Pan gafodd Aled Pritchard a’i bartner Anna Piechoca e-bost yn gofyn a fydden nhw’n hoffi i’w busnes ymddangos ar dudalennau’r beibl ffasiwn, Vogue, doedden nhw “methu credu’r peth!”
Ond erbyn hyn mae’r cwpl, a sefydlodd Canhwyllau Eryri yn 2017, wedi dechrau cael archebion o Lundain a thu hwnt, yn ogystal â chan eu cwsmeriaid ffyddlon yng Nghymru.
Fe astudiodd Aled Pritchard Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor, ac mae yn dweud ei fod o “wastad yn gwybod fyswn i eisiau gweithio i fi fy hun”.
Yn ystod eu blwyddyn ola’ yn y brifysgol fe benderfynodd Aled Pritchard ac Anna Piechoca wneud canhwyllau i’r teulu fel anrhegion Nadolig.
Er gwaetha cyfyngiadau’r coronafeirws, maen nhw wedi gallu cario ymlaen i werthu am eu bod nhw’n cynhyrchu’r canhwyllau yn eu cartref.
“Mae bob dim gynnon ni yn y tŷ felly efo’r lockdown rydan ni wedi gallu ffocysu mwy ar y busnes, a rhoi 100% i mewn i’r peth,” meddai Aled Pritchard.
Darllenwch fwy am lwyddiant Canhwyllau Eryri yng nghylchgrawn golwg neu ar golwg+