Mae Cofid-19 wedi effeithio ar bawb a phopeth, pob teulu, siop ac elusen ac mae llawer yn rhagweld na fydd cymdeithas yr un fath ar ei ôl. Un o’r diwydiannau sydd ar waelod y rhestr o ran derbyn cymorth gan y Llywodraeth ydi’r celfyddydau. Mae theatrau fel Galeri a Pontio wedi cau ers mis Mawrth gan nad oes modd dod â grwpiau mawr at ei gilydd ac mae artistiaid a chwmniau mewn meysydd mor amrywiol a cerddoriaetha dawns, a ar y dibyn. Ond er caledwch y sefyllfa mae cwmnïau celfyddydol ein hardal ni wedi llwyddo i weld yr ochr gadarnhaol a thrwy hynny wedi gallu cynnig adloniant a chysur i unigolion a chymunedau.
Mae Nia Hâf o Lanrug newydd ei phenodi yn Gyfarwyddwr Cwmni Ifanc Frân Wen, sef cangen o’r cwmni theatr. Un prosiect mae Nia yn ei arwain yw gweithdai Llwybrau Llachar, sef prosiect sy’n cynnig profiad aml-gelfyddydol i bobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol. Mae prosiect Llwybrau Llachar yn rhoi cyfle i bobl ifanc gydweithio’n ddwys gydag artistiaid proffesiynol, er mwyn datblygu crefft maen nhw’n ei fwynhau ac yn ei weld yn ddifyr.
Disgrifia Nia y newid sydd wedi dod oherwydd y pandemic i’r project Llwybrau Llachar. ‘Fel arfer mae gweithdy Llwybrau Llachar yn cael ei gynnal yn y cnawd ac mae artistiaid yn gweithio un-i-un gyda person ifanc. Ond gan nad yw’n bosib cynnal sesiynau yn y cnawd fel oedden ni efo’r unigolion, mae wedi datblygu yn fwy o weithgaredd grŵp. Achos ein bod ni’n defnyddio zoom fel cyfrwng mae’n llai penodol be ydi crefft y bobl ifanc, a llai penodol bo nhw’n gweithio un i un efo artist. Eto mae yna agweddau positif hefyd fel ein bod ni i gyd di gallu dod at ein gilydd fel criw ac mae’n gyfle i ni gymdeithasu tu allan i osodiad ysgol.’
Leusa Llewelyn o Gwm-y-glo yw Pennaeth Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy, sy’n cael ei redeg gan Llenyddiath Cymru. Trafoda Leusa sut mae’r pandemig wedi golygu cau Tŷ Newydd am y tro a chynnal pob gweithgaredd yn ddigidol, gan gynnwys troi cyrsiau sydd yn digwydd fel arfer yn Nhŷ Newydd yn gyrsiau ar-lein.
Er ar un olwg mae hyn yn arddangos yn negyddol, eglurodd Leusa fod rhai effeithiau positif i hyn hefyd, er enghraifft fod cyrsiau yn helpu i oresgyn unigedd, oherwydd ‘Mae gen ti lot o bobl wedi bod yn unig yn ystod y cyfnod yma. Mae gen ti lot o bobl yn byw ei hunain ac efallai oherwydd y cyfnod clo ddim yn gweld neb o ddydd i ddydd. Felly dwi’n meddwl bod o’n bwysig bod yna weithgareddau celfyddydol wedi digwydd yn ystod y cyfnod. Nid yn unig i ysgogi’r meddwl ac annog pobl i fod yn greadigol ond i ddod â phobl at ei gilydd, – sydd yr un mor bwysig dwi’n meddwl’. Mae’r adborth yn dilyn cyrsiau yn brawf o hyn meddai Leusa, ‘Mae Tŷ Newydd wedi cynnal pedwar o encilion neu gyrsiau ar y we ac roedd pobl wedi bod yn canmol y cwrs o ran be maen nhw wedi dysgu efo’i chrefft sgwennu. Ond yr un mor bwysig roeddet ti’n gweld yr adborth yn deud ei fod o wedi codi eu calonnau nhw gael cwrdd â phobol newydd a cael treulio amser yng nghwmni pobl ddiarth’.
Newid arall a wnaeth Llenyddiaeth Cymru oedd creu cyfle newydd i awduron ac artistiaid gynnal prosiectau digidol; y cymhelliant yw cynnig incwm i awduron ac artistiaid llawrydd a wnaeth golli bob gwaith dros nos a hefyd cynnal gweithgaredd a fydd yn rhoi hwb i bobl mewn cyfnod anodd. Mae cwmniau creadigol ym mhob maes wedi cynnig cyfleoedd tebyg i geisio lleihau effaith y pandemig, ond yn ôl Cyngor Celfyddydau Cymru, mae’r diwydiant wedi colli tua £1.4 miliwn yr wythnos.
