Mae Parc Cenedlaethol Eryri a busnesau yn yr ardal sy’n ddibynnol ar dwristiaeth ymhlith rheini sydd wedi croesawu canllawiau newydd Llywodraeth Cymru sy’n atgyfnerthu’r angen i bobol Cymru aros gartref.
Mae Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol Cymru hefyd yn galw ar holl drigolion gwledydd Prydain i barchu’r rheolau a’r mesurau yng Nghymru er mwyn gwarchod pawb.
Ymarfer yn lleol
Bydd lleoliadau gwledig mwyaf poblogaidd Cymru – gan gynnwys Yr Wyddfa, Pen y Fan a Llwybr Arfordir Penfro – yn parhau i fod ar gau trwy ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru hyd nes yr ystyrir ei bod yn ddiogel i’w hail-agor.
“Golyga’r mesurau hyn yng Nghymru na chaiff pobol yrru i ymarfer corff yng Nghymru – waeth lle maent yn byw,” meddai Emyr Williams, prif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
“A bydd meysydd parcio a mynediad i’r safleoedd mwyaf poblogaidd ym Mharciau Cenedlaethol Cymru yn parhau i fod ar gau.
“Rydym yn annog ymwelwyr sy’n bwriadu dod i ddringo’r Wyddfa neu unrhyw gopaon a safleoedd poblogaidd eraill i ddilyn canllawiau’r llywodraeth, i aros gartref ac i ymarfer corff yn eu hardal leol – peidiwch â gwneud siwrnai ddiangen.
“Byddwn yn parhau i adolygu’r safleoedd caëedig yn wythnosol a dim ond yn agor safleoedd pan fydd yn ddiogel i wneud hynny.”
Effaith ar dwristiaeth
Mae Stephen Jones sy’n hyfforddwr dringo creigiau ac yn berchennog ar gwmni gweithgareddau awyr agored Anelu yn cydnabod bod y pandemig wedi cael “effaith ddifrifol” ar y diwydiant awyr agored yng Nghymru, ond mae wedi galw ar bobol i barchu’r rheolau sydd mewn lle yng Nghymru.
“Mae’n bwysig bod pobl yn deall bod gan Gymru ei dull ei hun o reoli’r firws a’r cyfyngiadau sydd ar waith.
“Mae’r pandemig wedi cael effaith ddifrifol ar y diwydiant awyr agored ledled Cymru, ond rydym ni wedi defnyddio’r amser i addasu ein model busnes ar gyfer y blynyddoedd i ddod.”
Mae Stephen Jones wedi diolch i’r Parciau Cenedlaethol yng Nghymru am rannu gwybodaeth sy’n glir drwy gydol y cyfnod ansicr yma, ond mae’n pryderu y bydd neges ddiweddar y Prif Weinidog, Boris Johnson yn amharu ar hyn.
“Roedd y neges gymysg a dryslyd gan y Prif Weinidog yn helpu dim ar bethau, a mwy na thebyg wedi arwain at deithio sydd ddim yn hanfodol.
“Mae’r neges gan Lywodraeth Cymru ar y cyfan wedi bod yn glir ac yn gyson, ac mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a’r gwasanaethau brys hefyd wedi ailadrodd yr un neges nad yw Gogledd Cymru ar agor i ymwelwyr ar hyn o bryd.
“Y flaenoriaeth yw lleihau trosglwyddiad, lleihau’r effaith ar y GIG a gwarchod ein cymunedau.
“Rydym yn cefnogi’r neges i aros adref ac yn edrych ymlaen at groesawu pobl i Ogledd Cymru unwaith y bydd y sefyllfa’n gwella.”
Mesurau yn berthnasol i bawb
Ategodd Tegryn Jones, prif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro’r un neges gan ddweud fod y mesurau yn berthnasol i bawb, ac mae Julian Atkins, prif weithredwr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog hefyd wedi diolch i bobol am aros gartref er mwyn gwarchod y Gwasanaeth Iechyd.
Darllenwch ragor am hyn ar Golwg360