mlynedd-ers-sefydlu-Undeb-Chwarelwyr-Gogledd-Cymru/

Dweud eich dweud