Mae Cyngor Gwynedd yn cydweithio â Chyngor Sir Ynys Môn a busnesau lleol i sicrhau fod unigolion bregus ar draws y sir yn cael pecynnau bwyd i’w cynnal yn ystod argyfwng y coronafeirws.
Mae Menter Môn a bwytai Dylan’s hefyd yn rhan o’r cynllun ac mae cynghorau Gwynedd a Môn yn defnyddio eu harbenigedd lleol i adnabod yr unigolion a’r teuluoedd sydd yn mynd i elwa fwyaf o dderbyn y pecynnau bwyd.
Mae’r cynllun hefyd yn darparu bwyd ar gyfer bobl ddigartref yn y sir sydd yn aros mewn llety dros dro, a staff Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Glan Clwyd sydd methu cael mynediad at ffreutur yr ysbyty oherwydd y cyfyngiadau.
Yn ystod yr wythnos diwethaf, fe dderbyniodd 131 o blant ac oedolion bregus Gwynedd becyn bwyd.
Cefnogi busnesau lleol
Mae’r cynllun yn ddibynnol ar gefnogaeth gan gynhyrchwyr a busnesau lleol, a’r gobaith yn ôl y Cynghorydd Cemlyn Rees Williams, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd yw i barhau i gefnogi busnesau lleol yn y dyfodol.
“Mae’r pecynnau bwyd sy’n cael eu dosbarthu ar hyn o bryd yn cynnwys prydau bwyd unigol sy’n cael eu cynhyrchu gan gwmni Dylan’s ynghyd a bwydydd eraill fel bara, llefrith, sudd, grawnfwyd, bwydydd tun, llysiau a ffrwythau.
“Mae’r rhan fwyaf o’r cynnyrch hefyd wedi ei brynu’n lleol, gan gefnogi’r busnesau hynny sydd hefyd yn ei chael hi’n anodd yn ystod y cyfnod hwn.”
Mae Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig hefyd wedi diolch i fusnesau annibynnol sydd wedi cefnogi’r bobol fwyaf bregus yn ystod y pandemig.
Dywedodd y Gweinidog: “Mae’n gyfnod anodd iawn i bob busnes, ond dwi’n falch o weld bod y rhai hynny o fewn y sector bwyd a diod yng Nghymru sydd wedi gallu addasu fel y gallant barhau i wasanaethu cwsmeriaid, a chefnogi’r GIG.
“Mae busnesau ledled Cymru yn dangos dyfeisgarwch, y gallu i addasu ac ymrwymiad i gymunedau lleol, sy’n elfen amlwg o sector bwyd Cymru.
“Hoffwn ofyn i aelodau’r cyhoedd barhau i gefnogi eu cynhyrchwyr bwyd, eu cyflenwyr, a’u gwerthwyr ble y gallant.”
Codi calon
Yn ôl y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Plant a Chefnogi Teuluoedd Cyngor Gwynedd mae’r cynllun sydd yn parhau i dyfu yn gwneud gwahaniaeth i’r gymuned yn ystod y cyfnod heriol yma.
“Mae’n codi calon rhywun i weld y cydweithio allweddol sy’n digwydd rhwng y sector gyhoeddus, mentrau cymdeithasol a’r sector breifat.
“Dyma ddangos beth y gallwn ni gyflawni wrth ddod ynghyd er budd pobl ar lawr gwlad. Diolch am eich ymrwymiad ac am wneud gwahaniaeth go iawn.”