‘Cload Allan’ Dinorwig 1885-6

Gwragedd hefo pastynau, sgandal teiffoid a ‘sgwarnogod? Hanes anghydfod a rwygodd gymunedau Dyffryn Peris yn ystod Gaeaf 1885-6.

Elin Tomos
gan Elin Tomos

Cwmwl gormes heddyw welir

Yn gorchuddio’r hen Elidir,

Marwol gnul ein harfau glywir

Yn ein cwyn yn gaeth.

‘Cydgan Chwarelwyr Dinorwic [Tôn: Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech]’

Erbyn 1885, fel y dengys geiriau’r gân uchod, roedd y sefyllfa yn Chwarel Dinorwig wedi cyrraedd penllanw cythryblus. Dyma anghydfod a oedd wedi bod yn ffrwtian o dan yr wyneb ers sawl blwyddyn. Y brif ddraenen yn ystlys y gweithwyr oedd y newidiadau a oedd wedi digwydd ers penodiad un gŵr yn arbennig. Ym 1880 penodwyd Walter Warwick Vivian yn Gyfarwyddwr a Rheolwr Cyffredinol Chwarel Dinorwig, gŵr a oedd wedi cael ei hyfforddi ym myd busnes llym Manceinion. Roedd y berthynas gythryblus a fodolai rhwng y gweithwyr a W. W. Vivian yn dra gwahanol i’r berthynas a fodolai rhwng rheolwyr blaenorol a’r gweithlu. Un gŵr a chwaraeodd ran greiddiol yn natblygiad aruthrol Dinorwig oedd Griffith Ellis, Prif Oruchwyliwr y chwarel am dros ddeugain mlynedd rhwng 1814 a 1860.

Ganed Griffith Ellis yn Hafodty, Llanberis ym 1785, yn fab i Griffith Ellis, chwarelwr, a’i wraig Elizabeth Closs. 2 Dilynodd Griffith ei dad i’r chwarel, cyn treulio cyfnodau yn gweithio mewn amryw o lefydd yng Nghymru a Lloegr. Ym 1814, dychwelodd i Lanberis a derbyniodd swydd y Prif Oruchwyliwr, swydd y bu ynddi hyd ddiwedd ei oes. Dan arweiniad Griffith datblygodd Dinorwig yn un o’r chwareli llechi amlycaf a phwysicaf ym Mhrydain; yn ei gyfnod ef, tyfodd y gweithlu o 300 o ddynion i gwta 2,000. Mae’r ysgrif goffa a ymddangosodd ym mhapur Baner ac Amserau Cymru yn fuan wedi ei farwolaeth ym 1860 yn adlewyrchu’r parch mawr a deimlwyd tuag ato’n lleol:

Yr oedd yn gallu llywodraethu dros ddwy fil o bobl mor heddychol a phe na buasent ond un person… bu yn noddwr da i weddwon ac amddifaid, ac ni oddefai i neb wneyd y cam lleiaf â hwy, ac nid yw ryfedd yn y byd fod ei farwolaeth wedi creu y fath deimlad dwys.

Yn dilyn marwolaeth Griffith Ellis bu sawl gŵr wrth y llyw yn Ninorwig; unigolion o gefndiroedd tra gwahanol i Griffith, gyda rhai yn amlwg yn fwy poblogaidd na’i gilydd. Ym marn W. W. Vivian, nid oedd y chwarel yn cael ei rhedeg yn ddigon effeithiol, a chyda’r hyder a ddaeth yn dilyn buddugoliaeth Deddf Cyfrifoldeb y Meistri 1880 aethpwyd ati i sathru ar arferion traddodiadol y gweithlu, arferion a oedd ym marn Vivian yn arafu cynhyrchiant.

