Chweched Dosbarth Ysgol Brynrefail dan fygythiad

Dyma erthygl o Eco’r Wyddfa, Rhifyn y Gaeaf sydd ar werth mewn siopau lleol ar 18 Rhagfyr.

Eco'r Wyddfa
gan Eco'r Wyddfa

Mae Cyngor Gwynedd yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn o bryd i glywed barn disgyblion, teuluoedd, staff ysgolion a chymunedau am addysg pobl ifanc dros 16 oed yn Arfon. Y cwestiwn ydi sut y gellid cynnig y cyfleoedd gorau i bobl ifanc yr ardal.  

Ond mae pryder ymysg rhai y gallai hyn arwain at greu coleg trydyddol yn yr ardal a chau chweched dosbarth ysgolion Arfon, gan gynnwys chweched Ysgol Brynrefail. Mae’r ymgynghoriad yn dod i ben ar 22 Rhagfyr.

Meddai Garem Jackson, Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd: “Does dim newid sylweddol wedi bod ym mhatrwm addysg ôl-16 yn ardal Arfon ers peth amser. Gyda thirlun addysg ôl-16 yn newid ar draws Cymru, mae’n amserol felly i ni gymryd cam yn ôl, er mwyn gweld os ydi’r sefyllfa bresennol yn ateb anghenion ein pobl ifanc yn llawn.

Eco’r Wyddfa’n mynychu cyfarfod cyhoeddus

Fe aeth gohebydd Eco’r Wyddfa i gyfarfod cyhoeddus dros Zoom wedi ei drefnu gan Adran Addysg Cyngor Gwynedd i glywed mwy. Pwysleisiodd Garem Jackson yn y cyfarfod nad oedd unrhyw gynlluniau wedi eu gwneud hyd yma, ond bod y Cyngor wedi gwneud cais am grant Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain am £18 miliwn ar gyfer campws, rhag ofn mai coleg trydyddol fyddai’r dewis.

Esboniodd Mr Jackson bod cyflogwyr gogledd Cymru yn chwilio am sgiliau a chymwysterau nad ydynt yn cael eu darparu bob amser gan y system addysg ôl-16 bresennol. “Mae disgwyliadau cyflogwyr yn newid, gyda llawer mwy o bwyslais ar feysydd fel gwasanaethau digidol, y sector ynni gwyrdd a bwyd ac amaeth. Mi fydd felly yn hanfodol bod y gyfundrefn addysg ôl-16 i’r dyfodol yn paratoi ein pobl ifanc ar gyfer y cyfleoedd fydd yn deillio o’r holl sectorau craidd.”

Adran Addysg Cyngor Gwynedd sy’n gyfrifol am gyrsiau Safon Uwch, gyda Choleg Llandrillo Menai yn rheoli cymhwysterau eraill, gan gynnwys sgiliau galwedigaethol. Doedd Mr Jackson ddim wedi trafod gyda Choleg Llandrillo Menai eto meddai, ond roedd yn awyddus i fuddsoddi mewn offer i gynnig cyfleodd gwell i ddisgyblion mewn meysydd newydd.

Roedd y Cynghorydd Cemlyn Rees Williams, deilydd portffolio addysg Cyngor Gwynedd, yn pryderu nad oedd pobl ifanc ym mhob ardal yn cael yr un cyfleodd a safon o addysg o bosib, a bod angen ystyried sut orau i daclo hyn. Roedd yn erfyn ar bobl i beidio bod yn blwyfol wrth ystyried y mater. Hoffai’r gohebydd hwn fentro awgrymu, mai cynnig mwy o gefnogaeth a chymorth i’r ardaloedd hynny sydd angen gwella yw’r dull gorau o newid y sefyllfa.

Cwestiynau

Derbyniodd Ysgol Brynrefail Gydnabyddiaeth o Ragoriaeth mewn Addysg a Hyfforddiant gan Estyn yn dilyn yr arolwg o’r ysgol yn mis Chwefror eleni ac yn ôl yr Arolygwr, “Yn y chweched dosbarth, mae cyfran y disgyblion sydd yn cwblhau eu cyrsiau yn nodwedd gadarnhaol ac yn sylweddol uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol.” A yw’n ddilys holi felly pam bod angen newid?

