Ras Yr Wyddfa 2023

Ras yr Wyddfa yn mynd yn ei flaen ond ddim i’r Copa oherwydd y tywydd

gan Elgan Rhys Jones

Daeth 500 o Rhedwyr i Lanberis Dydd Sadwrn ar gyfer Ras y Wyddfa 2023.

Hon oedd Ras rhif 48 i fyny copa uchaf Cymru. Ond oherwydd y tywydd garw penderfynnodd y trefnwyr i beidio rhedeg at y Copa a cafodd y Ras ei chwtogi at Clogwyn.

Hanner awr cyn y Ras cafodd ei chwtogi ymhellach a’r pwynt uchaf erbyn hyn oedd gwaelod allt Moses.

Yn y gwynt a’r glaw cychwynodd y rhedwyr o Lanberis tuag at yr Wyddfa gyda’r mynydd a’r tywydd yn her iddynt.

Ar y troiad a pwynt uchaf y Ras, Dan Howarth o Loegr oedd ar y blaen yn Ras y dynion. Yn erbyn gadael y mynydd Chris Richards o Loegr oedd yn arwain. Ond wrth gyrraedd y tarmac roedd Isacco Costa o’r Eidal ar ei sodlau.  Parhaodd yr Eidalwr ar y blaen wrth ddychwelyd nôl i Lanberis ac Costa oedd y cyntaf dros y llinell mewn amser o 38:59. Chris Richards o Loegr oedd yn ail gyda Andy Douglas o’r Alban yn ymuno ar y podiwm. Tom Wood oedd y Cymro cyntaf i orffen.

Tra yn Ras y Merched Holly Page o’r Alban fu’n arwain y ras. Cipiodd Page Ras y merched mewn amser o 46:01. Phillipa Williams ac Caroline Lambert oedd yn ail a thrydydd. Katrina Entwistle oedd y Cymraes cyntaf.

Doedd dim Ras i Gopa’r Wyddfa eleni. Er y tywydd garw mi aeth Ras y Wyddfa ymlaen. Gobeithio fydd y Ras yn dychwelyd i’r Copa flwyddyn nesaf.