Gyda sawl busnes yn gorfod addasu achos y Coronafeirws, dyma restr o’r rhai sydd yn paratoi ‘bwyd i-fynd’ neu’n cynnig danfon bwyd yn Arfon. (Mae’r rhestr yn gyfredol aer 19/3/20)
Ardal DyffrynNantlle360
Yr Orsaf, Penygroes – Paratoi prydau i fynd. 07410 982467
Deli’r Banc, Penygroes – Prydau i fynd, a hamper bwyd ar gael. Cludo eitemau am ddim o fewn 5 milltir (archeb gwerth £10 neu fwy). 50c y filltir ar ôl hynny. 07793 030683
Caffi’r Cartref Bontnewydd – Danfon prydau i’r henoed yn yr ardal. 01286 677 711
Caffi HEMS, Dinas Dinlle– Paratoi prydau i fynd. 01286 875050.
Ardal BroWyddfa360
‘Bakehouse’ yn y Fricsan, Cwm-y-glo – Paratoi bwyd i fynd. 07738 859585
Heights, Llanberis – Cynnig gwasanaeth danfon bwyd. 01286 238235
Gallt Y Glyn – Bwyd i fynd, gwasanaeth danfon i ddod. 01286 870370
Gallt y Glyn yn Llanberis bellach yn gallu dosbarthu pizzas, byrgyrs, salads a chips i bentrefi Nant Peris, Llanberis, Cwm y Glo, Brynrefail a Llanrug. Derbyn archebion o 3 ymlaen ar nosweithiau Mercher, Iau, Gwener a Sadwrn.
Dosbarthu bocsys ffrwythau, llysiau, llefrith, bara a wyau ar ddyddiau Mercher, Iau a Gwener – £20 y bocs. Ffoniwch rhwng 10 ac 11 y diwrnod cyn dosbarthu i archebu un!