Mae Ysgol Brynrefail yn cynnig dewis o 12 pwnc Safon Uwch, gan gynnwys y pynciau craidd. Mae hefyd yn rhan o gonsortiwm gydag ysgolion uwchradd Arfon, Môn a Choleg Llandrillo Menai sy’n darparu dewis o hyd at 20 o gyrsiau Safon Uwch a BTEC ychwanegol i ddysgwyr. Lleihau’r angen i gludo disgyblion i safleoedd gwahanol yw un o gymhellion yr Adran Addysg, ond wrth gwrs petai’r ddarpariaeth yn cael ei ganoli, byddai bron pob disgybl yn teithio o’i ardal.

Cafwyd cyfle i holi cwestiynau yn y cyfarfod agored, a’r cwestiwn cyntaf a ofynwyd oedd sut mae canlyniadau Lefel A Coleg Meirion Dwyfor, coleg trydyddol presennol Gwynedd, yn cymharu gydag ysgolion uwchradd Arfon. Doedd y Pennaeth Addysg ddim yn gallu ateb y cwestiwn; esboniodd ei fod yn ddarlun cymhleth ac yn anodd cymharu’r ystadegau.

Pryder arall a leiswyd oedd effaith cau chweched dosbarth ar ysgolion ac ar gymunedau. Pwysleisiodd Mr Jackson nad oedd penderfyniad wedi ei wneud i godi coleg trydyddol a phetai hynny’n digwydd, y byddai’r ysgolion yn derbyn cefnogaeth y Cyngor.

Holwyd am swyddi staff, a fyddai swyddi presennol yn cael eu diogelu, ac yn y tymor hir sut byddai ysgolion yn gallu denu athrawon o’r safon gorau heb apêl dysgu Lefel A?

Roedd awydd i wella’r gefnogaeth llesiant i ddisgyblion ymysg blaenoriaethau’r Adran Addysg. Ond un o agweddau o ragoriaeth Ysgol Brynrefail a nodwyd gan Estyn yn Chwefror 2020 oedd llesiant a gofal, cymorth ac arweiniad: “mae agweddau at ddysgu a lles y disgyblion yn eithriadol”. Mae Ysgol Brynrefail yn gymuned glos a gofalgar gyda staff ac athrawon sy’n adnabod y disgyblion er pan maen nhw’n 11 oed ac yn gwneud eu gorau drostynt.

Yr Iaith Gymraeg

Ymysg rhagoriaethau Ysgol Brynrefail a nodwyd gan Estyn yn Chwefror 2020, roedd agwedd gadarnhaol disgyblion at dreftadaeth eu hardal a’r iaith Gymraeg: “Nodwedd gref yw balchder y disgyblion yn eu hetifeddiaeth a’u cymuned leol. Mae bron pob disgybl yn ymfalchïo yn eu Cymreictod ac yn ymhyfrydu yn y ffaith eu bod yn medru siarad Cymraeg.” Mae’r chweched dosbarth yn allweddol wrth feithrin yr ymdeimlad hwn wrth iddynt arwain gweithgareddau o fewn yr ysgol a dysgu sgiliau bywyd pwysig drwy hynny. Sut fyddai’r Adran Addysg yn cynnal Cymreictod y bobl ifanc hyn mewn coleg chweched dosbarth gyda dylanwad Ysgol Friars ac ati?

Hefyd, a oes astudiaeth wedi ei gwneud o effaith cau chweched dosbarth ysgolion Dwyfor a Meirionnydd ar y Gymraeg fel iaith cymunedau? Sut byddai Adran Addysg Cyngor Gwynedd yn mynd ati i liniaru’r effaith andwyol gallai dileu chweched dosbarth o ysgolion fel Ysgol Brynrefail, Ysgol Dyffryn Ogwen ac Ysgol Dyffryn Nantlle ei gael ar Gymreictod yr ardaloedd hyn, sydd ymhlith unig gadarnleoedd yr iaith Gymraeg?

Fe fyddai’n wych gweld buddsoddiad mewn adnoddau i holl ysgolion uwchradd Gwynedd, fel bod disgyblion Lefel A a iau yn cael budd o’r adnoddau dysgu gorau posib. Y cwestiwn pwysig i’w holi yw a ddylai hyn ddigwydd ar draul ein hysgolion? Chwedl Arthur Picton, ‘Dim ffiars o beryg’.

Mae rhagor o fanylion am y broses ymgysylltu anffurfiol, gan gynnwys sut i gyflwyno sylwadau i’w gweld ar www.gwynedd.llyw.cymru/ol16arfonDyddiad cau anfon sylwadau yw 22 Rhagfyr 2020

MARED ROBERTS