Ar ddiwedd pob mis, edrychai pob chwarelwr ymlaen at dderbyn diwrnod o wyliau, ond yn fuan ym 1885, mewn ymgais i sicrhau gweithle mwy proffidiol, mynnwyd bod rhaid i weithwyr y melinau stêm weithio tan 10 y bore ar eu diwrnod o wyliau. Yna, ym mis Hydref, gyda’r gweithwyr eisoes wedi eu digio gan y trefniant newydd, gorchmynnwyd bod rhaid iddynt aros tan hanner dydd, penderfyniad a oedd yn golygu bod y dynion yn colli dwy awr ychwanegol o’u hamser hamdden. Gwrthodwyd gorchymyn y rheolwyr, ac yn groes i’w dymuniad gadawodd y gweithwyr eu gwaith yn brydlon am 10 y bore.

Yn ystod haf 1885 cyflwynwyd rheol newydd a oedd yn atal chwarelwyr rhag cymryd amser i ffwrdd ar gyfer dyletswyddau y tu allan i’w gwaith, megis hel gwair. Yn draddodiadol, roedd gan chwarelwr hawl i adael ei waith er mwyn cynaeafu ei wair ei hun, neu wair unrhyw gyfaill iddo. O dan y rheolau newydd roedd rhaid i chwarelwr dderbyn caniatâd ei oruchwyliwr cyn iddo gael gadael ei waith ac nid oedd ganddo hawl i gynorthwyo unrhyw gyfaill ac eithrio ei gymydog agosaf. Mynnodd y dynion nad oedd y rheolwyr yn llawn ddeall y cysyniad o gymuned; teimlent fod atal chwarelwr o blwyf Llanberis rhag cynorthwyo ei gyd-weithiwr am ei fod yn byw ym mhlwyf Llanrug neu Landdeiniolen yn gwbl hurt. Yr amcan – yn ôl y chwarelwyr – oedd ‘cael y gwaith o dan yr un deddfau a’r gweithfaoedd yn Lloegr, megis y factories’, amcan a oedd, yn eu barn nhw, yn ‘hollol anmhosibl’. Teimlai’r gweithwyr fod ‘mân ddeddfau diddiwedd’ nid yn unig yn cyfyngu ar eu hamser hamdden, ond yn bwysicach fyth ar eu rhyddid fel dynion; gofynnwyd, ‘a yw y cyfryw ddeddf a hon i’w goddef mewn gwlad rydd fel Prydain Fawr yn y 19 ganrif?

Cwyn arall o du’r chwarelwyr oedd y cyhuddiad o ffafriaeth wleidyddol a chrefyddol. Honnai’r chwarelwyr fod meibion Eglwyswyr Ceidwadol yn cael blaenoriaeth dros fechgyn a hanai o deuluoedd Anghydffurfiol a Rhyddfrydol, ac mai ‘anrhaith anrhydeddus [oedd] gwobrwyo dyn am broffesu syniadau o liw a llun neillduol’. Mewn llythyr ym 1884, ymbiliwyd

for equal rights for all in their character as Workmen. Let honest work be paid for, and not the Political or Religious creed of any man.

Ymatebodd Assheton Smith trwy fynnu bod meibion ei denantiaid bob amser am gael blaenoriaeth ganddo ef wrth gyflogi bechgyn.

Yr hoelen olaf yn yr arch yn Ninorwig oedd y ffaith bod y chwarelwyr wedi cynnal cyfarfod cyhoeddus yn ystod oriau gwaith ar 12 Hydref 1885. Yno, pasiwyd pleidlais o ddiffyg hyder yng ngallu dau reolwr: W. W. Vivian a Chymro o’r enw John Davies. Galwyd ar y ddau i ymddiswyddo cyn gynted â phosib. Ymhen deg diwrnod rhoddwyd hysbysiadau o amgylch y gweithfeydd yn nodi ‘Na bydd angen am eich gwasanaeth ar ôl dydd Sadwrn 31ain o Hydref’. Trwy’r hysbysiad hwn dechreuodd Cload Allan Dinorwig, anghydfod a fyddai’n parhau hyd 13 Chwefror 1886.

