Mae cerflun o wyneb Celtaidd ar goeden dderw ger Llanberis wedi ei ddifrodi a’i ddwyn.
Yn ystod stormydd ym mis Chwefror, cwympodd coeden dderw gan ddymchwel rhan o bont gerrig dros afon Fachwen ar dir Canolfan Cae Mabon.
Yn dilyn hyn, penderfynwyd gwneud gwelliannau i’r llwybr sydd yn boblogaidd iawn gyda cherddwyr a phobol leol.
Wedi’i ysbrydoli gan Wyneb Celtaidd Hendy a ddarganfuwyd ar Ynys Môn, cerfiodd y cerflunydd lleol Peter Boyd wyneb Celtaidd ar fonyn y goeden.
Ond nos Sul (Mai 17), cafodd y wyneb ei ddifrodi a’i ddwyn.
Mae Canolfan Cae Mabon wedi rhoi gwybod i’r heddlu, ac maen nhw’n apelio am wybodaeth gan y cyhoedd.
Dwyn a fandaliaeth fwriadol
Yn ôl Eric Maddern, sy’n rhedeg Canolfan Cae Mabon, mae hwn yn “weithred o ddwyn a fandaliaeth fwriadol”.
“Mae’r lladron nid yn unig wedi dwyn oddi wrth y cerflunydd a phobol Cae Mabon a fu’n brysur yn gwneud y gwelliannau i’r llwybr, ond hefyd wedi dwyn y pleser oedd y wyneb yn ei roi i bobol leol oedd yn mwynhau cerdded ar hyd y llwybr,” meddai.
Ychwanegodd fod y cerflunydd Peter Boyd yn bwriadu ail-greu’r cerflun cyn bo hir.