Mae cynigion Prifysgol Bangor ar gyfer ail-strwythuro wedi achosi pryder ymysg myfyrwyr Ysgol y Gymraeg, y Brifysgol.
Yn dilyn ymgynghoriad â staff, cadarnhaodd y Brifysgol ym mis Hydref, fod hyd at 200 o swyddi dan fygythiad oherwydd colledion yn sgil pandemig y coronafeirws, ac fe gyflwynwyd cynlluniau ar gyfer ail-strwythuro rhai o ysgolion ac adrannau academaidd y sefydliad.
Un o’r ysgolion sydd yn wynebu newidiadau yw Ysgol y Gymraeg. Dangosa gynigion diweddaraf y Brifysgol y bydd rhaid i’r Ysgol golli dau aelod o staff llawn amser, ac yn hytrach na pharhau fel ‘Ysgol’ annibynnol, fe fyddai’n rhan o adran newydd dan yr enw; ‘Ieithoedd, Llenyddiaethau a Diwylliannau’.
Fe ddywedodd un myfyriwr anhysbys, sydd yn astudio yn yr Ysgol,
‘Teimlaf y byddai’r bwriad i ddirymu annibyniaeth Ysgol y Gymraeg i fod yn ddim mwy nag adran yn ergyd drom – nid yn unig i’r Ysgol, ond i Gymru gyfan.
‘Does dim amheuaeth y byddai diswyddo dau aelod o staff llawn amser – 40% o staff bresennol yr Ysgol – yn cael effaith ddinistriol ar ddarpariaeth Gymraeg y Brifysgol, ac yn ergyd i ysgolheictod Cymraeg.’
‘Mae cyfraniad bywiog yr Ysgol i fywyd llenyddol a diwylliannol Cymru wedi bod, ac yn parhau i fod, yn gwbl ddiamheuaeth. O gofio am y bygythiadau a’r heriau sy’n wynebu’r Gymraeg yn ddyddiol, nid gor-ddweud fyddai honni y byddai gwireddu’r cynlluniau hyn yn tanseilio statws a pharhad y Gymraeg ei hun fel cyfrwng academaidd.’
‘Niweidio eu hunain’
Mae dwy ddeiseb, a luniwyd gan ymgyrch ‘Myfyrwyr Bangor yn erbyn Toriadau’, wedi denu dros 1,000 o ymatebion rhyngddynt, wrth i fyfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr leisio’u hanniddigrwydd wrth weld cynlluniau’r sefydliad. Fe ddywedodd y myfyriwr,
’Rydym ni, fel myfyrwyr, yn gwrthwynebu cynlluniau’r Brifysgol am amryw resymau. Yn bersonol, ’rydw i’n pryderu y byddai gweithredu’r toriadau arfaethedig yn ergyd enfawr i’r enw da haeddiannol hwnnw y mae Prifysgol Bangor wedi’i hennill yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
‘Yn ogystal â hynny, byddai gweithredu’r cynlluniau dan sylw’n niweidiol i brofiad myfyrwyr y Brifysgol – sut, tybed, y gellir cynnal, heb sôn am wella, profiad myfyrwyr gyda llai o aelodau o staff? Pe bai’r Brifysgol yn rhoi’r cynlluniau hyn ar waith, dim ond niweidio’u hunain y byddan nhw’n ei wneud yn yr hirdymor.’
‘Anfoesol’
Mae’r Ysgol y Gymraeg ym Mangor wedi gwynebu brwydr debyg ddwy flynedd yn ôl, ac er bod y cynlluniau i ddiswyddo un aelod o staff wedi ei oedi bryd hynny, mae pryder ymysg myfyrwyr yr Ysgol fod elfen o fanteisio ar effaith anochel y pandemig yn y penderfyniad.
Wrth drafod amseriad y cyhoeddiad â Bro Wyddfa 360, fe ddywedodd y myfyriwr,
‘Wrth geisio gweithredu cynlluniau mor ddadleuol yn ddi-wrthwynebiad, a hynny, rhaid cofio, ynghanol pandemig, dwi’n teimlo fod Cyngor y Brifysgol wedi cymryd mantais o ddryswch y sefyllfa sydd ohoni. Nid yn unig yw hyn yn annemocrataidd ond hefyd yn anfoesol.
‘Er ’mod i’n cydymdeimlo bod y Brifysgol mewn sefyllfa anodd wrth geisio dal dau ben llinyn ynghyd, mae’u cynlluniau byrbwyll i dorri staff yn achosi straen ychwanegol dianghenraid ar bawb, a hynny mewn cyfnod sydd, fel y gwyddwn yn dda, yn un hynod ansefydlog.’
Gellir clywed eglurhad manylach o gynlluniau’r Brifysgol yma. Mae proses ymgynghori’r Brifysgol yn dod i ben ar y 16eg o Dachwedd, felly mae cyfle o hyd i gyn-fyfyrwyr leisio’u barn ar effeithiau posib y newidiadau ar Ysgol y Gymraeg, neu ar ysgolion academaidd y Brifysgol yn ehangach, drwy gysylltu ag Undeb y Myfyrwyr Bangor.
Deiseb Ymgyrch MBYET i fyfyrwyr: yma.
Deiseb Ymgyrch MBYET i gefnogwyr neu gyn-fyfyrwyr: yma