Yn ystod Cload Allan, trodd y dynion at eu hundeb am gymorth. Roedd coffrau Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru wedi bod yn tyfu’n raddol ers ei sefydlu ym 1874, ond gyda thros hanner gweithlu Dinorwig yn gymwys i dderbyn tâl undebol o ddeg swllt yr wythnos, buan y dechreuodd cronfeydd eu hundeb grebachu. Dibynnodd nifer ar ewyllys da eraill, a honnwyd ei bod hi’n ‘[f]wy anrhydeddus… bod yn dlawd a derbyn elusen, nac ymwerthu yn gaethion gwasaidd a dirmygedig’. Derbyniwyd symiau sylweddol o arian o bob cwr o Gymru a thu hwnt. Yn naturiol efallai, oddi wrth chwarelwyr eraill y daeth trwch yr arian. Erbyn mis Rhagfyr 1885 roedd chwarelwyr y Penrhyn a’u teuluoedd wedi llwyddo i gasglu dros £137, ac ymhen mis casglwyd £40 ychwanegol diolch i haelioni masnachwyr amrywiol Bethesda a’r cyffiniau, cyfanswm sy’n cyfateb i oddeutu £14,500 yn arian heddiw!

Roedd trigolion tref Caernarfon yn barod iawn i gyfrannu at yr achos hefyd: rhoddodd ‘Lewis Lewis, Ysw., Maer Caernarfon’ rodd o £10 10s (£820); derbyniwyd £21 (£1,640) gan weithwyr Nelson Emporium, a £5 (£400) gan y cigydd Henry Owen ynghyd â llu o daliadau eraill. Ni chyfyngwyd y casglu i ardaloedd y chwareli yn unig, anfonwyd arian o Dreherbert, Pontypridd, Wrecsam, Aberystwyth, Dinbych, Treffynnon, Lerpwl, Penbedw, Llundain, Northampton, Bootle, Caer a Vermont, U.D.A. Dewisodd rhai beidio â chynnwys eu henw wrth roi arian; fe dderbyniwyd £2 gan ‘Dau Gyfaill’, deg swllt gan ‘un yn cydymdeimlo’ a thaliad ingol o ddwy geiniog gan ‘Y Weddw Dlawd’.

Yn ystod y Cload Allan, mewn ymgais i fwydo eu teuluoedd, dechreuodd nifer o chwarelwyr botsio. Honnodd gohebydd Y Celt mai ‘yr unig achosion a ddygir o flaen ynadon Caernarfon y dyddiau hyn [Gaeaf 1886] ydynt herwhela’, ac eglurodd mai ‘chwarelwyr allan o waith ydoedd y rhai a gosbwyd’. Yn ei farn ef roedd bywydau sgwarnogod bellach ‘yn uwch yn ngolwg rhai na bywydau bodau dynol’.

Ar 9 Rhagfyr 1885, penderfynwyd bod y gweithwyr wedi dysgu eu gwers. Cyhoeddodd W. W. Vivian restr o reolau newydd gan ddatgan fod croeso i’r gweithwyr hynny a oedd yn derbyn ei reolau ddychwelyd i’r gwaith y dydd Llun canlynol. Yn dilyn y cyhoeddiad cynhaliwyd cyfarfod cyffredinol, ac yno, penderfynwyd yn unfrydol nad oedd y dynion am ddychwelyd i’r chwarel dan y rheolau newydd. Yn sgil gwahoddiad Vivian a’r modd y gwrthododd y chwarelwyr ei gynnig, trodd y ‘Cload Allan’ yn streic a daeth dydd Llun, 15 Rhagfyr 1885 yn ddiwrnod pwysig yn hanes y chwarel a’r fro.

Yn ôl disgrifiad gohebydd Y Genedl Gymreig, yn fuan y bore Llun hwnnw, roedd ‘cymdogaeth Llanberis yn ferw gwyllt’. Yn y gobaith o atal unrhyw ‘fradwyr’ rhag dychwelyd i’r gwaith casglodd ‘niferoedd mawrion’ o chwarelwyr a’u gwragedd â phastynau ar gyrion mynedfa’r gwaith. Trwy ryw gyd-ddigwyddiad rhyfeddol dyma’r bore hefyd yr oedd Assheton Smith wedi gorchymyn i arweinydd y Royal Vaynol Silver Band (Seindorf Llanrug), Mr Tidswell, ddychwelyd eu holl offerynnau i’r chwarel. Os dychwelyd oedd rhaid, penderfynwyd anfon ‘yr holl seindorf… dan chwareu eu hofferynau i fyny at yr office’. Yn ddigymell, gydag alawon yr offerynnau yn atsain trwy’r dyffryn, dechreuodd y dorf ‘yn wŷr, gwragedd a phlant’ ddilyn y band.

