Yda chi yn cofio mynd allan am fwyd efo 8 o ffrindiau? Yda chi yn cofio bywyd cyn bod “pellter cymdeithasol” yn ein geirfa ddyddiol? Ar un olwg mae’r dyddiau hynny yn teimlo fel canrifoedd i ffwrdd, ar olwg arall fedra i ddim coelio ei bod hi eisoes yn fis Hydref!
Mae’r chwe mis diwethaf wedi bod yn “wahanol”. Ddim y misoedd gora i fod yn rhedeg busnes lletygarwch wrth droed yr Wyddfa, ond eto mi roedd yna deimlad reit heddychlon wrth gerdded rownd y llyn, neu fyny yn y chwarel ar ddyddiau chwilboeth Ebrill a Mai.
Fel cyfnod o wrthdaro mewnol fydda i yn edrych yn ôl ar y dyddiau yma. Mae yna gymaint o benderfyniadau angen eu gwneud a phob un ag oblygiada gwahanol i fy staff, cymuned Llanberis, fy nheulu, fy musnes, fy ngwesteion a fy iechyd meddwl personol.
O’r wythnos gynta, cyn y cloi mawr, pan ddatganodd Boris nad oedd disgwyl i fwytai a thafarndai gau ond na ddylai unrhyw un fynd allan i fwyta neu yfed, mae’r misoedd wedi bod yn un cwestiwn mawr. Be ddylwn ni wneud felly? Os ydi pobl eisiau aros yn Eryri a ni efo gwely ar eu cyfer ydw i yn torri’r gyfraith yn cynnig y gwely iddynt? Fy ngreddf i fydda cau yn syth i gadw pawb yn ddiogel, ond roedd gen i bobl wedi bwcio ystafelloedd ac yn ôl fy nghytundebau i efo asiantaethau y we (fel Booking.com ac Expedia) fe fyddwn i yn cael fy nirwyo am ganslo unrhyw ‘stafell oni bai bod Boris yn datgan y clo mawr. Roeddwn i felly yn mynd yn erbyn fy ngreddf i groesawu ymwelwyr a allai fod yn cario y feirws i fy nghartref! Ydi hynny’n golygu fy mod yn rhoi pres o flaen lles fy nheulu, ffrindiau a chymuned leol? Ond os ydw i yn colli’r ymwelwyr ac yn cael fy nirwyo yna fe allwn i fynd yn fethdalwr ac wedyn mi fydd y criw gwych o 11 o bobl leol sydd yn gweithio efo mi, a’u teuluoedd yn dioddef. Be ddyliwn i wneud?
Roedd datganiadau Boris ar y 20fed a’r 23ain o Fawrth yn ryddhad i mi. Doedd dim rhaid i mi benderfynu dim, roedd y penderfyniad wedi ei wneud drosta i. Roedd rhaid i’r bwyty gau ar yr 20fed ac o’r 23ain roedd hi’n orfodol ar BAWB i aros adref a’r gwesteion felly yn canslo eu llety a dim dirwy i mi!
Yn amlwg roedd y tîm acw a minnau wedi bod yn crafu pen trwy gydol mis Mawrth ar be fasa ni yn neud tasa ni’n gorfod cau. Y peth pwysicaf i mi oedd fy mod yn gallu cynnal yr aelodau o staff sydd yn byw ar ben eu hunain neu yn ddibynnol ar eu cyflog i dalu eu ffordd. Cynnig têc awê amdani a trio mentro i fyd dosbarthu bwyd. A dyma godi mwy o gwestiynau! Sut mae amseru a threfnu dosbarthu pizzas? Pa mor bell fedr y pizza deithio cyn i’r safon ddirywio mwy na’r hyn sydd yn dderbynniol gennym? Faint o bizzas fedrwn ni eu gwneud mewn noson? Mae rhai o’n cyflenwyr wedi cau, lle gawn ni flawd o rwan? Faint ma nhw yn godi am flawd? Oes rhaid i ni godi pris y pizza? Be arall fedrwn ni gynnig ei ddosbarthu?
Wedi ychydig o wythnosau roeddem wedi setlo fewn i ryw fath o drefn. Yn dosbarthu ffrwythau, llysiau, bara, llefrith a wyau i bobl yn y gymuned a phaentio’r bwyty a’r holl ystafelloedd gwely yn ystod y dydd yna cymryd archebion, gwneud a dosbarthu pizzas a sglodion a byrgyrs gyda’r nos. Doeddem ni ddim yn gwneud elw ond roeddem yn llwyddo i dalu y rhan fwyaf o’r biliau (ac roedd grantiau gan y llywodraeth yn helpu i dalu y gweddill).
Yna daeth canol Gorffennaf â mwy o gwestiynau. Ydw i yn agor yr ystafelloedd yn ôl ac yn croesawu pobl o rannau eraill o’r DU i Lanberis pan y gallent fod yn cario’r feirws i fewn i’n cymuned? Fedra i fforddio peidio croesawu fy ngwesteion dros nos yn ôl? Ydi o yn ddiogel i fi anfon fy staff i fewn i’r ystafelloedd i’w llnau ar ôl i westeion adael? Sut ma gwneud hi’n ddiogel i bobl fwyta acw heb iddynt deimlo eu bod yn bwyta mewn ysbyty neu rhywle clinigol a di-deimlad? Onid mwynhau profiad ydi holl bwrpas bwyta mewn bwyty? Ydi pobl eisiau bwyta mewn bwyty neu aros mewn llety sydd â rheolau caeth fel carchar? Sut fedrwn ni greu awyrgylch groesawgar a chyfeillgar gan ddilyn y canllawia?
Rydym bellach yn cymryd un dydd ar y tro. Yn gwrando ar bob canllaw newydd a gwneud yn siwr bod ein polisiau ni yn cydymffurfio â nhw. Rydw i’n derbyn ryw ddeg ebost gan wahanol gyrff yn ddyddiol (Cyngor Gwynedd, Croeso Cymru, HMRC ayyb) ac yn trio darganfod pa bethau sydd yn berthansol i ni. Mae raid i ni dderbyn mai fel yma fydd petha am gyfnod ac ella y bydd rhaid i ni gau eto dros y misoedd nesaf. Yn y cyfnod yma mi rydw i yn atgoffa fy hun yn ddyddiol bod yna bobl mewn sefyllfaoedd lot gwaeth na ni – os oes rhad i ni fod wedi ein cyfyngu i un ardal ma Llanberis, Eryri a Gwynedd yn le arbennig iawn.
Gobeithio fod hyn o lith wedi rhoi trosolwg gyflym i chi o sut brofiad ydi o i redeg busnes bach lleol yn y cyfnod yma. Mae’n ddrwg gen i bod my mhwt yn llawn cwestiynau ond efallai ei fod yn rhoi syniad “cliriach” i chi o’r hyn sydd yn mynd trwy fy meddwl o ddydd i ddydd!
Diolch anhygoel i bobl yr ardal am eich cefnogaeth drwy’r cyfnod yma. Diolch.