Mae’r cyfleoedd celfyddydol digidol sy’n cael eu cynnig yn ystod cyfnod Covid yn wych, ond mae Leusa Llewelyn yn dweud fod pryder yn codi wrth i amser fynd yn ei flaen, nad ydi pawb yn gallu mwynhau’r profiadau arlein yma, meddai, ‘mae tlodi digidol, pobl sydd ddim yn gallu fforddio’r we, lap top, ffôn, a pobol sy’n byw mewn ardaloedd o Gymru lle does yna ddim cysylltiad we gref yn broblem sy’n rhwystro mynediad i’r cyfleoedd’.
Her fawr i Dŷ Newydd fel sawl canolfan gelfyddydol yng nghyfnod Covid ydi sut mae gwneud incwm; yn ein hardal ni canolfannau celfeddydol tebyg eraill sy’n dioddef yw Galeri a Pontio. Fel arfer mae Tŷ Newydd ei hun yn arf pwysig wrth werthu cyrsiau meddai Leusa Llewelyn, byddan nhw’n dweud ‘dewch draw i Dŷ Newydd mae o’n leoliad bendigedig agos at y môr, mae hi’n dawel yma, mae ganddoch chi bob dim da chi angen yma i weithio ar eich nofel neu eich casgliad o storion byrion.’ Eglurodd Leusa fod ‘hynna’n anodd iawn i ail greu o adra, achos be sy gen ti ydi dy awyrgylch arferol’. Mae’n bosib hefyd bod cyfnod mor ansicr yn ei gwneud hi’n anoddach i bobol deimlo’n greadigol a chynhyrchiol. Er hyn mae gobaith y bydd canolfannau fel Tŷ Newydd, Galeri a Pontio yn ail agor yn y Gwanwyn.
Mae Nia Hâf yn rhagweld mai’r hyn wnaiff ddigwydd gyda Frân Wen ar ôl Cofid ydi ‘bod pobl yn dod at ei gilydd mewn grwpiau mwy boed hynna yn fyw neu os ydan ni’n dewis aros dros zoom. Er bod zoom yn gallu bod yn boen da ni yn gallu cyrraedd pobl o ardaloedd mwy eang. Ac mae lot mwy o bobl yn gallu dod i lot mwy o’r sesiynau, oherwydd ei fod yn llai o waith na gadael y tŷ’.
Ar ôl Cofid bydd Llenyddiaeth Cymru yn ‘sicr yn gweithio mwy efo awdurdodau lleol a mudiadau sy’n gweithio gyda grwpiau ar bethau iechyd a llesiant’ meddai Leusa. ‘Da ni’n sicr yn gwmni celfyddydol sy’n cymryd iechyd a llesiant o ddifri, yn gwybod pa mor bwysig ydi llenyddiaeth, sgwennu creadigol, darllen a’r holl gelfyddydau a dweud y gwir i sicrhau iechyd meddwl da a hapusrwydd ymysg pobl. Da ni fel cwmni yn cynnal gweithdai â phobol fregus neu grwpiau penodol sy’n byw efo problemau iechyd meddwl neu grwpiau sy wedi colli gwaith, pobl ifanc, a plant ac yn ceisio defnyddio ysgrifennu creadigol fel rhywbeth sy’n hwb i’w iechyd meddwl nhw’.
Eglurodd Cydfferasiwn GIG Cymru bod y pandemic wedi ei gwneud yn gliriach nag erioed mor bwysig yw partneriaeth y celfyddydau ac iechyd a gofal.
Eglurodd Nia pam oedd arwain gweithdy dros y we yn anoddach dywedodd ‘y munud ti’n dod dros y hyrdyl technegol mae o’n haws. Ond ti ddim yn cael gymaint o ymateb gan bobl. Ti’m yn gallu darllen iaith y corff. Ti weithia mor cought up yn be sy’n digwydd yn dy stafell di. Mae’n gallu bod yn anoddach i’r bobl sy yn dod mlaen i’n gweithdai i roi ei camera ymlaen. Ond dwi’n meddwl mae hynna yn rywbeth da ni’n sefydlu yn eithaf cynnar yma’n Frân Wen, rhoi y camera ymlaen, bod yn gyfforddus yn y stafell a cydnabod ein bod ni gyd yn ein stafelloedd unigol ond am yr sesiwn da ni gyd efo’n gilydd yn y stafell ar zoom.’