Wedi cyrraedd y swyddfa, aeth Mr Tidswell at y drws a chynnig ei fod yno i ddychwelyd eiddo Assheton Smith ond mwyaf syndod i’r dorf – a Mr Tidswell druan – dywedodd Vivian nad oedd ganddo unrhyw fwriad i gasglu’r offerynnau. Yn sgil y fuddugoliaeth fechan hon, penderfynodd y dorf drosglwyddo neges ysgrifenedig i’r swyddfa:

Rhybudd ydoedd… i Mr. Vivian a Mr. Davies adael y swyddfa mewn deng mynyd o amser, neu y byddai raid iddynt gymeryd y canlyniadau.

Ymhen ychydig funudau, ymddangosodd is-oruchwyliwr i ddatgan bod Vivian a Davies yn fodlon gadael y swyddfa ar yr amod bod y dorf yn ymwahanu i wneud lle iddynt adael. Gwasgarodd y dorf gan alluogi Vivian a Davies i adael y swyddfa a cherdded tuag at y rheilffordd ac ar drên a fyddai’n eu tywys i’r Felinheli. Dyma’r unig ddigwyddiad yn hanes y diwydiant llechi Cymreig lle gwelwyd y gweithwyr yn meddiannu’r chwarel a hynny gan anfon prif reolwyr y gwaith oddi yno.

Ar 18 Rhagfyr adroddwyd ym mhapur newydd The Cambrian News and Merionethshire Standard nad oedd W. W. Vivian wedi dangos ei wyneb yn Llanberis wedi’r dydd Llun tyngedfennol hwnnw yn Ninorwig. Pe bai’n meiddio mentro i’r chwarel neu i bentref Llanberis ‘he would have been pounced upon by women and ducked in Llanberis lake’. Mae’n amlwg bod gwragedd a merched Dyffryn Peris am ei waed!

Mewn ymgais i godi cywilydd ar y rheiny a ddychwelodd i’r gwaith cyhoeddwyd eu henwau yn Y Werin; cyfeiriwyd atynt fel ‘seirph’ a mynnwyd y dylid eu trin ‘yn ol eu teilyngdod’. Mae’n ddiddorol trafod hefyd y ‘swyddogion a daflwyd allan yn y cyffro’. Roedd pob un goruchwyliwr a gollodd ei waith yn ystod y Cload Allan wedi dechrau yn y chwarel yn blant ac wedi dringo trwy’r rhengoedd i gyrraedd eu safle. Yn bwysicach fyth, roedd pob un ohonynt hefyd yn flaenoriaid yng nghapeli amrywiol y Methodistiaid Calfinaidd ym mhentrefi Dinorwig a Llanberis, manylyn sy’n profi’r drwgdeimlad crefyddol a fodolai yn Chwarel Dinorwig erbyn 1885.

Yn ystod y Cload Allan collodd y chwarelwyr yr hawl i ddefnyddio adnoddau iechyd y chwarel. Yn ddiddorol, caiff ‘Thomas Hughes M.D. Ysbytty Chwarel Dinorwic’, llawfeddyg yr ysbyty, ei restru fel unigolyn a roddodd arian tuag at ‘Gronfa Gynorthwyol Cload Allan Dinorwic’; ym mis Rhagfyr 1885, rhoddodd £20 at eu hachos, swm sy’n cyfateb i oddeutu £1,600 yn arian heddiw. Yn anffodus nid oes unrhyw gofnodion cyn 1890 wedi goroesi, ac anodd felly yw creu darlun o effaith y Cload Allan ar Ysbyty Chwarel Dinorwig, ond teg fyddai tybio bod niferoedd y cleifion wedi disgyn yn sylweddol yn ystod gaeaf 1885–6. Mae cofnodlyfrau Ysbyty Chwarel y Penrhyn yn ystod Streic Fawr 1900–3 yn cefnogi’r ddamcaniaeth uchod; ym 1901 gwelwyd 70 y cant yn llai o gleifion nag arfer, ac ym 1902 gwelwyd 20 y cant yn llai.

