Mae Dr Esyllt Llwyd yn arwain Meddygfa Waunfawr a Llanrug sydd â tua 6,000 o gleifion.
Mae hi’n un o’r unigolion fydd yn cael eu hanrhydeddu i’r orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol 2021 yn Nhregaron.
Mae hi’n gwasanaethu ar Fwrdd Marie Curie Cymru. Mae hefyd yn cynghori myfyrwyr lleol sy’n ystyried astudio meddygaeth gan roi profiadau gwerthfawr iddynt yn y feddygfa ac yng nghwmni ei chleifion yn y sydd yn unig neu â chyflyrau dwys.
Mae o blaid sefydlu ysgol feddygol yng ngogledd Cymru. Ac yn is-gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Brynrefail.
Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddod yn feddyg, ac yn arbennig yn feddyg teulu?
Mi wnaeth ffrind teulu inni fynd i ysgol feddygaeth yn Lerpwl pan o’n i’n tua Blwyddyn 10, a ddaeth hi adra ar ôl y tymor cynta at y Nadolig a dweud straeon wrthaf fi am y gwaith roeddan nhw’n ei wneud.
Gwaith yn arbennig am yr anatomi – ac mi wnaeth ’na rywbeth glicio ynof fi a wnes i feddwl, ‘o waw, dyna dwi sio’i wneud’.
A dyna fo, doedd ’na ddim troi’n ôl o hynny. Yn amlwg wedyn rhoi pen i lawr a meddwl reit dwi’n mynd i fynd amdani.
Mi o’dd hi’n haws yn fy nghyfnod i i gael i mewn; achos dwi’n gwneud lot fawr o fentora rwan i gael pobol ifanc chweched dosbarth i mewn i feddygaeth ac mae’r sialens i gael i mewn rwan yn bendant yn anoddach na pan o’n i’n ymgeisio.
Efo dod yn feddyg teulu, wnaeth hynny jest digwydd a dweud y gwir. Dwi’n meddwl fod gen i goblyn o ddiddordeb mewn plant hyd yn oed pan o’n i’n ifanc. A wedyn yn ystod fy nghyfnod yn yr ysgol feddygaeth ro’n i wir yn mwynhau y lleoliadau pan o’n i’n gwneud gwaith pediatreg.
Mi wnes i flwyddyn o fod yn feddyg plant fel rhan o’r holl draining ro’n i’n neud yn Ysbyty Glan Clwyd; ac oedd hwnnw’n gyfnod ofnadwy o hapus.
Ond hefyd wnes i ddechrau meddwl a’i jest aros yn y maes yma ydw i eisio, ynta ydwi eisio aros ymlaen i gael chydig bach o bob dim a cael cadw fy ngyrfa mor amrywiol a phosib. A wedyn dyna ddigwyddodd.
Ro’n i wedi priodi Rhodri erbyn hynny ac roedd ganddon ni gartre yn Llanrug, a taswn i wedi mynd ymlaen i hyfforddi i fynd i yrfa pediatrig yn benodol, mi fyswn i wedi gorfod mynd drwy gyfnod hyfforddiant mewn ysbytai yn Lloegr, ac mi o’n i wir erbyn hyn eisiau ymgartrefu ac wir wedi gwneud fy lle ym mhentre Llanrug.
Felly a dweud y gwir, digwydd felly wnaeth o, ond o fewn dim ro’n i’n gwybod ’mod i wedi gwneud y penderfyniad iawn. Ac wrth gwrs fel meddyg teulu dwi’n gwneud gymaint o waith pediatreg beth bynnag, a bach o bob dim arall; felly mae wedi gweithio allan yn berffaith i fi dwi’n meddwl.
O mae hynna’n grêt. Roeddech chi’n sôn rwan am fod yn fentor…
Ia, dyna ti, mae hynna wedi dod yn mwy diweddar, yn sgil fy ynghyswllt i hefo’r ysgol leol, Ysgol Brynrefail – fel person sy’n byw yn y gymuned a ’mhlant i’n mynd i’r ysgol. Ac yn meddwl wrth gwrs mae ganddon ni gymaint o broblem recriwtio meddygon a meddygon teulu, i aros yn yr ardal yma yn arbennig.
Mae ’na brinder arbennig o rai sy’n medru’r Gymraeg yntoes?
Oes, dyna ti, ac mi oedd ’na sôn yn y cefndir adeg hynny o gael ysgol feddygol yng ngogledd Cymru. a dwi’n meddwl ro’n i ar y pryd wedi colli rhywfaint bach o’r brwdfrydedd, mae rywun yn ei gwaith yn chwilio am rywbeth bach ychwanegol. Ac o’n i’n meddwl, sut ydw i’n mynd i allu cynnal y brwdfrydedd yma a sut fedrai rannu be ydwi’n licio gymaint am fy ngwaith hefo pobol eraill?
Wedyn wnaeth o ddigwydd eto yn naturiol; wnaeth rywun ofyn am chydig bach o help wrth drio am le mewn ysgol feddygol.
Felly dwi’n meddwl ’mod i ryw chwe/saith mlynedd i mewn rwan i waith hollol wirfoddol a dweud y gwir wrthat ti.
Dwi’n mynd i mewn ym Mlwyddyn 11 pan dach chi’n paratoi i wneud ffug-gyfweliadau. Dan ni’n dod ar draws pobol yn fan’na ac maen nhw’n cael chydig bach mwy o syniad be maen nhw angen wneud.
