Bwrw bol yng Nghwm-y-glo

Bydd cymhorthfa ar y cyd yn cael ei chynnal yn y pentra

Siân Gwenllian
gan Siân Gwenllian
202474992_105953951659240-1

Siân Gwenllian a Berwyn Parry Jones yng Nghwm-y-glo

Cyfle i etholwyr gwrdd â’u cynrychiolwyr gwleidyddol i drafod materion a phryderon lleol yw cymhorthfa.

A’r mis nesaf bydd Siân Gwenllian a Berwyn Parry Jones yn cynnal cymhorthfa ar y cyd yng Nghwm-y-glo.

Mae Siân yn cynrychioli etholaeth Arfon, sy’n cynnwys Cwm-y-glo yn Senedd Cymru, ac fe gafodd Berwyn ei ail-ethol i gynrychioli ward Cwm-y-glo yn etholiadau Cyngor Gwynedd ym mis Mai 2022.

Mae trigolion lleol yn cael eu hannog i ddod i drafod materion sy’n berthnasol i Senedd Cymru, gan gynnwys iechyd, tai, addysg, a’r amgylchedd, neu faterion yn ymwneud â Chyngor Gwynedd, gan gynnwys caniatâd cynllunio.

Dylai’r sawl sy’n dymuno mynychu’r gymhorthfa gysylltu â’r swyddfa i drefnu apwyntiad. Gallwch wneud hynny drwy anfon e-bost at sian.gwenllian@senedd.cymru neu drwy ffonio 01286 672076.