Wrth geisio egluro gwreiddiau’r gynnen yn Ninorwig, mae haneswyr wedi tueddu i ganolbwyntio ar ffactorau megis colli gwyliau a rhaniadau crefyddol neu wleidyddol yn unig. Wrth edrych ar bapurau newydd y cyfnod daw un ffactor arall i’r amlwg. Ym 1884 achoswyd cryn dipyn o ddrwgdeimlad yn y chwarel wedi i Assheton Smith ganiatáu i ddau deulu a oedd yn dioddef o deiffoid dderbyn triniaeth yn yr ysbyty. O ganlyniad, roedd ‘ugeiniau’ o chwarelwyr yn gwrthod ymweld â’r ysbyty ac yn mynnu bod y meddyg yn teithio i’w cartrefi. Yn Y Genedl Gymreig cyhoeddwyd llith o gwestiynau rhethregol:

Ai nid ydyw anfon y personau crybwylledig yma yn peryglu iechyd ein cymydogaeth? A oes gan rhywun o’i benarglwyddiaeth hawl i wneud hyn? A oes rheswm dros wneyd yr ysbytty hwn yn ddinas noddfa i estroniaid dan amgylchiadau fel hyn? … Ai nid ysbytty i’r chwarelwyr ydyw?

Ar y pryd, ni wnaethpwyd natur eu salwch yn hysbys, yn hytrach tybiwyd bod y teuluoedd yn dioddef o’r dwymyn goch. Pan ddatgelwyd bod yr unigolion yn dioddef o deiffoid a bod tri aelod o un teulu ac un aelod o’r teulu arall wedi marw roedd y chwarelwyr a thrigolion y pentrefi cyfagos wedi’u dychryn a’u siomi. Mewn un erthygl fygythiol rhybuddiwyd cyn gynhared â 1884 bod ‘terfyn ar amynedd gweithiwr… O! na welem wawr ar ein hachos’. Yn y cyfnod Fictoraidd roedd dyfodiad teiffoid – ynghyd â llu o glefydau heintus eraill – yn ddigwyddiad a fyddai’n codi ofn ar unrhyw gymdogaeth.

Gyda chymaint o ofn yn gysylltiedig â chlefyd fel teiffoid, does dim syndod nad oedd croeso i ddau deulu heintus yn Ysbyty Chwarel Dinorwig. Roedd y chwarelwyr yn grediniol nad oedd Ysbyty’r Chwarel yn sefydliad addas ar gyfer trin clefyd o’r fath; meddent, ‘there would have been some sense in selecting a place like Llandudno for people to recover… instead of a place such as the Dinorwic Quarry Hospital!’ Hanfod eu dadl mewn gwirionedd oedd y cwestiwn ynghylch perchnogaeth Ysbyty Chwarel Dinorwig. Ym marn y chwarelwyr nid oedd gan Assheton Smith yr hawl i yrru unigolion fel y mynnai i’r ysbyty gan mai’r gweithwyr oedd yn ysgwyddo’r baich ariannol o gynnal y sefydliad; cytunent ‘that it is his property; [but] it is also quite true that he has conveyed it to the use of the workmen belongin to Dinorwic Quarries Benefit Club, who bear the whole expense of maintaining it.’

Er nad oedd y ddadl ynghylch y teuluoedd teiffoid yn factor canolog yn ystod Cload Allan 1885-6, ni ddylid chwaith ei ddiystyru. Mae Sgandal Teiffoid Dinorwig yn adlewyrchu’r ffrwgwd a fodolai rhwng y gwas a’r meist dros yr hawl i berchnogi darpariaeth iechyd y chwarel, wrth i drefniadau yn ymweund a’r gyfundrefn iechyd effeithio ar berthnasau llafur.