Ia, dwi’n nabod y bobol yma, maen nhw’n ofnadwy o glyfar–
Ia, ond nid y syniad o fod yn glyfar ydio sti. Mae’r bobol ifanc yma yn arbennig o dalentog ym mhob ffordd.
Dwi wrth fy modd yn cael rhannu profiadau o fy ngwaith i, cael rhannu fy nghleifion efo’r bobol ifanc yma. Mae hyn wedi cael fy mrwdfrydedd i yn llwyr yn ôl yn y gwaith.
Be sydd mor braf am y criw ydwi’n gweithio efo nhw dwi’n meddwl ydi bod chdi’n gallu rhoi hyder mewn pobol a dweud, ‘Gwranda, mi wyt ti’n ddigon da a chlyfar, mae gen ti’r rhinweddau arbennig ’ma’.
Maen nhw’n bobol ofnadwy o amryddawn ac yn gallu bod yn feddygon ofnadwy o normal efo’i traed ar y ddaear.
Mae ganddyn nhw sgiliau maen nhw’n gallu ei gynnig sydd yn ychwanegol, er enghraifft cyfathrebu, empathi, a’r holl syniadau sganddyn nhw am gelfyddyd a’r wlad a’r iaith a phethau.
Mae’n bwysig iawn bod pobol byth yn meddwl bod nhw ddim yn ddigon clyfar a ddim digon da.
Be sy’n braf ydi mae hyd yn oed y big-wigs a hyd yn oed colegau mawr Oxbridge yn gallu gweld beth ydi manteision o bobol crwn, yn hytrach na’r bobol ‘glyfar’ ’ma sydd ddim wir fatha pobol – mae hwnna’n ddatblygiad arbennig ydwi wir yn hapus i’w weld o.
Dyna wych. Dwi wedi clywed eich bod chi’n weithgar iawn efo un elusen …
Chydig flynyddoedd yn ôl mi ofynwyd i mi fasa gen i ddiddordeb mewn bod yn wirfoddolwraig ac eistedd ar fwrdd Marie Curie Cymru. Ac wrth gwrs o’n i jest wedi gwirioni’n lân bod rhywun wedi meddwl amdanaf fi ac efo’r syniad.
Achos un o fy mhrif fwynhad i – sy’n derm od iawn i ddefnyddio – ydi gofal diwedd oes. Mae’n od deud ei fod o’n rhoi mwynhad i rywun ond mwynhad od ydio; mae’n debyg bod rhywun jest yn teimlo y fraint o fod yn rhan o gyfnod mor ofnadwy o bwysig ym mywyd rhywun a’r teulu.
Gofynwyd i fi roi fy marn a fy mhrofiad clinigol ar y bwrdd. Dwi di bod yn trafeilio i’r hosbis yn Mhenarth. A dwi di bod y helpu dipyn efo polisiau, cysylltu efo Llywodraeth Cymru, neud gwaith elusennol yn amlwg trio codi ymwybyddiaeth o’r elusen.
Mae’r cyfnod Cofid wedi uwcholeuo pa mor bwysig ydi gwaith Marie Curie a cael cyfnod diwedd oes yn iawn pam dydi teuluoedd methu bod yna fel criw. Mae’n achos agos iawn iawn iawn at fy nghalon i.
Fydd fy nghyfnod i ar y bwrdd yn dod i ben cyn hir ond mae’r elusen yn mynd i gario mlaen ac yn mynd i fod yn ran mawr ohona fi am byth dwi’n meddwl.
Oes ganddoch chi uchelgais at y dyfodol neu ydach chi’n reit fodlon rwan?
Dwi’n graduras reit hapus ac reit fodlon fy myd. Yr uchelgais oedd gen i oedd cael bod yn rhan o hyfforddiant myfyrwyr meddygol yn lleol, a dwi’n cael gwneud hynna rwan.
Fuaswn i’n hoffi gweld yr ysgol feddygol yma’n ngogledd Cymru yn datblygu i’r un maint ac o’r un statws, ma’n siwr bod y statws wedi dechrau’n barod, ond a’r prif ysgolion meddygol eraill sydd yng Nghymru.
Cael aros yn Llanrug a cael iechyd gora posib a gwneud chydig o drafeilio hefyd.
A dwi’n meddwl ma be mae pawb isio rwan ydi cael meddwl amdan y byd yma yn rhydd o Gofid de, sydd rownd y gornel.
Ond nagoes sdi a dydw i ddim yn berson sy’n meddwl yn ormodol, dwi’n licio edrych ymlaen at betha. Mae’n debyg bod y gwaith dwi’n neud yn gwneud i rywun feddwl yn reit gall a gwerthfawrogi y diwrnod a’r sefyllfa. A dwi’n meddwl bod ni i gyd wedi gwneud mwy o hynny y flwyddyn yma, bod y Cofid wedi gwneud hynna.
Ella ein bod ni hyd yn oed wedi cael bach mwy o amser i gnoi cil am y peth; mae ein bywydau ni gyd wedi slofi i lawr mewn lot o ffyrdd yn bositif fel bod yna fwy o amser i adlewyrchu ar betha.
Ond na dwi’n meddwl mod i’n reit hapus a mod i wedi bod yn lwcus iawn hyd yn hyn.