Bro Wyddfa yn rhan o apêl Nadolig

Cyfranwch heddiw

Siân Gwenllian
gan Siân Gwenllian

Mae ymgyrch wedi ei lansio i godi arian ar gyfer 8 prosiect bwyd yn ardal Arfon, gan gynnwys prosiect ym mro’r Wyddfa.

Mae Siân Gwenllian AS yn lansio ymgyrch codi arian ar gyfer 8 prosiect bwyd yn ei hetholaeth.

Y llynedd codwyd dros £2,000 tuag at fanciau bwyd o amgylch yr etholaeth, yn cynnwys Cynllun Bwyd Cwm-y-glo a Llanrug, a gobeithiwn y gallwn efelychu rhywfaint o’r llwyddiant hwnnw eleni, a darparu cyllid hanfodol i brosiectau bwyd ledled yr etholaeth.

Yn ôl y Trussell Trust, dosbarthwyd 1.4 miliwn o barseli bwyd brys i bobl a oedd yn wynebu anawsterau ariannol rhwng Ebrill 2023 a Medi 2024.

Y prosiectau fydd yn elwa o’r apêl yw Banc Bwyd Caernarfon, Banc Bwyd Coed Mawr, Bwyd i Bawb Bangor, Cynllun Bwyd yr Orsaf (Penygroes), Porthi Dre (Caernarfon), Pantri Pesda (Bethesda), Cynllun Bwyd Cwm-y-glo a Llanrug, a Banc Bwyd Cadeirlan Bangor.

Gallwch rhoi drwy ddilyn y ddolen hon, ac os ydach chi’n byw o fewn cyrraedd i swyddfa’r Blaid ar Stryd y Castell yng Nghaernarfon, gallwch roi gyfrannu eitemau i’r fasged. Bydd cynnwys y casgliad yn mynd i gynllun rhannu bwyd Porthi Dre.

Diolch rhag blaen am eich cyfraniad.

Dweud eich dweud