Mae Cae’r Weddus ar lôn fechan oddi ar y ffordd sy’n mynd o Geunant i lawr i Lanrug. Daw’r cyfeiriad cynharaf a welais i at yr enw o’r flwyddyn 1557 yn y ffurf Kayr weyse. Doeddwn i fawr callach. Yn 1558 cofnodwyd kay y wethys, a doeddwn i ddim callach wedyn chwaith. Ond fe ddaeth y goleuni yn raddol. Yn 1643 cofnodwyd Kay yr weythes, a dyma sylweddoli mai ‘gweddes’ oedd yma. Roeddwn i wedi gweld cyfeiriad at ferch o’r enw Tangwystl Wethes yn y llys yng Nghaernarfon yn 1396. Nid wyf yn awgrymu mai hi sy’n cael ei choffáu yn enw Cae’r Weddus, ond fe wyddwn pa fath o grefftwraig oedd Tangwystl.
Ystyr ‘gweddes’ yw ‘gwehyddes’. Gwehydd (‘weaver’) benywaidd mewn geiriau eraill, sef merch a oedd yn nyddu defnyddiau ar wŷdd i wneud dillad. Ond mae’n amlwg fod pobl wedi dechrau anghofio beth oedd ‘gweddes’ ac o ganol yr ail ganrif ar bymtheg ymlaen maent yn dechrau potsian efo’r enw i geisio cael rhyw esboniad boddhaol. Ond anfoddhaol oedd eu hymdrechion. Cynigiwyd hyd yn oed mai ‘gwefus’ oedd yma a chafwyd ffurfiau fel Cae’r Wefus. Dyn a ŵyr sut y gallai ‘gwefus’ fod yn berchen ar gae! Cyn hir, penderfynwyd mai’r ansoddair ‘gweddus’ oedd yma, yn yr ystyr o addas neu barchus. Ond petai hynny’n wir, Cae Gweddus fyddai’r enw. Penderfynwyd cadw’r ffurf Cae’r Weddus a gobeithio’r gorau.
Gresyn inni golli golwg ar y wehyddes. Mae gennym lu o gyfeiriadau at grefftwyr mewn enwau tai yng Nghymru, ond dynion yw’r mwyafrif ohonynt. Ceir digon o enghreifftiau o enwau fel Tyddyn Clochydd. Er enghraifft, ym mhlwyf Llanrug cawn Tyddyn Teiliwr a Tyddyn Sclaters (o’r Saesneg ‘slaters’). Mae’r merched wedi cael eu hanwybyddu i raddau helaeth, er eu bod hwythau yn ddiau yn gweithio yr un mor galed. Ceir ambell gyfeiriad yma ac acw at y ‘famaeth’ . Mewn oes pan oedd gwragedd yn aml yn marw ar enedigaeth plentyn roedd y famaeth yn anhepgor. Gwelais gyfeiriad o’r flwyddyn 1647 at le o’r enw Tir Sioned y Famaeth ym mhlwyf Bangor. Er ein bod wedi dechrau crwydro ychydig o fro Eco’r Wyddfa hoffwn hefyd gyfeirio at y gogyddes a anfarwolwyd yn enw Gwern y Goges (Wern Gogas erbyn heddiw) ym mharc Y Faenol. Felly, mae’n bwysig ein bod ninnau yn cofio am ein gwehyddes ni a oedd yn brysur yn gwneud dillad i bobl Llanrug ganrifoedd yn ôl.